Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Cydymdeimladau - Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin

Cofnodion:

Dechreuoddy Cadeirydd y cyfarfod gyda munud o dawelwch

er cof am Ei Uchelder Brenhinol, y Tywysog Philip, Dug Caeredin.

 

Eisteddodd pawb yn dawel fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

 

25.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

26.

Cofnodion. pdf eicon PDF 220 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 a 22 Chwefror a 2 Mawrth 2021 a'u llofnodi fel cofnodion cywir.

 

27.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

 

28.

Hen Lofa Cefn Gorwydd, Tre-gwyr, Abertawe. pdf eicon PDF 513 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio caniatâd i addasu'r Cytundeb Adran 106 mewn perthynas â chaniatâd cynllunio

 2017/1451/OUT (ar gyfer datblygiad preswyl hen Lofa Gorwydd, Gorwydd Road, Tre-gŵyr).

 

Cyflwynwyd y cais o dan A106A(1)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd), ac roedd yr ymgeisydd yn ceisio diwygio'r agweddau canlynol ar y cytundeb A106;

(i) cael gwared ar y cyfraniad addysg ar gyfer yr ysgolion cyfrwng Saesneg a

newid y pwynt sbarduno ar gyfer talu; a

(ii) lleihau cyfraniad y briffordd o £35,000 i £20,000.

(iii) cyflwyno cymal Morgeisai mewn Meddiant ar gyfer y tai fforddiadwy rhentu cymdeithasol.

 

Amlinellwyd a nodwyd hanes cefndir rhoi'r caniatâd gwreiddiol yn 2018 a'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynglŷn â'r cynigion diwygiedig yn yr adroddiad.

 

Derbyniwyd 151 o lythyrau gwrthwynebu hwyr ers cyhoeddi papurau'r agenda.

 

Roedd y pwyllgor wedi ystyried a gwrthod cais blaenorol i amrywio Cytundeb Adran 106 mewn perthynas â 2017/1451/OUT yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2021, "i newid y rhaniad deiliadaeth tai fforddiadwy, i gael gwared ar y cyfraniad addysg ar gyfer yr ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn unig ac i newid y pwynt sbarduno ar gyfer y taliad addysg, ac i leihau'r cyfraniad priffyrdd i £20,000" am y rheswm canlynol:

 

"Byddai'r cynnig i ddarparu tai canolradd fel yr unig fath o dai fforddiadwy a ddarperir o fewn y safle datblygu a sicrheir gan gytundeb Adran 106 yn methu darparu cymysgedd cytbwys o ddeiliadaethau tai, a fyddai'n niweidiol i adfywio cymunedol a chydlyniant cymdeithasol".

 

Amlinellwyd y newidiadau sylweddol rhwng y cais hwnnw a wrthodwyd yn y cyfarfod diwethaf a'r cais diwygiedig hwn gerbron y Pwyllgor yn yr adroddiad, ac fe'u nodwyd yn y cyflwyniad gan swyddogion.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Alex Williams (gwrthwynebydd).

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais a bod y cytundeb Adran 106 gwreiddiol sy'n ymwneud â chaniatâd cynllunio 2017/1451/OUT yn cael ei amrywio.

 

 

29.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod)

 

1) gohirio'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sylwadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Darpariaeth Addysg ar gyfer meddianwyr y dyfodol,

 darpariaeth barcio, lle ar gyfer amwynderau preifat a chyfraniadau A106 posib.

 

 

#(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2021/0453/FUL - Cadw a chwblhau'r newid defnydd o gartref preswyl (Dosbarth C3) i gartref plant (Dosbarth C2) gyda chynnydd yn uchder crib yr estyniad cefn presennol, addasiadau i'r ffenestriad ac ychwanegu balwstradau gwydr at flaenlun y llawr cyntaf a'r ail lawr yn 260 Oystermouth Road, Canol y Ddinas, Abertawe

 

Cyn gohirio:

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Joanne Jones (gwrthwynebydd) a Joseph Pasha (ymgeisydd).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd D Phillips (aelod lleol).

 

 

2) gohirio’r cais cynllunio a nodir isod er mwyn cynnal ymweliad safle.

 

#(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2020/1590/FUL - Newid defnydd o Gyfleuster Cymunedol (Dosbarth D2) i Anheddau Preswyl (Dosbarth C3) ac ailddatblygu'r safle i ddarparu 23 o unedau gydag estyniad to cysylltiedig, mynediad newydd i gerbydau, gwaith isadeiledd a thirlunio yn hen safle Clwb Bechgyn Abertawe, Berwick Terrace, Mount Pleasant, Abertawe

 

Cyn gohirio:

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Diwygiad i dudalen 105 yr adroddiad:

Newid y geiriad 'symud y rhwystr cerbydau ar hyd Berwick Terrace' i 'ailosod y rhwystr cerbydau ar hyd Berwick Terrace'. Mae hyn er mwyn adlewyrchu mai pwrpas cael gwared ar y rhwystr yw caniatáu mynediad i gerbydau i'r safle yn unig. Bydd Berwick Terrace yn parhau i fod ar gau ar ôl y gwaith datblygu, ond gyda'r pwynt cyfyngu wedi'i adleoli i'r de ar hyd Berwick Terrace, y tu hwnt i'r mynediad newydd.

 

Diwygio Amod 6 ar dudalen 108 i'r canlynol:

6. Ni fydd y fflatiau a gymeradwyir drwy hyn yn cael eu dwyn i feddiant buddiol hyd nes y bydd y rhwystrau ar Berwick Terrace wedi'u hadleoli i leoliad i'r de o'r mynediad newydd arfaethedig a bod diwygiadau i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig wedi'u cwblhau.

 

 

3) cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

#(Eitem 3) – Cais Cynllunio 2020/2393/TEM - Defnyddio tir ar gyfer rali gwersylla ar gyfer uchafswm o 130 o unedau rhwng 25 Awst 2021 a 5 Medi 2021 (cynhwysol) ym Maes 7700, Bank Farm, Horton, Abertawe