Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

8.

Cofnodion. pdf eicon PDF 379 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir.

 

9.

Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro - GCC 671 Tir gerllaw 42 Llwyn Close, Sgeti, Abertawe. pdf eicon PDF 892 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn gofyn am ystyriaeth i gadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed dros dro sef GCC 671, Tir gerllaw 42 Llwyn Close, Sgeti, Abertawe (2020) fel gorchymyn llawn.

 

Cafodd manylion cefndir a hanes y mater, ynghyd â rhoi'r gorchymyn dros dro yn y lle cyntaf ym mis Mawrth 2020, eu hamlinellu a'u manylu gan Swyddogion. Roedd y gorchymyn yn cwmpasu dwy goeden yn y lleoliad. Nodwyd bod teitl y gorchymyn cychwynnol ychydig yn anghywir gan mai enw'r ffordd yw 'Llwyn Mawr Close' ac nid 'Llwyn Close'.

 

Amlinellwyd y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i'r gorchymyn dros dro yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn y gohiriad yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr, roedd swyddogion wedi cyhoeddi gorchymyn dros dro pellach i warchod y coed.

 

Amlinellwyd bod peth mân waith wedi'i wneud ar un o'r coed gan weithwyr proffesiynol cymwysedig yn dilyn cytundeb gan swyddogion.

 

Rhoddodd David Stanton (gwrthwynebydd) anerchiad i'r Pwyllgor a siaradodd yn erbyn y cynigion i osod GCC ar y goeden. Dywedodd ei fod yn dymuno garchod y goeden a'i fod wedi gwneud rhywfaint o waith ar y goeden, a gymeradwywyd gan swyddogion, ar gost sylweddol iddo'i hun. Dywedodd ei fod yn dymuno gwarchod a gwella'r goeden a'r amgylchedd lleol.

 

Penderfynwyd cadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed ar y tir gerllaw 42 Llwyn Close, Sgeti, Abertawe (2020), gan addasu'r teitl i "Tir gerllaw: 42 Llwyn Mawr Close, Sgeti, Abertawe (2020)."