Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd C Anderson - Personol – Cais Cynllunio 2020/0059/FUL – mae'r ymgeisydd yn hysbys i mi.

 

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 299 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

 

3.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

4.

Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro - GCC 671 Tir gerllaw 42 Llwyn Close, Sgeti, Abertawe. pdf eicon PDF 892 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn gofyn am ystyriaeth o'r cadarnhad, fel Gorchymyn llawn, am Orchymyn Cadw Coed dros dro 671, tir gerllaw: 42 Llwyn Close, Sgeti, Abertawe (2020).

 

Amlinellwyd manylion cefndir y mater.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Roedd sylwadau hwyr a ffotograffau gan wrthwynebydd wedi'u cyflwyno ynghyd â chais gan y gwrthwynebydd i'r Pwyllgor ohirio'r cais gan nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno sylwadau'n bersonol.  (Sylwer: Dosbarthwyd y sylwadau/ffotograffau y cyfeirir atynt uchod i Aelodau'r Pwyllgor â'u chyhoeddi ar wefan y cyngor cyn y cyfarfod)

 

Penderfynwyd gohirio'r adroddiad hwnnw tan gyfarfod nesaf y pwyllgor er mwyn rhoi cyfle i'r gwrthwynebydd fod yn bresennol.

 

5.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod)

 

1) cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

#(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2020/0059/FUL - Ailddatblygu'r safle i ddarparu 21 o fflatiau hunangynhwysol mewn un bloc 4 llawr gyda gwaith cysylltiedig yn 2-3 Tontine Street, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Ychwanegiad at yr Adroddiad ar dudalen 55

Tai Fforddiadwy

Fel arfer, dylai cynigion a oedd yn cynnwys datblygiadau preswyl ar safleoedd o fewn terfynau aneddiadau â lle i 5 annedd neu fwy ddarparu ar gyfer tai fforddiadwy ar y safle, yn unol â gofynion Polisi H 3.

 

Mae'r safle ymgeisio o fewn yr Ardal Ganolog a byddai'r gofyniad hwnnw'n estyn i 20%. Er y gofyniad polisi arferol hwn, mae'r cynllun, ym mharagraff 2.4.17, yn nodi'n benodol y bydd 'cynigion ar gyfer addasu, dymchwel neu newid defnydd eiddo masnachol yn cael eu heithrio o'r polisi'. Ar y sail hon, nid yw darparu tai fforddiadwy ar y safle'n ofyniad polisi.

 

6.

Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol (2019-20). pdf eicon PDF 569 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn hysbysu Aelodau'r Pwyllgor fod Adroddiad Monitro Blynyddol cyntaf Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl) wedi'i gyhoeddi ar wefan y cyngor, a'i fod yn darparu crynodeb byr o'r prif ganfyddiadau ac yn amlinellu bod yr holl dargedau a osodwyd yn cael eu cyflawni.