Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, W Evans, M H Jones, M B Lewis, R D Lewis, P Lloyd, C Richards, P B Smith, D W W Thomas a T M White – Personol – Eitem 4 – Cais Cynllunio 2020/116/106 – mae'r ymgeisydd yn gyd-gynghorydd.

 

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 106 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgorau Cynllunio a gynhaliwyd ar 1 a 6 Hydref 2020 fel cofnodion cywir.

 

12.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

13.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio y cyfeirir atynt isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.

 

(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2020/0097/FUL - Adeiladu llety myfyrwyr pwrpasol uchel iawn â 328 gwely gyda gwaith parcio, mynediad a seilwaith cysylltiedig ar dir i’r gogledd o Jockey Street, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

 

Anerchodd Matthew Gray (asiant) y Pwyllgor a siaradodd o blaid y cynigion.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106.

 

(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2019/2882/S73 - Datblygiad preswyl sy'n cynnwys 70 o dai annedd gyda ffyrdd a lle agored cysylltiedig, (manylion golwg, tirlunio, cynllun a maint y datblygiad gan gynnwys lefelau arfaethedig o ganiatâd cynllunio ar gyfer pob tŷ annedd 2006/0650 fel y'i hamrywir gan 2011/0329 a 2013/0425) ar dir ym Mryn Hawddgar, Clydach, Abertawe (Amrywiad ar amod 1 caniatâd cynllunio 2018/1279/RES a roddwyd ar 6 Rhagfyr 2018 i ddiwygio'r cynlluniau cymeradwy ar Dir ym Mryn Hawddgar, Clydach, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd Phil Baxter (asiant) y Pwyllgor a siaradodd o blaid y cynigion.

 

Anerchodd y Cynghorydd P B Smith (Aelod Lleol) y Pwyllgor a siaradodd o blaid pryderon y preswylwyr lleol ynghylch problemau draenio posib sy'n deillio o'r safle.

 

 

 

(Eitem 3) – Cais Cynllunio 2020/1818/FUL - Dormer blaen, estyniad i dalcen cefn y to, cyntedd blaen, ail-doi prif ran yr annedd, gosod ffenestri to, ychwanegiadau at y ffenestriad ac addasiadau iddo , estyniad i'r dramwyfa01810, y sied gefn a’r storfa feiciau yn 19 Manselfield Road, Murton, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

(Eitem 4) – Cais Cynllunio 2020/1169/106 - Ffermdy newydd (Addasu cymal 4a a 4b o gytundeb A52 ar ganiatâd cynllunio 2/2/88/0046/03 a roddwyd ar 28 Ebrill 1989) a rhoi cyfyngiad annedd menter wledig TAN6 yn ei le yn llain 6717 Ochr Ogleddol Ffermdy Llannant, Llannant Road, Gorseinon, Abertawe.

 

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106.