Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddianau canlynol:

 

Y Cynghorydd T M White – Eitem 5 Agenda – Canllawiau Cynllunio Atodol (HMO) – Personol – Mae gen i berthynas sy'n byw yn ardal y CAA

 

 

14.

Cofnodion. pdf eicon PDF 49 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y pwyllgorau cynllunio a gynhaliwyd ar 25 Mai a 6 Mehefin 2017 fel cofnodion cywir.

 

15.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

16.

Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth a Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr. pdf eicon PDF 924 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm a'r Ymgynghorydd Cynllunio o Lichfields adroddiad manwl ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn amlinellu'r  sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghorydd cyhoeddus diweddar i aelodau, a cheisiwyd cytuno ar yr ymatebion i'r rhain a’r diwygiadau arfaethedig i'r Canllawiau, ac i fabwysiadu’r fersiwn derfynol fel y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA).

 

Amlinellwyd a chynhwyswyd manylion cefndir y gwaith o baratoi'r cynigion a luniwyd mewn partneriaeth â'r ymgynghorwyr cynllunio, Lichfields, yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd manylion y cyd-destun cynllunio, pwrpas y CCA, yr ymgynghoriad cyhoeddus a'r ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd, yr ymatebion a dderbyniwyd a'r materion allweddol a oedd yn codi o'r ymgynghoriad yn yr adroddiad yn ogystal â'r goblygiadau ariannol a chyfreithiol.

 

Darparwyd cyflwyniad gweledol ac adroddwyd am fwy o lythyrau gwrthwynebiad hwyr.

 

Siaradodd Mr Roach a Mr Rowe yn erbyn y cynigion.

 

Siaradodd y Cynghorwyr C E Lloyd a N J Davies (aelodau lleol) mewn perthynas â'r cynigion, gan godi pryderon gan breswylwyr lleol gan geisio eglurder ynghylch agweddau penodol ar y canllawiau arfaethedig. Siaradodd y Cynghorydd P N May (aelod lleol) yn erbyn y cynigion ac awgrymodd ddiwygiadau arfaethedig i'r cynllun.

 

Yna trafodwyd y cynigion Aelodau'r Pwyllgor. Dywedodd y Swyddog Cynllunio wrth y Pwyllgor y byddai’r newidiadau i'r CCA a fyddai'n gosod cyfyngiadau ychwanegol ar HMOs yn arwain at yr angen am fwy o waith i ystyried effeithiau ôl-ddilynol newidiadau o'r fath a'r angen am ddiwygiadau angenrheidiol eraill i'r CCA. Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol wrth y Pwyllgor hefyd na ellid gwneud diwygiadau i'r argymhelliad yn yr adroddiad sy'n ymwneud â newidiadau i'r CCA, megis diwygiadau arfaethedig i'r cyfyngiadau trothwy, heb wneud ymarfer ymgynghori arall.

 

PENDERFYNWYD peidio â chymeradwyo’r argymhellion fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad a phenderfynwyd gwneud mwy o waith i adolygu'r CCA a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus ychwanegol. Penderfynwyd y dylai gwaith pellach ail-archwilio’r cyfyngiadau trothwy ar gyfer HMOs yn y sir, gan gynnwys effaith cyflwyno trothwy o 15% yn ne ward Uplands a chyflwyno polisi i atal 'rhyngosod' eiddo nad ydynt yn HMO rhwng eiddo HMOs.

 

17.

Cymeradwyo Arweiniad Dylunio Drafft Atodol wedi'i ddiweddaru i Berchnogion ar gyfer ymgynghoriad. pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a ddarparodd drosolwg o'r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol drafft wedi’i diweddaru, "Canllaw Dylunio ar gyfer Datblygiadau Perchnogion Tai" i'r Pwyllgor a cheisiodd awdurdod i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chyda rhanddeiliad.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r CCA drafft fel yr atodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

18.

Gorchymyn Cadw Coed 611 - Tir yn 344, Heol Abertawe, Waunarlwydd, Abertawe. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio adroddiad er mwyn ystyried cadarnhau, fel gorchymyn llawn, y Gorchymyn Cadw Coed 611 dros dro ar dir yn 344, Heol Abertawe, Waunarlwydd, Abertawe.

 

Amlinellwyd a rhoddwyd manylion y gwrthwynebiad a’r sylwadau a dderbyniwyd o ran y cynnig yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed 611: Tir yn 334, Heol Abertawe, Waunarlwydd, Abertawe

 

19.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

#(Eitem 1) Cais Cynllunio 2017/1049FUL - 123 Rhodfa San Helen, Brynmill, Abertawe

 

Gan na fabwysiadwyd y CCA ar HMOs gan y Pwyllgor, tynnwyd Argymhelliad B (gwrthwynebiad) yn ôl.

 

#(Eitem 2) Cais Cynllunio 2017/0993/FUL – 90 Rhodfa Hawthorn, Uplands, Abertawe

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Mr M Blagrove (gwrthwynebydd) a Mr D Micklewright.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

#(Eitem 3) Cais Cynllunio 2017/0775/FUL – Tir yn Heol Pentre Bach, Gorseinon, Abertawe SA4 4ZA.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Mr A Rees (asiant).

 

Anerchodd J P Curtice (aelod lleol) y Pwyllgor a gofynnodd i'r cynigion arafu traffig arfaethedig gael eu diwygio fel eu bod yn cynnwys llwyfannau arafu ac nid twmpathau cyflymder.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Tudalen 242 - Gwall teipio yn hanes y safle. Cymeradwywyd cais 2015/2506 ar 30 Medi 2016, nid 30 Medi 2011.

Ers i'r adroddiad gael ei ysgrifennu, mae gwaith wedi dechrau ar y safle i roi'r caniatâd cynllunio 2015/2506 ar waith. Mae'r caniatâd cynllunio felly mewn bodolaeth a bydd mewn bodolaeth am byth. O ganlyniad i hyn, a fel yr amlinellwyd ar dudalen 264 yr adroddiad, nid oes angen ystyried egwyddor y datblygiad ymhellach.

 

Cymeradwywyd yn amodol ar gytundeb S106.

 

#(Eitem 4) Cais Cynllunio 2017/0482/S73 – Tir yn Nhŷ Drummau, Heol Gellifedw, Gellifedw, Abertawe

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Mr N Green (asiant).

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Yn y paragraff olaf ond un ar dudalen 290 yr adroddiad, dylai llinell 4 ddarllen, "heblaw am roi 'Louise Thomas' ac 'Emma Jones' yn lle 'Lucy Thomas' a 'Lisa Thomas'.

 

Cymeradwywyd yn amodol ar roi caniatâd cynllunio dros dro am 4 blynedd ac i'r unigolion a enwyd fel yr amlinellir.

 

#(Eitem 5) Cais Cynllunio 2017/0768/S73 – Tir i'r gorllewin o Barc y Bont, ger Trinity Place, Pontarddulais, Abertawe