Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorwyr P B Black, M H Jones, E J King, M B Lewis, R D Lewis, P Lloyd, A H Stevens, D W W Thomas, L J Tyler-Lloyd a T M White – Cais Cynllunio Rhif 2017/0262/FUL(Eitem 5) – Personol oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyd-gynghorydd.

 

Y Cynghorydd A H Stevens – Eitem 5 yr Agenda - Cais Parc Y Werin, Gorseinon – Personol a Rhagfarnol – yn rhan o drafodaethau cynt am y mater fel Cynghorydd Tref a gadawodd cyn y drafodaeth a Chais Cynllunio Rhif 2017/0795(Eitem 3) - rhan o drafodaethau cynt am y mater fel Cynghorydd Tref a gadawodd cyn y drafodaeth.

 

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 75 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod

Cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2017 yn gofnod cywir.

 

7.

Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

8.

Cais i gofrestru tir a adwaenir fel Parc y Werin, Gorseinon, Abertawe fel maes tref neu bentref. pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Sandie Richards, Prif Gyfreithiwr, ar ran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Dealltwriaeth Busnes.

 

Amlinellwyd mewn manylder fanylion a hanes cefndirol perthnasol i'r cais am statws maes tref/pentref yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynwyd, y profion cyfreithiol perthnasol, baich y prawf gofynnol, cylch gwaith a rôl yr Arolygydd, yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd a chanfyddiadau'r Arolygydd, y casgliad a'r argymhellion.

 

Ar ran yr ymgeiswyr, anerchodd Mr C Huggill y Pwyllgor, gan siarad o blaid y cais. Cyfeiriodd hefyd at y llythyr hwyr a gyflwynwyd ynglŷn â'r mater.

 

Atebodd Sandie Richards, gan ddatgan bod yr adran gyfreithiol wedi gweld ac ystyried y llythyr ac nid oedd yn newid canfyddiadau adroddiad yr Arolygydd.

 

PENDERFYNWYD

 

1. GWRTHOD cais y cofrestriad uchod.

 

2. Ni ddylai UNRHYW RAN o dir y safle cais gael ei ychwanegu i'r Rhestr o Feysydd Tref neu Bentref o dan adran 15 Deddf Tiroedd Comin 2006.

 

9.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Cais am Orchymyn Dargyfeirio Llwybr Cyhoeddus sy'n ymwneud â Llwybr Troed Rhif 4 yn Fferm Brynmaen yng nghymuned Mawr. pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Sandie Richards, Prif Gyfreithiwr, ar ran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Dealltwriaeth Busnes.

 

Amlinellwyd manylion a hanes cefndirol perthnasol i'r cais yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynwyd, y profion cyfreithiol statudol i'w defnyddio, materion iawndal, a'r casgliadau anffurfiol yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

1. cymeradwyo'r cais a chreu gorchymyn dargyfeirio llwybr cyhoeddus, ac

2. os derbynnir gwrthwynebiadau i'r gorchymyn, gyfeirio'r gorchymyn i'r Arolygiaeth Gynllunio er mwyn iddi benderfynu arno.

 

 

10.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Cais am orchymyn dargyfeirio llwybr troed mewn cysylltiad â rhan o lwybr troed rhif 51 yng Nghlôs Voylart, Dynfant pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Sandie Richards, Prif Gyfreithiwr, ar ran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Dealltwriaeth Busnes.

 

Amlinellwyd manylion a hanes cefndirol perthnasol i'r cais yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynwyd, yr ystyriaeth a'r ymgynghoriadau yr ymgymerwyd â hwy, a'r casgliadau y daethpwyd iddynt yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

1. cymeradwyo'r cais a chreu gorchymyn dargyfeirio llwybr cyhoeddus, ac

2. os derbynnir gwrthwynebiadau i'r gorchymyn, gyfeirio'r gorchymyn i'r Arolygiaeth Gynllunio er mwyn iddi benderfynu arno.

 

11.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

#(Eitem 1) Cais Cynllunio 2017/0648 - Hen Ganolfan Dewi Sant a thir cyfagos i'r gogledd ac i'r de o Heol Ystumllwynarth, canol y ddinas, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Mr G Edwards (gwrthwynebwr) a Mr D Lewis (ymgeisydd)

 

Siaradodd y Cynghorydd R C Stewart (Arweinydd), a'r Cynghorydd R Francis-Davies, (Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr) o blaid y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Adroddwyd ar ohebiaeth hwyr gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent a oedd yn argymell amod ychwanegol.

 

Adroddwyd ar ohebiaeth hwyr gan Ganolfan Ddinesig Abertawe a oedd yn amlinellu sawl gwrthwynebiad ac a oedd yn argymell sawl amod ychwanegol.

 

Newidiadau i'r Amodau fel a ganlyn:

Amod 10

Dileu:  "Bydd y Côd yn berthnasol i'r ardal blaenau siop a fydd yn estyn 3m i gefn pob blaen siop".

 

Amod 20

Newid y geiriad fel a ganlyn: "Cyn dechrau ar bob cam o'r datblygiad, dylid llunio strategaeth draenio dŵr wyneb strategol ar gyfer y cam hwnnw..."

 

Amod 21

Newid y geiriad fel a ganlyn: "Bydd unrhyw gais materion neilltuedig yn cynnwys strategaeth draenio dŵr fanwl yn unol â materion a neilltuwyd ar bob cam y mae'n rhaid ceisio cymeradwyaeth ar ei chyfer. Bydd y strategaeth hon yn dangos sut y bydd rheoli dŵr yn y safle materion neilltuedig y ceisir cymeradwyaeth ar ei gyfer yn cyd-fynd â'r manylion a gymeradwywyd ar gyfer y strategaeth dŵr wyneb strategol..."

 

Amod 30

Newid: “vii)  Arwyddion negeseuon amrywiol cysylltiedig"

 

Amod 33

Newid geiriau: ‘hour of operation’ i ‘hours of operation’.

Ychwanegu at ddiwedd amod: "Wedi hynny, bydd yr arena yn gweithredu yn ôl y cynllun a gymeradwywyd"

 

Amod 36

Newid: ‘measurers’ i ‘measures’

 

Amod 37

Ychwanegu "oni bai y gellid dangos bod lefel o sŵn amgen yn dderbyniol, wrth ystyried y datblygiad a'r dystiolaeth a gyflwynwyd fel rhan o'r cynllun"

 

Amod 39

Newid: “it shall have a”

 

Amod 42

Ychwanegu at ddiwedd amod: "a gedwir ar ôl hynny at ddibenion"

 

(Eitem 2) Cais cynllunio 2016/3619/FUL - 12-24 Ffordd Belle Vue, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

CYMERADWYWYD y cais yn amodol ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i GYTUNDEB ADRAN 106 i ddarparu ar gyfer 30% o dai fforddiadwy a chyfraniad ariannol o £23,000 i gyllido gwaith isadeiledd priffyrdd, ac yn ddibynnol ar amodau sy'n cyd-fynd â'r argymhelliad.

 

(Eitem 3) Cais cynllunio 2017/0795/FUL - Tir cyfagos â Heol Eifion, Gorseinon, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd Mrs P Morgan (gwrthwynebwr) y pwyllgor.

 

(Eitem 4) Cais cynllunio 2016/1510 - Yr Hen Glwb Cymdeithasol Four Seasons, Heol y Trallwn, Llansamlet, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

(Eitem 5) Cais cynllunio 2017/0262/FUL - 23 Teras Portia, Mount Pleasant, Abertawe

 

 

#(Eitem 6) Cais cynllunio 2017/0196/FUL - 3 Bay View, St Thomas, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Adroddwyd am lythyr o wrthwynebiad a dderbyniwyd yn hwyr.

 

Anerchodd Mr Shannon (gwrthwynebwr) a'r Cynghorydd Joe Hale (aelod lleol) y pwyllgor, gan siarad yn erbyn y cais.

 

(Eitem 7) Cais Cynllunio 2017/0196/FUL – 3 Heol Beechwood, Uplands, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Nick Davies (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

(Eitem 8) Cais cynllunio 2017/0391/FUL - 25 Cilgant Mirador, Uplands, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr Nick Davies a Peter May (aelodau lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

DS: Torrodd y pwyllgor am saib o bum munud yn dilyn eitem 8 am 4.45pm

 

(Eitem 9) Cais cynllunio 2017/0840/FUL - 107 Heol Wern Fawr, Port Tennant, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd y Cynghorydd Joe Hale (aelod lleol) y pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais.

 

(Eitem 10) Cais Cynllunio 2017/0843 - 39 Stryd FUL - 39 Sebastopol, St Thomas, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd y Cynghorydd Joe Hale (aelod lleol) y pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais.

 

(Eitem 11) Cais cynllunio 201/0844/FUL - 3 Benthall Place, St Thomas, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Mr K Thomas a Mr M Davies (gwrthwynebwyr) a'r Cynghorydd Joe Hale (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

 

#(Eitem 12) Cais cynllunio 2017/0845/FUL - 40 Heol Danygraig, Port Tennant, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd y Cynghorydd Joe Hale (aelod lleol) y pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais.

 

Adroddwyd am lythyr o wrthwynebiad a dderbyniwyd yn hwyr.

 

12.

Penderfyniadau Apeliadau'r Pwyllgor Cynllunio. pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad "er gwybodaeth" gan yr arweinydd tîm ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn amlinellu canlyniadau pedwar penderfyniad apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio yn erbyn penderfyniadau gan y Pwyllgor Cynllunio.

 

Amlinellwyd crynodeb o gefndir y pedwar penderfyniad yn yr adroddiad ynghyd â'u goblygiadau ar benderfyniadau'r pwyllgor yn y dyfodol a dyfarniadau o gostau posib.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.