Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Mr Aeron Kirczey. Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd mai dyma gyfarfod olaf Mr Kirczey cyn iddo ymddeol ar ôl 40 mlynedd o
wasanaeth llywodraeth leol . Dywedodd fod Aeron wedi bod yn Ymgynghorydd
Priffyrdd ar gyfer y pwyllgor am flynyddoedd lawer, a rhoddodd hanes cryno cyflogaeth
Aeron. Diolchwyd i Aeron
am ei wasanaeth gan y Cadeirydd, yr Aelodau a’r Swyddogion, a dymunwyd yn dda
iddo ar ei ymddeoliad. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod Cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2017 yn gofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Gorchmynion Creu a Dileu ym Mhennard PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Chris Dale, Arweinydd Tîm Mynediad i Gefn Gwlad (Hawliau Tramwy) adroddiad a
oedd yn amlinellu'r hanes cefndir a'r wybodaeth am y materion sy'n ymwneud â
chreu a diddymu cyfres o orchmynion ar gyfer llwybrau troed a llwybrau ceffyl
ym Mhennard yn dilyn gwrthwynebiadau. Amlinellwyd yr
opsiynau sydd ar gael i'r awdurdod i ddatblygu'r mater a manylwyd arnynt yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD tynnu'r gorchmynion presennol yn ôl a
chyhoeddi gorchmynion diwygiedig. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) PENDERFYNWYD: (1) GWRTHOD y cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y
rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad: #(Eitem 1) Cais
Cynllunio 2015/2357 – 44 Heol Sway, Treforys Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. (2) CYMERADWYO'R cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a
nodwyd yn yr adroddiad: #(Eitem 2) Cais
Cynllunio 2017/0077/FUL – 111 Heol Walter, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd N J Davies (aelod lleol), a siaradodd yn erbyn y
cais. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn amlinellu penderfyniad yr
Arolygydd Cynllunio'n dilyn apêl yn erbyn penderfyniad y pwyllgor i wrthod
cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, yn ymwneud â newid defnydd i HMO yn
105 Teras Rhyddings. Amlinellwyd
sylwadau'r arolygydd a'r rhesymau dros ei benderfyniad a manylwyd arnynt. Trafododd aelodau
oblygiadau'r penderfyniad ar geisiadau HMO yn y dyfodol ac ar y CCA sy'n dod
i'r amlwg. PENDERFYNWYD nodi'r penderfyniad. |