Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol. Y Cynghorydd E T
Kirchner – Cofnod rhif 60 (Eitem Agenda rhif 5 - Maes Pentref) – Personol – mae
gennyf deulu'n byw yn yr ardal. Y Cynghorydd D W W Thomas
– Cofnod Rhif 61(Eitem Agenda rhif 6.3 -2016/1670) – Personol – Mae fy chwaer
ar fin symud i Willow Court yn fuan. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod Cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2017 yn gofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Cais i gofrestru tir ar Heol Tirmynydd, Y Crwys, Abertawe fel maes pentref neu faes tref. PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Sandie
Richards, Prif Gyfreithiwr, adroddiad a ran Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd. Amlinellwyd yr
hanes cefndir, arfarniad o'r dystiolaeth a gyflwynwyd, y gwrthwynebiadau a'r
sylwadau a dderbyniwyd, y cylch gwaith cyfreithiol a chasgliadau'r Arolygydd. PENDERFYNWYD 1) CANIATÁU’R cais ar gyfer y cofrestriad uchod ar
wahân i'r rhan o dir y cais sy'n cynnwys hyd y briffordd gyhoeddus a elwir yn
Rhodfa’r Berllan; 2) bod
tir y safle ymgeisiol AR WAHÂN i'r rhan o'r cais sy'n
cynnwys hyd y briffordd gyhoeddus a elwir yn Rhodfa’r Berllan yn cael ei
ychwanegu i'r Gofrestr Meysydd Trefi neu Bentrefi o dan Adran 18 Deddf Tir
Comin 2006; 3) bod nodyn yn cael ei gynnwys yn y
Gofrestr Tir Comin bod tir y safle ymgeisiol diwygiedig hefyd yn cael ei gynnwys yn y
Gofrestr Meysydd Trefi neu Bentrefi, a
bod nodyn cyfatebol yn cael ei gynnwys gyda'r cais newydd i'w gynnwys yn y Gofrestr Meysydd Trefi neu Bentrefi. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) PENDERFYNWYD y dylid: (1)
1)
CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad
a/neu a nodir isod: #(Eitem 1) Cais
Cynllunio 2016/3401/FUL - 122 Cilgant Eaton, Uplands,
Abertawe Anerchodd John Thomas (gwrthwynebydd) y pwyllgor gan siarad yn erbyn y
cais. Dangoswyd ffotograffau fel rhan o'i wrthwynebiadau. Anerchodd y Cynghorydd Nick Davies, (Cynghorydd
Ward Lleol), y pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Tudalen 81 – Ardal y safle ymgeisiol wedi'i
phlotio'n anghywir yn yr adroddiad pwyllgor a ddosbarthwyd. Dynodwyd ardal y safle ymgeisiol
(llinell goch) ar y daflen a ddiweddarwyd ac a ddosbarthwyd, ac fel y gwelir ar
y sgrîn yn y pwyllgor ac mae wedi'i chynnwys ar gynllun lleoliad safle a
dderbyniwyd ar 2 Rhagfyr 2016. Amod 2 wedi'i addasu fel a ganlyn: 2. Cynhelir y
datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau canlynol a gymeradwywyd:
Cynllun Lleoliad Safle, a dderbyniwyd ar 2 Rhagfyr 2016: SK/01: Cynlluniau
llawr presennol, SK/03: Cynllun bloc presennol, SK/04: Cynllun bloc
arfaethedig, a dderbyniwyd ar 15 Tachwedd 2016, SK/02: Cynlluniau llawr
arfaethedig, SK/05: Blaenluniau presennol ac
arfaethedig, SK/05A: Cefnluniau presennol ac arfaethedig, a dderbyniwyd ar 2
Chwefror 2017 Rheswm: Er mwyn osgoi amheuaeth ac i sicrhau
cydymffurfiaeth â'r cynlluniau a gymeradwywyd. Derbyniwyd Gohebiaeth Ychwanegol Derbyniwyd e-bost ar 3 Chwefror 2017 sy'n cyfeirio at ddeiseb ar-lein a
luniwyd ar 16 Rhagfyr 2016 i wrthwynebu i'r cais. Darparwyd copi o'r atodlen
sy'n cynnwys 43 o enwau sy'n gwrthwynebu'r datblygiad er ni roddwyd rhesymau am
y gwrthwynebiad. Derbyniwyd e-byst ar 6 Chwefror 2017 yn cynnwys 3 ffotograff. #(Eitem 3)
Cais Cynllunio 2016/1670 - Gower Play,
Tir Comin Clun, Abertawe Anerchwyd y pwyllgor gan Rick Parnell
(gwrthwynebydd) ac Adrian Phillips (asiant ar ran y gwrthwynebwyr) a fu’n
siarad yn erbyn y cais. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. ·
CYMERADWYWYD y cais, ond am gyfnod
dros dro o 12 mis ac yn amodol ar amod 'amser a ddefnyddir'. Felly ychwanegwyd
y ddau amod canlynol i'r amod a argymhellwyd i ddechrau. 2. Caniateir y ffrâm ddringo a gymeradwyir ar gyfer
cyfnod dros dro o flwyddyn yn unig o ddyddiad y cais cynllunio hwn. Ar ddiwedd
y cyfnod hwn o flwyddyn, neu cyn hynny, bydd y ffrâm ddringo ac unrhyw waith
cysylltiedig yn cael ei symud yn llwyr o'r safle. Rheswm: Rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer cyfnod
dros dro'n unig, er mwyn rhoi amser i'r Awdurdod Cynllunio Lleol asesu effaith
sŵn ac aflonyddwch defnyddwyr y strwythur ar amwynderau preswyl y deiliaid
cyfagos. 3. Caiff y ffrâm ddringo felly ei defnyddio rhwng
10am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ni chaiff ei defnyddio ar unrhyw adeg
arall.* Rheswm: Diogelu
amwynderau deiliaid preswyl gerllaw. 2) Caiff y cais cynllunio isod
ei WRTHOD am y rhesymau a nodir isod: - #(Eitem 2)
Cais Cynllunio 2016/3406/FUL - 57 Stryd yr Ysgol, Port Tennant,
Abertawe Anerchwyd y pwyllgor gan Mike Leonard
(gwrthwynebydd) a fu’n siarad yn erbyn y cais. Anerchwyd y
pwyllgor hefyd gan y Cynghorwyr C E Lloyd a J A Hale (Aelodau Lleol)
a fu’n siarad yn erbyn y cais. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Tudalen 96 – Cais cynllunio 2016/3617/FUL ar gyfer HMO i 5 person yn rhif
89 Stryd yr Ysgol a gymeradwywyd gan y cyngor ar 3 Chwefror 2017. Derbyniwyd Gohebiaeth Ychwanegol Derbyniwyd e-bost ar 6 Chwefror 2017 yn nodi bod 7 HMO ar y stryd, yn
gyfreithiol neu beidio, ac yn mynegi pryderon am barcio. Derbyniwyd llythyr ar 7 Chwefror 2017 yn nodi problemau gyda pharcio ar y
stryd. Mae'n cydnabod mai dewis personol yw cael car, ond mae'n awgrymu
gwelliannau ar gyfer parcio ar Stryd yr Ysgol gan gynnwys cyfyngu ar nifer yr HMOs ar y stryd a'r ardaloedd cyfagos, gwneud y stryd yn
unffordd a gosod mannau parcio ar un ochr y ffordd gyda llinellau dwbl
gyferbyn, cyflwyno hawlenni parcio ac ymestyn y parth hawlen yn unig. GWRTHODWYD y cais yn groes i argymhellion y swyddog
am y rhesymau canlynol: Byddai'r defnydd arfaethedig o ganlyniad i ffurf a natur y llety HMO
arfaethedig a'i agosrwydd at anheddau presennol yn arwain at effaith andwyol
sylweddol ar amwynderau preswyl y stryd a'r ardal o ran sŵn, niwsans ac
aflonyddwch ac mae'n groes i ofynion maen prawf Polisi HC5 (i). |
|
Cais Cynllunio 2016/1604 - 3 Stryd Lewis, St Thomas, Abertawe. PDF 82 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad wedi'i ddiweddaru ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Cafodd y cais ei ohirio dan y broses
bleidleisio dau gam yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr er mwyn
darparu rhagor o gyngor o ran y rhesymau posib dros wrthod a godwyd gan
aelodau. Cafodd hefyd ei ohirio yn y pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2017 er
mwyn cynnal arolwg parcio ac ystyried effaith y datblygiad ar amwynderau
cymdogion yn rhinwedd aflonyddu. Mae apêl bellach
wedi’i lansio gan yr ymgeisydd ar gyfer peidio â gwneud penderfyniad ar y cais.
Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol yn dangos tystiolaeth fideo o arolwg parcio cctv
a gynhaliwyd ar y stryd i'r pwyllgor. Nodwyd nad oedd
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo'r cais wedi newid. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr Clive Lloyd a
Joe Hale (Cynghorwyr Ward Lleol) a fu’n siarad yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Paragraff 1.3 ·
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli
Datblygiadau) (Cymru) (fel y'i diwygiwyd) 2015 (nid ‘1995’ fel a nodwyd). ·
Mae'r pedair wythnos yn dod i ben ar 15 Chwefror 2017 (nid
7 Chwefror 2017 fel a nodwyd) Derbyniwyd Gohebiaeth Ychwanegol Mae'r e-bost dyddiedig 4 Chwefror 2017 yn cyfeirio at yr arolwg a
gynhaliwyd gan yr Is-adran Priffyrdd a Chludiant. Mae’n nodi barn yr Is-adran Priffyrdd
ynghylch y rheswm dros y tagfeydd sef bod pobl yn mynd i'r eglwys. Mae'n cyfeirio at enghreifftiau o
weithgareddau a gynhelir gan gynnwys dramâu, cyfarfodydd, pleidleisio, crefft
ymladd, dosbarthiadau etc ac ar wahân i Neuadd yr
Eglwys cyfeirir at ddigwyddiadau yn yr eglwys gan gynnwys priodasau,
bedyddiadau, angladdau, gwasanaethau etc. Nodir bod Neuadd yr Eglwys a'r Eglwys
yn cael eu defnyddio gan grwpiau gwahanol ar ddiwrnodau a nosweithiau gwahanol
sy'n arwain at lawer o bobl yn parcio ar yr un pryd. PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais cynllunio. |
|
Hen safle Century Works - Penderfyniad Apêl. PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd adroddiad
gan Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn amlinellu penderfyniad yr
Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud ag apêl gan yr ymgeisydd yn erbyn
penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio i wrthod cais sy'n groes i argymhelliad y
swyddog. Nodwyd adroddiad,
canfyddiadau a phenderfyniad yr Arolygwr i ganiatáu'r apêl gydag amodau yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid nodi penderfyniad yr apêl. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Cam Gorfodi. Cofnodion: Cyflwynodd Bennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn amlinellu'r manylion cefndir
a hanes y materion a oedd yn ymwneud â'r datblygiad yn y lleoliad a nodir yn yr
adroddiad. Amlinellwyd y
penderfyniad cynllunio cychwynnol i wrthod, yr ail-gais dilynol a'r gwrthodiad
a phenderfyniad yr Arolygydd Cynllunio i gefnogi'r gwrthodiad yn dilyn apêl yn
yr adroddiad. Roedd yr adroddiad
yn galw am benderfyniad gan y pwyllgor oherwydd ei fod yn golygu colli uned
breswyl. PENDERFYNWYD, oherwydd penderfyniad yr apêl, awdurdodi
camau gorfodi er mwyn atal defnydd fel dwy annedd a galw am addasiadau i'r
adeilad i adfer yr eiddo fel un annedd. |