Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd P M
Black – Cofnod Rhif 39 – Cais Cynllunio 2016/1530 (Eitem 3) – Ysgol Gyfun
Pentrehafod – Personol - Llywodraethwr yr ALl yn yr ysgol. Y Cynghorydd D C Cole
– Cofnod Rhif 39 - Cais Cynllunio 2016/1046 (Eitem 1) – Tir yng Nghanolfan y
Fyddin Diriogaethol, Gorseinon - Personol - Rwyf i a'm gwraig yn berchnogion ar
eiddo yn yr ardal. Y Cynghorydd D W W
Thomas – Cofnod Rhif 39 – Cais Cynllunio 2016/1427 (Eitem 2) – Ysgol Cwmbwrla a
Chais Cynllunio 2016/1530 (Eitem 3) – Ysgol Gyfun Pentrehafod – Personol –
Dirprwy Aelod y Cabinet dros Addysg. Y Cynghorydd T M
White – Cofnod Rhif 39 – Cais Cynllunio 2016/1530 (Eitem 3) – Ysgol Gyfun Pentrehafod – Personol - Llywodraethwyr
ALl yn yr ysgol ac Aelod Ward. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2016 yn gofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 55 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau
i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) PENDERFYNWYD: 1) CYMERADWYO'R
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: #(Eitem 1)
Cais Cynllunio 2016/1046 - Tir yng Nghanolfan y Fyddin Diriogaethol, Heol y Parc,
Gorseinon, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Dylai llinell 2,
paragraff 3 ar dudalen 24 ddweud '...hen safle'r Fyddin Diriogaethol' ac nid
'...hen safle ysgol'. Derbyniwyd un
llythyr gwrthwynebiad ychwanegol. Mae'r
pryderon a fynegwyd yn adlewyrchu'r rheiny a godwyd gan wrthwynebwyr blaenorol
ac mae'r gwrthwynebydd wedi gofyn i'r pwyllgor ystyried effeithiau newid ar
breswylwyr lleol. Mae asiant yr
ymgeisydd wedi cynghori y bydd y contract adeiladu cyffredinol yn cael ei osod
mewn dau gam. Er mwyn caniatáu i'r datblygiad gael ei gyflwyno fesul cam,
atodwyd yr amod ychwanegol canlynol: 16. Ni wneir unrhyw waith datblygu nes i gynllun ar
gyfer adeiladu'r datblygiad fesul cam gael ei gyflwyno'n ysgrifenedig i'r
Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo ganddo.
Ymgymerir â'r holl waith yn unol â'r cynllun datblygu fesul cam
cymeradwy. Dylid diwygio amodau 5, 7, 8, 9, 13, 14 a 15 er
mwyn ystyried proses adeiladu fesul cam y datblygiad a dylent ddechrau gyda'r
canlynol - 'Oni chytunwyd ar hyn fel rhan o'r cynllun adeiladu
fesul cam, ...' Mae asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynllun
ychwanegol sy'n cyfeirio at ddarparu mesurau ffiniol ychwanegol lle mae'r ddwy
ffordd fynediad fewnol yn cwrdd â'i gilydd. Mae hyn yn ymdrin â'r pryderon o
ran Dylunio Trefol ond mae angen cadarnhau dyluniad manwl y tir caeëdig gan un
amod. Ychwanegwyd yr amod canlynol: 17. Oni chytunwyd ar hyn fel rhan o'r cynllun
adeiladu fesul cam, ac er gwaethaf y cynlluniau a gyflwynwyd, ni fydd deiliad
yn byw mewn unrhyw annedd nes i gynllun sy'n nodi lleoliadau, uchder, dyluniad,
deunyddiau a'r math o driniaeth i ffiniau a godir gael ei gyflwyno'n
ysgrifenedig i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo ganddo. Cwblheir y
driniaeth i ffiniau fel a gymeradwywyd cyn i'r datblygiad a gymeradwyir drwy
hyn gael ei ddefnyddio mewn modd buddiol a'i gadw felly ar gyfer y cyfnod
defnydd llawn. Rheswm: At ddiben cynnal a chadw cynllun tirlunio
boddhaol ac i ddiogelu amwynder gweledol yr ardal. Siaradodd Phil
Baxter (asiant) o blaid y cais. Anerchodd y Cynghorydd David Lewis, Cynghorydd Ward
Lleol, y pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. #(Eitem 2)
Cais Cynllunio 2016/1427 - Ysgol Cwmbwrla, Stryd Stepney, Cwmbwrla, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Gwall teipio ar
dudalen 51, llinell 1, paragraff 4 - dylai fod yn '2015', nid '2105'. Ychwanegu at
ddiwedd amod 6 - 'Gwneir y gwaith yn unol â'r manylion cymeradwy.' Ychwanegu at ddiwedd amod 15 - 'Caiff unrhyw fesurau rheoli cerbydau
gofynnol eu cwblhau yn unol â'r manylion cymeradwy cyn y ddaliadaeth fuddiol
gyntaf a'u cadw fel a gymeradwywyd ar gyfer cyfnod llawn y datblygiad a
gymeradwyir drwy hyn.' Nid yw'r hysbyswyr
yn yr adroddiad. Mae angen ychwanegu hysbyswyr o ran cytundeb adran 278,
polisïau a chyngor gan yr adran rheoli llygredd, CNC, DCWW, draenio a
phriffyrdd. (Eitem 3) Cais
Cynllunio 2016/1530 - Ysgol Gyfun Pentrehafod, Heol Pentre Mawr, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. (Eitem 4)
Cais Cynllunio 2016/1320 - 36 Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Canol y Ddinas,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd y
Cyngor, y pwyllgor a siaradodd o blaid y cais. CYMERADWYWYD y cais yn unol ag
argymhelliad o ran ymrwymo i gytundeb ac amodau Adran 106. #(Eitem 6)
Cais Cynllunio 2016/1574 - Lleiniau A15 ac A16 ar dir i'r dwyrain o Ffordd
Gyswllt Ffordd Fabian, SA1, Glannau Abertawe, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd John Thomas (gwrthwynebydd) y pwyllgor
gan siarad yn erbyn y cais. Anerchodd Natalie Queffuras (asiant) y pwyllgor gan
siarad o blaid y cais. Anerchodd y Cynghorydd Joe Hale, Cynghorydd Ward
Lleol, y pwyllgor gan siarad am leoliad y ffordd fynediad o ran y safle
ymgeisiol. Ychwanegwyd yr Amod Tirlunio Ychwanegol fel a
ganlyn: Bydd yr holl waith plannu, hadu neu dywarchu sydd
wedi'i gynnwys ym manylion cymeradwy'r tirlunio yn cael ei wneud yn y tymhorau
plannu a hadu cyntaf ar ôl dechrau'r datblygiad. Hefyd, bydd unrhyw goed neu
blanhigion sydd, o fewn cyfnod o 3 blynedd i gwblhau'r datblygiad, yn marw, yn
cael eu gwaredu neu eu difrodi, neu sy'n datblygu clefyd difrifol yn cael eu
disodli â rhai newydd o faint a rhywogaeth debyg yn y tymor plannu nesaf. Rheswm: Er mwyn darparu ar gyfer sgriniau ffiniol priodol i'r safle o ran
amwynder gweledol. CYMERADWYO'R cais yn unol ag amodau yn yr adroddiad ac
ychwanegu'r amod uchod. (Eitem 9)
Cais Cynllunio 2016/1715 - Gwesty Mirador, 14 Cilgant Mirador, Uplands,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Amod ychwanegol wedi'i atodi fel a ganlyn: Caiff y tŷ allan y tu ôl i'r adeilad ei
ddefnyddio fel ystafell ardd ategol ac ardal storio yn unig ac ni chaiff ei
ddefnyddio, ar unrhyw adeg, fel uned i'w defnyddio fel llety dros nos. Rheswm: Er mwyn diffinio graddau'r caniatâd ac at ddibenion amwynderau. CYMERADWYO'R cais yn unol ag amodau yn yr adroddiad ac
ychwanegu'r amod uchod. 2) GWRTHOD y ceisiadau
cynllunio isod am y rhesymau a nodir isod: #(Eitem 5)
Cais Cynllunio 2016/1511 - Llain A1, Glannau Abertawe, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Tudalen 140 Diwygio geiriad amod rhif 2 i adlewyrchu a chyfeirio at y Datganiad Dylunio
a Mynediad gydag Adendwm a'r ffotogyfosodiadau a dderbyniwyd ar 26 Hydref 2016.
Diwygio cyfeirnod amod Uwchgynllun Tirlunio i fod yn ‘EDP3244-07c’ ac nid
‘EDP3244-10A. Tudalen 124 Diwygiad i
adlewyrchu'r ffaith bod y cynnig yn cynnwys cyfanswm o uned fasnachol (A3)
118.50 m2 ar y llawr gwaelod, nid 70.51 m2 fel a ddyfynnwyd, gan fod ôl troed
gwydrog y caffi wedi ehangu yn ystod y cais gyda chynlluniau diwygiedig i
gynyddu lefel y tu blaen y gweithredol. Roedd llythyrau ychwanegol yn gwrthwynebu a dderbyniwyd yn dilyn
ail-ymgynghori ar y cynlluniau diwygiedig a dderbyniwyd ar 17 Hydref 2016 yn
mynegi'r pryderon canlynol: Gwrthwynebiad -
parhad. Nid yw'r cynlluniau diwygiedig yn newid fy meddwl o ran y ffaith y
byddai darparu llety myfyrwyr yn y lleoliad arfaethedig yn gwbl anaddas. Mae
busnesau sy'n gweithredu yn ardal SA1 yn elwa o fod mewn ardal fusnes/swyddfa
bwysig. Byddai presenoldeb myfyrwyr a'u heffaith anochel (ac adnabyddus) ar y
gymdogaeth yn amharu'n ddifrifol ar hyn. Nid yw'n ymddangos
bod y cynlluniau diwygiedig yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r
cynlluniau gwreiddiol a gyflwynwyd. Ni allaf gytuno bod adeilad ag 8 llawr - grisiog
neu fel arall - yn parchu uchder yr adeilad Ethos cyfagos o gwbl. Anerchodd Richard Banks a Meirion Howells (gwrthwynebwyr) y pwyllgor gan
siarad yn erbyn y cais. Siaradodd Joe Ayoubkani (asiant) o blaid y cais. Anerchodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd y
Cyngor, y pwyllgor gan siarad o blaid y cais. Anerchodd y Cynghorydd Joe Hale, Cynghorydd Ward
Lleol, y pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. GWRTHODWYD y cais yn
groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol: 1. Byddai'r datblygiad - o ganlyniad i'w faint, ei ffurf a'i ddyluniad - yn
effeithio i raddau annerbyniol ar gymeriad a golwg yr ardal. Ni fyddai'n
integreiddio'n effeithiol ag adeiladau cyfagos ac nid ystyrir y byddai'n ateb
dylunio o safon priodol i'r cyd-destun lleol fel porth amlwg i Ganol Dinas
Abertawe, yn groes i ofynion polisïau EV1, EV2 ac EC2 Cynllun Datblygu Unedol
Abertawe (mabwysiadwyd Tachwedd 2008). 2. Mae'r ddarpariaeth parcio ceir ar gyfer y datblygiad yn annigonol a
byddai'n arwain at bwysau ar barcio ar y stryd er anfantais i'r ardaloedd
cyfagos. Mae'r datblygiad felly'n groes i ofynion polisi AS6 Cynllun Datblygu
Unedol Abertawe (mabwysiadwyd Tachwedd 2008) a'r Canllawiau Cynllunio Atodol -
Safonau Parcio (mabwysiadwyd Mawrth 2012). 3. Mae
polisïau EC1 ac EC2 yn nodi bod ardal SA1 Glannau Abertawe wedi'i chadw ar
gyfer datblygiad cyflogaeth a phreswyl cymysg gyda defnyddiau hamdden,
twristiaeth, cymunedol ac ategol cefnogol ac y dylai'r datblygiad fod yn
gynhwysfawr, integreiddio â'r Ardal Forol a chyd-fynd â chanol y ddinas yn
hytrach na chystadlu ag ef. Dylai'r dyluniad fod o safon uchel gan ystyried
egwyddorion datblygu cynaliadwy, darparu cyfleoedd cyflogaeth o safon uchel,
cynyddu'r amrywiaeth o stoc tai, gwneud darpariaeth briodol ar gyfer rhwydwaith
o lwybrau cerdded a beicio a diogelu coridor posib llwybr y gamlas. Mae'r
defnydd arfaethedig ar gyfer llety myfyrwyr yn groes i'r uwchgynllun a
gymeradwywyd ar gyfer y safle ymgeisiol fel rhan o ganiatâd cynllunio
amlinellol 2002/1000 ac a ddiwygiwyd yn ddiweddarach drwy ganiatâd cynllunio
2008/0996 (Fframwaith Dylunio a Datblygu Glannau Abertawe SA1, Awst 2004,
Fersiwn 5) i ddarparu ar gyfer safle cyflogaeth o safon uchel. Ni fyddai'r
defnydd arfaethedig yn cyd-fynd â'r busnesau cyfagos presennol a byddai'n methu
darparu cyfleoedd cyflogaeth o safon yn groes i bolisïau EC1 ac EC2 Cynllun
Datblygu Unedol Abertawe (mabwysiadwyd Tachwedd 2008). (Eitem 7)
Cais Cynllunio 2016/1714 - 8 Teras Alexandra, Brynmill, Abertawe Anerchodd Jayne Keeley (gwrthwynebydd) y pwyllgor
gan siarad yn erbyn y cais. Siaradodd Michael Hooper a Ken Hooper (ymgeiswyr) o blaid y cais. Anerchodd y Cynghorydd Nick Davies, Cynghorydd Ward
Lleol, y pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. GWRTHODWYD y cais yn
groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol: Byddai'r cynnig, ar
y cyd â Thai Amlfeddiannaeth (HMO) yn Nheras Alexandra, yn arwain at grynhoad
niweidiol o HMO a mwy ohonynt yn y stryd a'r ardal ehangach. Byddai'r effaith
gronnus hon yn arwain at niweidio cymeriad yr ardal a chydlyniant cymdeithasol
gyda lefelau uwch o breswylwyr dros dro a llai o aelwydydd tymor hir a
theuluoedd sefydledig. Byddai'r fath effaith, yn y tymor hir, yn arwain at
gymunedau na fyddent yn gytbwys nac yn hunangynhaliol. O ganlyniad, mae'r
cynnig yn groes i faen prawf (ii) Polisi HC5 Cynllun Datblygu Unedol Abertawe
(2008) a nodau'r polisi cenedlaethol a bennwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru
(Rhifyn 8 Ionawr 2016), sef creu cymunedau cymysg cynaliadwy a chynhwysol. (Eitem 8)
Cais Cynllunio 2016/1688 - 57 Rhodfa San Helen, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Siaradodd Mark Beresford (ymgeisydd) o blaid y
cais. Anerchodd y Cynghorydd Nick Davies, Cynghorydd Ward
Lleol, y pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. GWRTHODWYD y cais yn
groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol: Byddai'r cynnig, ar y cyd â Thai Amlfeddiannaeth presennol yn Rhodfa San
Helen yn arwain at grynhoad niweidiol o HMO a mwy ohonynt yn y stryd a'r ardal ehangach.
Byddai'r effaith gronnus hon yn arwain at niweidio cymeriad yr ardal a
chydlyniant cymdeithasol gyda lefelau uwch o breswylwyr dros dro a llai o
aelwydydd tymor hir a theuluoedd sefydledig. Byddai'r fath effaith, yn y tymor
hir, yn arwain at gymunedau na fyddent yn gytbwys nac yn hunangynhaliol. O
ganlyniad, mae'r cynnig yn groes i faen prawf (ii) Polisi HC5 Cynllun Datblygu
Unedol Abertawe (2008) a nodau'r polisi cenedlaethol a bennwyd ym Mholisi
Cynllunio Cymru (Rhifyn 8 Ionawr 2016), sef creu cymunedau cymysg cynaliadwy a
chynhwysol. 3) GOHIRIO'R
cais cynllunio a nodir isod am ymweliad safle. #(Eitem 10)
Cais Cynllunio 2016/1604 - 3 Stryd Lewis, St. Thomas, Abertawe Adroddwyd am lythyr
gwrthwynebu hwyr ychwanegol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad wedi'i ddiweddaru ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Cafodd y cais ei ohirio dan y broses bleidleisio dau gam yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 Hydref er mwyn darparu rhagor o gyngor o ran y rhesymau posib dros wrthod a godwyd gan aelodau. Manylwyd ar y prif faterion mewn perthynas â'r rhesymau posib dros wrthod yn yr adroddiad, yn ogystal â'r cyngor o ran cyfreithlonedd, neu fel arall, y rhesymau a'r cyngor o ran costau gan y Swyddfa Gymreig. Nodwyd nad oedd argymhelliad y swyddog i gymeradwyo'r cais wedi newid. Anerchodd Jayne Keeley (gwrthwynebydd) y pwyllgor
gan siarad yn erbyn y cais. PENDERFYNWYD GWRTHOD y cais cynllunio a nodir isod yn groes i argymhellion y swyddog am y rheswm canlynol: Byddai'r defnydd
arfaethedig o ganlyniad i ffurf a natur y llety HMO arfaethedig a'i agosatrwydd
at anheddau presennol yn arwain at effaith andwyol sylweddol ar amwynderau
preswyl y stryd a'r ardal o ran sŵn, niwsans ac aflonyddwch ac mae'n groes
i ofynion maen prawf Polisi HC5 (i). |
|
Gwarchod Coed ar Safleoedd Datblygu (Hydref 2016). PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad diwygiedig ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn
amlinellu'r Arweiniad Atodol (CCA) diwygiedig a fydd yn diweddaru'r canllawiau
cyfredol a fabwysiadwyd yn 2008. PENDERFYNWYD 1)
Cymeradwyo "Cadw Coed ar Safleoedd Datblygu (Hydref 2016)", gan
ymgorffori ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, fel diweddariad i'r CCA ar
gyfer "Cadw Coed ar Safleoedd Datblygu (2008)" yn y Cynllun Datblygu
Unedol. 2)
Cynnwys "Cadw Coed ar Safleoedd Datblygu (Hydref 2016)", fel a
gymeradwywyd, yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol y Cynllun Datblygu Lleol i'w
fabwysiadu. |
|
Strategaeth Adeiladau Uchel Abertawe: Adrodd yn ôl am ymgynghoriadau. PDF 91 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad diwygiedig ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn
adrodd yn ôl ar yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar y strategaeth
ddiwygiedig ddrafft. Amlinellwyd yn yr
adroddiad grynodeb o'r amcanion allweddol a chyd-destun egwyddorion, yr ymarfer
ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd a'r asesiad o faterion allweddol a oedd yn
codi o ymatebion i'r ymgynghoriad. PENDERFYNWYD anfon y Strategaeth Adeiladau Uchel
ymlaen i'r Pwyllgor Cynllunio i'w mabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol a
disodli'r Strategaeth Adeiladau Uchel flaenorol (2008). |