Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd D. W. Cole – Cofnod 33 - Cais i gofrestru tir a adwaenir fel Parc y Werin, Gorseinon, Abertawe fel maes tref neu bentref - Rhif y Cais 2734(S) – Personol – fel Aelod Lleol.

 

Y Cynghorydd D. W. W. Thomas – Cofnod 33 - Cais i gofrestru tir a adwaenir fel Parc y Werin, Gorseinon, Abertawe fel maes tref neu bentref - Rhif y Cais 2734(S) – Personol – fel Dirprwy Aelod y Cabinet dros Addysg.

 

31.

Cofnodion: pdf eicon PDF 92 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod

cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Medi 2016 fel cofnod cywir.

 

32.

Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

33.

Cais i Gofrestru Tir a adwaenir fel Parc y Werin, Gorseinon, Abertawe fel Maes Tref neu Bentref - Cais Rhif 2734(A). pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Sandie Richards, Prif Gyfreithiwr, adroddiad “er gwybodaeth” ar ran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a roddodd y diweddaraf i'r pwyllgor ar benderfyniad yr arolygydd i gynnal ymchwiliad anstatudol gan fod, yn ei farn ef, “yr anghydfod rhwng y partïon bellach yn ddigon cymhleth a dyrys fel mae'r ffordd orau o geisio'i ddatrys yw i'r ddau barti ddod i ymchwiliad lleol”.

 

Nododd fod yr ymchwiliad yn debygol o ddigwydd yn y flwyddyn newydd.

 

34.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

PENDERFYNWYD:

 

(1)          1) CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

(#) (Eitem 1) Cais Cynllunio 2016/0662 - Y Sgwâr, Parc Tawe, Abertawe

 

Siaradodd Richard Haynes (asiant) i gefnogi'r cais a dangoswyd cymhorthion gweledol i gefnogi ei sylwadau.

 

Adroddwyd am ohebiaeth hwyr gan yr ymgeisydd.

 

Cymeradwywyd y cais yn unol â'r argymhelliad yn amodol ar y diwygiadau canlynol i amodau a chwblhau Adran 106 Ymgymeriad Unochrog/Gweithred Amrywio newydd:

 

Amod 7:

Mae'n rhaid i Unedau 1, 5A, 5B, 5C, 6A, 6B, 6C, 6D, K1, K2, K3 a K4, a ganiateir trwy hyn, yng Ngham 1 Parc Tawe (yn unol â diffiniad Cynllun Safle, 9485 P-024 Rev U a gyflwynwyd) beidio â chael eu hymrannu dan 700 m. sg. (arwynebedd allanol crynswth) na'u cyfuno ymhellach uwchben 3,500 m. sg. (arwynebedd allanol crynswth).

 

Amod 11

Bydd dyluniad terfynol a thriniaeth y gweddluniau gorllewinol a gogledd-orllewinol agored newydd i Plantasia'n cael eu rhoi ar waith yn unol â'r manylion cymeradwy dan ryddhad amodol, cyf:2015/2367. Er gwaethaf y manylion a nodwyd yn y darlun cymeradwy 9485 E-05 J, bydd union ddyluniad a lleoliad mynedfa Plantasia'n cael eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo ganddo, gan ymddwyn yn rhesymol. Bydd manylion y fynedfa'n cael eu rhoi ar waith yn unol â'r cynllun cymeradwy.     

 

Amod 13:

Bydd y cynllun tirlunio, dan ryddhad amodol, cyf:2015/2513, yn cael ei gynnal gan y datblygwr (ar yr amod bod y datblygwr, gan wneud ymdrechion rhesymol, yn cael unrhyw ganiatâd angenrheidiol gan yr awdurdod lleol) cyn unrhyw ddefnydd buddiol o'r Unedau yn 2A, 2B, 2C, 3, 8, K1, K2, K3 a K4. Bydd unrhyw goed a phrysglwyni sy'n cael eu plannu'n unol â'r amod hwn y ceir gwared arnynt yn cael eu disodli gan goed neu brysglwyni o faint a rhywogaeth debyg i'r rhai y bu'n ofynnol i'w plannu'n wreiddiol. Bydd coed a phrysglwyni sy'n cael eu plannu'n unol â'r amod hwn sy'n marw neu'n mynd yn ddifrifol afiach o fewn dwy flynedd i'w plannu'n cael eu disodli gan goed neu brysglwyni o faint a rhywogaeth debyg i'r rhai y bu'n ofynnol i'w plannu'n wreiddiol.

(Eitem 3) Cais Cynllunio 2016/1416 - Yr Iard Gychod, gerllaw Cei'r Farchnad Bysgod, Heol Trawler, Ardal Forol, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

2) GOHIRIO'R cais cynllunio y sonnir amdano isod dan y broses bleidleisio ddau

gam i gael rhagor o gyngor ar y materion a godwyd gan Aelodau, yn enwedig o ran y

rhesymau dros wrthod ar sail sŵn ac aflonyddu, trefniadau sbwriel, parcio ceir a

llechfeddiant HMO.

 

(#) (Eitem 2) Cais Cynllunio 2016/1249 - 26 Heol Pinewood, Uplands, Abertawe

 

Cyn gohirio, siaradodd Jayne Keeley (gwrthwynebydd) yn erbyn y cais ac anerchodd y Cynghorydd J. C. Bayliss (Aelod Lleol) y pwyllgor hefyd a siarad yn erbyn y cais.

 

Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr ychwanegol.

 

35.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol. pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol gan y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio. Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried bod yr adroddiad yn ddull pwysig ar gyfer monitro perfformiad awdurdodau cynllunio lleol yn erbyn cyfres allweddol o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn offeryn pwysig ar gyfer meincnodi perfformiad awdurdodau lleol ar draws Cymru. Manylwyd ar yr adroddiad drafft ar gyfer 2015-2016 a oedd yn gyfnod pan oedd newid sylweddol mewn sut roedd yr awdurdod yn ymdrin â cheisiadau cynllunio, gan gynnwys strwythur pwyllgorau diwygiedig a chynllun dirprwyo diwygiedig, yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Rhoddwyd manylion am y ffigurau perfformiad gwirioneddol, y gwelliannau a gyflawnwyd a'r materion i'w datrys, yn ogystal â chyfres o benderfyniadau apêl a oedd wedi'u gwneud yn groes i argymhellion swyddog.