Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 16 – Cais Cynllunio 2016/0517 – Personol – fel Aelod Ward.

13.

Cofnodion: pdf eicon PDF 75 KB

To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2016 yn gofnod cywir.

14.

Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

15.

Cais i gofrestru tir yn Heol Tirmynydd, y Crwys yn faes tref neu bentref. pdf eicon PDF 57 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad “er gwybodaeth” a amlinellodd fanylion cais a wnaed i gofrestru tir ar Heol Tirmynydd, y Crwys.

 

Amlinellwyd cefndir y cais a'r ffaith fod arolygydd wedi cael ei benodi ac y penderfynwyd y dylid cynnal ymchwiliad anstatudol.

 

Caiff adroddiad arall ei gyflwyno i'r pwyllgor gan amlinellu argymhellion yr arolygydd yn dilyn yr ymchwiliad.

16.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio gyfres o geisiadau cynllunio.

 

Adroddwyd ar ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#).

         

PENDERFYNWYD:

 

(1) CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

 

#(Eitem 2) Cais Cynllunio 2005/2644 – Tir oddi ar Deras Fairwood, Tregŵyr, Abertawe

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am 2 lythyr gwrthwynebiad a anfonwyd yn hwyr.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diwygiwyd Amod 10 i nodi fel a ganlyn:

Cyn dechrau defnyddio lleiniau 1-3 mewn ffordd fuddiol, caiff y droedffordd o flaen Teras Fairwood (a ddangosir ar y darluniau wedi'u cymeradwyo yma) eu darparu'n llawn yn unol â manylion i'w cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo cyn cychwyn gwaith datblygu ar y safle. Bydd manylion y gwaith troedffordd a gyflwynir yn cynnwys manylion y ddarpariaeth Gorchmynion Rheoleiddio Traffig i ddiogelu cyffordd Teras Fairwood â'r lôn i'r gorllewin o'r safle.

 

 

#(Eitem 3) Cais Cynllunio 2016/0921 – Llain PD, PL a PN, tir i'r de o Ffordd Fabian ac i'r dwyrain o afon Tawe

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am wrthwynebiad a e-bostiwyd yn hwyr.

 

Bu Mr E Jones (asiant) yn annerch y pwyllgor.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

(2) GWRTHOD y cais cynllunio isod am y rhesymau a nodir isod:

 

#(Eitem 1) Cais Cynllunio 2016/0517 – Bloc A, Dewi Sant, Heol New Cut, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Bu Mr W Chung (gwrthwynebwr) yn annerch y pwyllgor.

 

Bu'r Cynghorydd B Hopkins (Aelod Lleol) yn annerch y pwyllgor ac yn siarad yn erbyn y cais.

 

Rhesymau

1. Mae lleoliad y storfa sbwriel yn cael effaith annerbyniol ar amwynder preswyl y deiliaid cyfagos o ran ei pherthynas â'r eiddo preswyl cyfagos a'i heffaith andwyol, niweidiol wrth gyfrannu at lygredd amgylcheddol yn groes i bolisïau datblygu unedol EV2 ac EV4 Abertawe.

 

2. Mae dyluniad, gwedd a lleoliad y storfa sbwriel o fewn y strydlun yn amharu ar gymeriad gweledol yr ardal yn groes i bolisïau datblygu unedol EV2 ac EV4 Abertawe.