Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd I M
Richard – Cofnod Rhif 11 - Cais Cynllunio 2016/0086 (Eitem 4) – Cyn penderfynu –
gwnaeth ddatganiad dan baragraff 14(2) y côd a gadael cyn y drafodaeth. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYMERADWYO cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 10 ac 19 Mai 2016 fel cofnodion cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu
canfyddiadau ac argymhellion yr Arolygydd. Cafodd cefndir y
cais, y profion cyfreithiol a wnaed, yr ymgynghoriad, y sylwadau gan y rhai a oedd
yn cefnogi ac yn gwrthwynebu, yr ymchwiliad a gynhaliwyd, y cyngor cyfreithiol
a dderbyniwyd a'r cylch gwaith, y canfyddiadau a chasgliad yr Arolygydd eu nodi
a'u cyflwyno i'r pwyllgor. Anerchodd y
Cynghorydd N J Davies (Aelod Lleol) y pwyllgor ynghylch y cais. PENDERFYNWYD ar y canlynol 1) y dylai'r cais
am y cofrestriad uchod gael ei wrthod. 2) ni ddylai unrhyw
ran o dir y cais gael ei ychwanegu at y Gofrestr Meysydd Tref neu Bentref o dan
Adran 15 Deddf Tiroedd Comin 2006. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd y
Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio fod y mater wedi'i ohirio dan y broses
bleidleisio dau gam yn y pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Mai i gael mwy o gyngor
gan y swyddog ar y rhesymau dros wrthod sy'n ymwneud â dim tai fforddiadwy,
pryderon priffordd, colli amwynderau ar gyfer plant ysgol yn Ysgol Gynradd
Cwmrhydyceirw a phryderon am drefniadau pwmpio dŵr tymor hir yn y chwarel.
Cafodd yr adroddiad a ddiweddarwyd a oedd yn amlinellu'r cynnig diwygiedig
gan y datblygwr sef 5% o dai fforddiadwy a gwaith ychwanegol ar y briffordd yn
ogystal â'r cyfraniadau blaenorol a'r rhesymau posib
dros wrthod ei amlinellu a manylwyd arno. Anerchwyd y
pwyllgor gan Abi Roberts (asiant) a Mrs J Jones
(gwrthwynebydd) . Anerchodd y
Cynghorwyr R C Stewart, R Francis-Davies ac A S Lewis (Aelodau Lleol) y
pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais am y
rhesymau a nodir isod: Materion
Priffyrdd Mae'r ymgeisydd
wedi methu profi y byddai'r symudiadau traffig ychwanegol a geir oherwydd y
cynnig yn cael effaith andwyol ar dagfeydd lleol ar draul diogelwch a llif
rhydd cerbydau a cherddwyr, yn groes i ddarpariaethau polisïau EV1, AS2 a HC2
Cynllun Datblygu Unedol Dinas a Sir Abertawe (2008). Tai Fforddiadwy Nid yw'r cynnig
yn darparu digon o dai fforddiadwy i gyfrannu at angen profadwy
yn yr ardal, ar draul adfywio cymunedol a chynhwysiad cymdeithasol. Felly mae'r
cynnig |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio gyfres o geisiadau cynllunio. Adroddwyd ar ddiwygiadau i'r atodlen hon
ac fe'u nodir isod â (#). PENDERFYNWYD ar y canlynol: (1) y dylai'r cais
cynllunio a nodwyd gael ei GYMERADWYO yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu'r hyn a nodir isod: #(Eitem 1) Cais Cynllunio 2016/0556 - maes parcio Stryd
Mariner, 2-3 Stryd Mariner,
59-60 a 63-64 y Stryd Fawr, Abertawe Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Mae disgrifiad y datblygiad arfaethedig wedi'i addasu i ddileu cyfeiriad at
ddefnydd arfaethedig o'r clwb nos (sui generis) o'r
datblygiad. Addasu Amod 2 i gyfeirio at y lluniadau diweddaraf: Cyflawnir y datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r
dogfennau cymeradwy canlynol: W152064_SK_19-22 Symudiadau Mynediad, 11149_L01 –L05 Tirlun, cynlluniau
wedi'u derbyn 18 Mawrth, 2016] Montage wedi'i ddilysu - VM1 - VM8 (x 2) cyn ac
ar ôl - [AL_00_001_P1 Cynllun Lleoliad Safle, AL_01_001_P2
Cynllun Safle Presennol AL_20_001 – 004 Diwyg P3 ac AL_20_005-008 Diwyg P4
(Cynlluniau Llawr Arfaethedig), AL_27_001_P3 (Cynllun To), AS_20_001 a 002
Diwyg P3 (Adrannau Arfaethedig), AE_00_003 a 004 Diwyg P3 (Cynlluniau Stryd
Arfaethedig), Golygfeydd 3D (x 12) - (derbyniwyd cynlluniau wedi'u diwygio 3
Mehefin, 2016), AE_00_001 a 002
Diwyg P4 (Blaenluniau arfaethedig), AE_00_005 Rev P2 (Golygfeydd 3D), Datganiad Dylunio a Mynediad –
Atodiad Diwyg E (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 6 Mehefin 2016). Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Paul Foster (asiant). Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorwyr S E Crouch a D Phillips (Aelodau Lleol) a oedd yn
siarad i gefnogi'r cais ond awgrymwyd amodau ychwanegol i ddiogelu amwynderau i
breswylwyr lleol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorwyr R C Stewart (Arweinydd) ac R Francis-Davies (Aelod y
Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio) a oedd yn siarad i gefnogi’r cais. CYMERADWYWYD yn amodol ar gytundeb Adran 106 a
amlinellwyd yn yr adroddiad ac addasu Amodau 16 ac 19 i ddarllen fel a ganlyn: Amod 16 Bydd gwasanaethau
cerbydau'r datblygiad ar hyd Stryd Mariner, gan
gynnwys amseru dosbarthu nwyddau, yn unol â manylion i'w cyflwyno a'u
cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a rhaid i'r llinell
balmant ar gyffordd gogledd-ddwyreiniol y Stryd Fawr gael ei hadlinio er mwyn
i'r llwybr cerdded gael ei ledu i 2 fetr. Bydd y datblygiad gan gynnwys
gwasanaethau cerbydau yn y dyfodol ar y safle wedi hynny'n
unol â'r manylion a gymeradwywyd. Amod 19 Cyn dechrau ar y
gwaith adeiladu, rhaid cyflwyno Cynllun Rheoli Gwastraff Safle ar gyfer y cam
adeiladu, ynghyd â Chynllun Rheoli Gwastraff/Sbwriel ar gyfer defnydd o'r
datblygiad yn y dyfodol yn ysgrifenedig i'w gymeradwyo gan yr Awdurdod
Cynllunio Lleol. Wedi hynny, cynhelir y datblygiad yn unol â'r
cynlluniau a gymeradwywyd. Gohiriwyd y
pwyllgor ar ôl eitem 1 am seibiant 5 munud am 4.10pm. #(Eitem 2)
Cais Cynllunio 2015/2223 - Tir oddi ar Ffordd Fabian,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchodd Dave Gill
(asiant) a Mrs Linda Summons (gwrthwynebydd) y pwyllgor. Anerchodd y
Cynghorwyr J A Hale a C E Lloyd (Aelodau Lleol) y pwyllgor gan siarad yn erbyn
y cais. CYMERADWYWYD yn amodol ar Gytundeb Adran 106 a amlinellwyd yn
yr adroddiad ac ychwanegu/addasu'r amodau fel a ganlyn: Amod 3 Ni chaiff yr unedau A3 eu defnyddio cyn 06.30 nac
ar ôl 23.00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 09.00 a 22.00 ar ddydd Sul. Ni
chaiff y ganolfan deiars gymeradwy ei defnyddio cyn 08.30 nac ar ôl 18.00 o
ddydd Llun i ddydd Gwener, 08.30 tan 13.00 ar ddydd Sadwrn ac ni fydd ar agor ar ddydd Sul nac ar Wyliau Banc. Rheswm: I ddiogelu amwynderau deiliaid eiddo cyfagos. Amod 16 Er iddynt gyflwyno manylion bydd cynllun gwrthsain
ar gyfer adeilad y ganolfan deiars arfaethedig yn cael ei gyflwyno a'i
gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Cynhelir y
datblygiad yn dilyn hynny'n unol â'r
manylion cymeradwy a darperir y mesurau gwrthsain cyn y defnydd cyntaf o'r
ganolfan deiars a'u cynnal wedi hynny i wasanaethu'r datblygiad. Rheswm: Er mwyn atal llygredd sŵn a diogelu
amwynderau preswylwyr Rhes Bevans. #(Eitem 3)
Cais Cynllunio 2015/1938 - Clwb RAFA/Wings gynt a
Chartref Nyrsio Uplands (Tai Llwynhelyg
a Chilwendeg), Heol Ffynone,
Uplands, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: 5 Mehefin 2016 - derbyniwyd
llythyr gan drydydd parti'n cadarnhau ei fod yn edrych ymlaen at rywbeth yn
cael ei wneud. Serch hynny, mynegwyd pryderon am draffig a pharcio yn yr ardal Anerchodd y
Cynghorydd N J Davies (Aelod Lleol) y pwyllgor gan siarad i gefnogi'r cais. #(Eitem 4)
Cais Cynllunio 2016/0086 - Tir ar Fferm Cefn Betingau,
Treforys, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. #(Eitem 5)
Cais Cynllunio 2016/0177 - Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan,
Rhodfa Hendrefoelan, Cilâ, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchodd Tim Gent
(asiant) y pwyllgor. CYMERADWYWYD yn amodol ar yr amod canlynol yn cael ei
addasu fel a ganlyn: Amod 5 Er y manylion yn y
cais, cytunir ar union leoliad a phatrwm y gorffeniad allanol a ddefnyddir ar y
tai yng ngham cyntaf y datblygiad yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio
Lleol cyn dechrau ar unrhyw waith aradeiledd. Bydd paneli sampl cyfansawdd yn
cael eu hadeiladu ar y safle a bydd y panel sampl cymeradwy'n cael ei gadw ar y
safle yn ystod y gwaith, oni nodir yn wahanol yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod
Cynllunio Lleol. #(Eitem 6)
Cais Cynllunio 2016/0692 - Plot D7, Heol Langdon,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. CYMERADWYWYD yn amodol ar Gytundeb Adran 106 fel a
amlinellwyd yn yr adroddiad. |