Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

96.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd A C S Colburn – Cofnod Rhif 99 - Cais i gofrestru tir a adwaenir fel Picket Mead, Newton, Abertawe'n faes tref neu bentref. - Personol a rhagfarnol gan i mi gymryd rhan yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus felly gadewais cyn y drafodaeth.

 

Y Cynghorydd A M Cook – Cofnod Rhif 98 - Cais Cynllunio 2008/0512 – (Eitem 7 ar yr agenda) - Personol gan fy mod yn Aelod Ward.

 

Y Cynghorydd M H Jones – Cofnod Rhif 100 - Cais Cynllunio 2015/2527 (Eitem 1) - Personol a rhagfarnol gan fod rhai o'r gwrthwynebwyr yn ffrindiau personol ac agos - gwnes ddatganiad dan baragraff 14(2) y Côd a gadewais cyn y drafodaeth.

 

Y Cynghorydd M Thomas – Cofnod Rhif 100 - Cais Cynllunio 2015/0055 (Eitem 2) - Personol gan fy mod yn adnabod yr ymgeisydd.

 

97.

Cofnodion. pdf eicon PDF 68 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2016 yn gofnod cywir.

 

98.

Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem ganlynol gan Swyddogion am y rhesymau a nodwyd isod:

 

Eitem 7 ar yr agenda - Cais Cynllunio 2008/0512 - Tir oddi ar Heol Brithwen, Waunarlwydd, Abertawe - Datblygiad Preswyl (amlinelliad).

 

Caniatáu i'r ymgeisydd gyflwyno mwy o wybodaeth hyfywedd i'w hystyried.

 

99.

Cais am gofrestru tir a adwaenir fel Picked Mead, Newton, Abertawe yn faes tref neu bentref. pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu canfyddiadau ac argymhellion yr Arolygydd.

 

Cafodd hanes cefndir y cais, y profion cyfreithiol a wnaed, yr ymgynghoriad, y sylwadau a dderbyniwyd o blaid ac yn erbyn, yr ymchwiliad a gynhaliwyd, y cyngor cyfreithiol a gafwyd a'r cylch gwaith, y canfyddiadau a chasgliad yr Arolygydd eu hamlinellu a'u cyfleu i'r pwyllgor.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Mr Victor Collier a siaradodd o blaid y cais.

 

PENDERFYNWYD

 

1) y dylid gwrthod y cais i gofrestru'r uchod.

 

2) Ni ddylai unrhyw ran o dir y safle ymgeisiol gael ei hychwanegu at y Gofrestr Meysydd Tref neu Bentref o dan Adran 15 Deddf Tiroedd Comin 2006.

 

100.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.. pdf eicon PDF 48 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio gyfres o geisiadau cynllunio.

 

Adroddwyd am newidiadau i'r atodlen hon ac fe'u nodir isod gan (#).

 

PENDERFYNWYD

 

(1) y dylai'r ceisiadau cynllunio a enwir isod gael eu CYMERADWYO yn amodol ar yr

amodau yn yr adroddiad a/neu a nodwyd isod:

 

#(Eitem 1) Cais Cynllunio. 2015/2527 - 438 Heol Gŵyr, Cilâ, Abertawe.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Diwygio Amodau 3 a 4 ac ychwanegu'r frawddeg ganlynol at bob amod:

 

Bydd gosod yr holl gyfarpar fel rhan o'r cynllun y cytunwyd arno wedi hyn yn cael ei gynnal a'i weithredu yn unol â'r manylion y cytunwyd arnynt tra bo'r defnydd ohonynt yn parhau.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Simon Peake (asiant).

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd J W Jones (Aelod Lleol) a siaradoedd yn erbyn y cais.

 

 

#(Eitem 2) Cais Cynllunio. 2016/0055 - Tir i'r gorllewin o Heol Victoria, Heol Victoria, Tregŵyr, Abertawe.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar ddileu amod 12.

 

101.

Heol Tavistock a Heol Parc Wern, Sgeti, Abertawe - Adroddiad Cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed 599. pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio adroddiad a oedd yn gofyn am ystyriaeth o’r cadarnhad, fel gorchymyn llawn, Orchymyn Cadw Coed dros dro 599 - Heol Tavistock a Heol Parc Wern, Sgeti, Abertawe.

 

Amlinellwyd yr hanes cefndir, arfarniad o'r safle, y gwrthwynebiadau a'r sylwadau a dderbyniwyd yn yr adroddiad.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Sarah Andrews (gwrthwynebydd) o ran 10 Heol y Frenhines, Sgeti.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r mater gael ei ohirio nes cynnal ymweliad safle â 10 Heol y Frenhines, Sgeti.