Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

27.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio 2022-2023. pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol adroddiad a oedd yn hysbysu Aelodau o ganfyddiadau 4ydd Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol (AMB) ar gyfer y cyfnod 2022 - 2023, ac roedd yn ceisio cymeradwyaeth i'w gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

 

Nododd fod yr adroddiad yn cyflwyno’r canfyddiadau ar gyfer rhan allweddol o'r broses cynllun datblygu strategol, ac yn nodi sut mae nodau, amcanion a pholisïau Cynllun Datblygu Lleol Abertawe wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer y cyfnod 2022 i 2023.

 

Darparwyd diweddariad llafar manwl mewn perthynas â'r prif feysydd a amlinellwyd yn yr adroddiad a ddarparwyd.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylwadau a gofynnwyd cwestiynau amrywiol i'r Swyddog, a ymatebodd yn briodol. Caiff ychydig o ddiweddariadau ffeithiol bach eu gwneud i'r ddogfen AMB cyn ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru, gan adlewyrchu materion a godwyd gan Aelodau yn ystod y drafodaeth.

 

Penderfynwyd

1)    Nodi canfyddiadau'r 4ydd AMB, fel a grynhowyd yn yr adroddiad hwn ac fel a nodwyd yn llawn yn y ddogfen AMB (atodedig yn Atodiad A yr adroddiad);

2)    Bod fersiwn derfynol y 4ydd AMB yn cael ei chymeradwyo i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru yn unol â gofynion statudol.

3)    Bod Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu Swyddog dynodedig, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r 4ydd AMB cyn iddo gael ei gyflwyno a'i gyhoeddi.

 

 

28.

Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 4ydd Adroddiad Monitro Blynyddol 2022-23 (AMB4). pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol er gwybodaeth.

 

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried bod yr adroddiad yn ddull pwysig ar gyfer monitro perfformiad awdurdodau cynllunio lleol yn erbyn cyfres allweddol o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn offeryn pwysig ar gyfer meincnodi perfformiad awdurdodau lleol ar draws Cymru. Manylwyd ar yr adroddiad drafft ar gyfer y cyfnod o Ebrill 2022 i Mawrth 2023 yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

Rhoddwyd manylion am y ffigurau perfformiad gwirioneddol, y gwelliannau a gyflawnwyd dros y blynyddoedd diwethaf a'r materion i'w datrys ymhellach yn yr adroddiad, yn ogystal â chyfres o benderfyniadau apêl yn deillio o geisiadau y gwnaed penderfyniadau arnynt, yn groes i argymhellion swyddogion.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau am bynciau amrywiol mewn perthynas â'r adroddiad, yr ymatebodd y swyddog yn briodol iddynt, a nodwyd y bydd gwybodaeth fanwl y gofynnwyd amdani yn cael ei dosbarthu i Aelodau yn dilyn y cyfarfod.