Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

32.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

33.

Cofnodion. pdf eicon PDF 208 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a

gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2023 fel cofnod cywir.

 

34.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

(1) -  2023/2111/LBC - Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod.

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2023/2111/LBC - Gosod sgrîn yn llys 2 i gyd-fynd â llys 1 i wella'r system glyweledol yn neuadd y Ddinas.

Llysoedd (cais am ganiatâd adeilad rhestredig) yn Neuadd y Ddinas, St Helens Crescent, Brynmill, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Sylwer: Cymeradwywyd y cais a chafodd ei gyfeirio at CADW a Llywodraeth Cymru.

 

35.

Arweiniad Cynllunio Atodol Newydd: Addasu Adeiladau Gwledig Traddodiadol. pdf eicon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol adroddiad a oedd yn crynhoi ac yn nodi canlyniadau'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar fersiwn ddrafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) a cheisiodd gymeradwyaeth gan aelodau i fabwysiadu fersiwn derfynol ddiwygiedig o'r CCA. 

 

Darparwyd cyflwyniad PowerPoint a oedd yn crynhoi pwyntiau ac agweddau allweddol o'r adroddiad i'r Pwyllgor.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, gofynnodd yr aelodau gwestiynau amrywiol a cheisiwyd eglurder ynghylch meysydd penodol yn yr adroddiad, ymatebodd swyddogion yn unol â hynny.

 

Penderfynwyd

 

1) Mabwysiadu CCA Addasu Adeiladau Gwledig Traddodiadol, fel yr atodir yn Atodiad A, fel y CCA ar gyfer y CDLl a fabwysiadwyd.

 

2) Bydd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r CCA cyn iddynt gael eu cyhoeddi.

 

 

 

36.

Cynllun Mynediad i Gefn Gwlad Drafft 2023-2033. pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Drafft at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Amlinellwyd yr wybodaeth gefndirol ar gyfer y datblygiad o'r cynllun, y manylion a chrynodeb o'r rhannau gwahanol amrywiol o'r cynllun drafft a gynhwysir ynddo, a dylid cymryd y camau nesaf yn dilyn cymeradwyaeth o'r adroddiad drafft a manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Byddai'r cynllun yn cael ei gyflwyno ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus 12 wythnos cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi iddo gael ei gymeradwyo.

 

Amlinellodd fyddai'r Awdurdod yn gallu cael mynediad at £25,000 o'r cyllid tuag at gynnal a chadw a gwella hawliau tramwy gan Lywodraeth Cymru os byddai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Mynediad i Gefn Gwlad ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ac adroddir yn ôl i'r cyngor, fel y'i diwygiwyd, ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.