Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 Y Cynghorydd  P Lloyd – Eitem 5 (1) - 2023/1680/FUL - Personol

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd P Lloyd – Eitem 4 (1) - 2023/1680/FUL - Personol

 

30.

Cofnodion. pdf eicon PDF 236 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 3 a 24 Hydref 2023 a'u llofnodi fel cofnodion cywir.

 

31.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1) - 2023/1765/S73 - Cymeradwywyd

 

 

(2) - 2023/2018/RES - Cymeradwywyd

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.    

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod. 

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod.)

 

(Eitem 1) - Cais cynllunio2023/1765/S73 - Cae dan do newydd, estyniadau i adeiladau presennol y ganolfan hamdden ynghyd ag ailgyfluniad mewnol fel y gellir darparu gwell cyfleusterau campfa a newid, ystafell gymunedol, ardal gaffi a derbynfa, ailbwrpasu’r ystafelloedd ffitrwydd presennol fel y gall yr ysgol eu defnyddio at ddibenion buddiol, ailwampio'r cyrtiau tennis, y ffensys a'r goleuadau cysylltiedig, gosod llwybrau cydgysylltiol i gerddwyr rhwng yr ysgol a'r ardaloedd hamdden a'r cysylltiadau allanol presennol sy'n amgylchynu'r safle, maes parcio newydd gyda mynedfa newydd yn agos i Cefn Hengoed Road - Amrywiad ar amodau 13, 14 a 15 caniatâd cynllunio 2021/1331/FUL a roddwyd ar 1 Tachwedd 2021 i ganiatáu ar gyfer meddiannu'r cyfleuster hamdden a chymunedol cyn i'r sgubor chwaraeon gael ei chwblhau ac i'r maes parcio, mannau gwefru a lle storio beiciau gael eu darparu'n llawn pan gaiff y sgubor chwaraeon ei chwblhau yng Nghanolfan Hamdden Cefn Hengoed  Caldicot Road, Bôn-y-maen, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Jamie Rewbridge (ymgeisydd– Cyngor Abertawe) .

 

 

 

(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2023/2018/RES - Materion a gadwyd yn ôl               Cais am adeiladu unedau preswyl ac uned fasnachol gysylltiedig ar y llawr gwaelod, lle parcio ceir, gwaith tirlunio ac isadeiledd yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol 2023/0357/OUT a roddwyd ar 22 Medi 2023 a chyflwyno manylion yn unol ag Amod 6 (Cynllun Tirlunio), 7 (Cynllun Rheoli Tirlunio), 8 (Lefelau tir a lefelau lloriau arfaethedig), 9 (Samplau o orffeniadau allanol), 10 (Lluniadau manwl), 18 (Cilfan i gerbydau a gwaith cysylltiedig i'r briffordd), 27 (Sŵn) yn Safle B3 , Riverside Wharf, Glannau Abertawe, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

 

# Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Awdurdod Priffyrdd - nid oes ganddynt sylwadau pellach i'w gwneud ar ben y rheini a ddarparwyd yn y cam amlinellol.