Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ebrill
2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: 1) 2023/0381/FUL - Gohiriedig 3) 2022/2988/S73 - Gohiriedig 4) 2022/0677/S73 - Gohiriedig Cofnodion: Gohiriwyd y
ceisiadau canlynol gan Swyddogion oherwydd materion yn ymwneud â chylchrediad
gohebiaeth i bartïon â buddiant cyn y cyfarfod. Eitem 1 - 2023/0381/FUL - Codi estyniad cefn (6,226sq.m) i'r
ganolfan warws a dosbarthu bresennol ynghyd â dymchwel y cysylltiad presennol
rhwng adeiladau a rhan o'r adeilad presennol i hwyluso’r gwaith o ychwanegu bae
llwytho newydd yn Uned 8, Ystâd Ddiwydiannol Lye, Pontarddulais, Abertawe. Eitem 3 - 2022/2988/S73
- Adeiladu Parc Grid Gwyrddach sy'n cynnwys storio ynni ac offer cydbwyso grid,
gan gynnwys newid defnydd o dir pori amaethyddol, ynghyd â seilwaith
cysylltiedig, tirlunio a llwybr mynediad. Amrywio amod 2 (cynlluniau) caniatâd
cynllunio 2021/0163/FUL a roddwyd ar 9 Awst 2021 i ganiatáu newidiadau i offer
a chynllun arfaethedig ar dir i’r gorllewin o Heol Rhydypandy, Treforys,
Abertawe. Eitem 4 - 2022/0677/S73
- Datblygiad preswyl (31 anhedd) gyda seilwaith ffyrdd cysylltiedig,
darpariaeth draenio a thirlunio (Amrywiad/dileu Amodau 2, 14, 19, 20, 24, 28 a
34 o ganiatâd cynllunio 2018/2634/FUL a roddwyd ar 18/11/2021 - mân newidiadau
i ymddangosiad allanol a chynllun mewnol nifer o anheddau, (heb unrhyw newid yn
y gymysgedd graddfa uned arfaethedig, cynllun cyffredinol y safle), amnewid
nifer o gysgodfeydd ceir gyda garejys a darparu gwybodaeth ychwanegol y
gofynnir amdani fel rhan o'r caniatâd presennol cyn dechrau'r datblygiad) ar
dir oddi ar y lôn uwch, Langland, Abertawe. Ni
effeithiwyd ar eitem 2 - 2022/2489/S73 gan y mater a gellid ei ystyried yn y cyfarfod. (Sylwer: Mae Pwyllgor Cynllunio Arbennig wedi'i
drefnu ar gyfer dydd Mercher 17 Mai i ystyried y gohiriadau uchod) |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 2) 2022/2489/S73 - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cais cynllunio ar ran y Pennaeth Cynllunio ac
Adfywio Dinas. Penderfynwyd bod y ceisiadau cynllunio a nodir isod yn cael eu
cymeradwyo. #(Eitem 2) - Cais Cynllunio
2022/2489/S73 - Datblygiad preswyl sy'n cynnwys mannau agored cyhoeddus a ffyrdd
mynediad newydd o Ffordd Gower View a Ffordd Brynafon (amlinell) (Amrywio amodau 1, 3 a 4 caniatâd
cynllunio 2005/2355 a roddwyd ar 23 Ebrill 2010) i ymestyn y cyfnod amser ar
gyfer cyflwyno Materion a Gadwyd yn Ôl ar yr ardal safle sy'n weddill yn unol
â'r Datganiad Dylunio a Mynediad diwygiedig a'r Uwchgynllun
(Amrywio amod 28 o ganiatâd cynllunio 2019/0911/S73, a roddwyd ar 8 Hydref
2019) i ganiatáu defnydd ychwanegol ar gyfer adeilad y gymuned o dan Ddosbarth
A3 (Caffi) Cafwyd cyflwyniad gweledol. Cymeradwywyd cais yn ddarostyngedig i Weithred
Amrywiad A106 yn unol â'r argymhelliad ac yn ddarostyngedig i'r amodau
ychwanegol canlynol: 28. Ni ddylid cymryd danfoniadau
neu eu hanfon o’r defnydd A3 a gymeradwyd y tu allan
i oriau 07:00 i 19:00 ar unrhyw ddiwrnod. Rheswm: Diogelu mwynderau meddianwyr cyfagos, yn
unol â Pholisi PS 2 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2010-2025. 29. Ni fydd yr A3 a gymeradwywyd trwy hyn yn cael
ei ddefnyddio'n fuddiol nes bod cynllun rheoli gwastraff wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo
yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd y cynllun yn cael ei
weithredu yn unol â'r manylion cymeradwy a bydd yn cael ei gadw am oes y
datblygiad a gymeradwyir drwy hyn. Rheswm: Sicrhau darpariaeth rheoli gwastraff
digonol, yn unol â Pholisi RP 10 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2010-2025. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn amlinellu manylion adroddiad yr arolygwyr ynghylch apêl yn erbyn
penderfyniad y Pwyllgor i beidio â rhoi caniatâd cynllunio yn ymwneud â'r cais
a amlinellir uchod. Roedd yr arolygydd wedi wfftio'r apêl ac atodwyd
canfyddiadau manwl ei adroddiad yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |