Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. Y Cynghorydd R A Williams – Eitem 3 (2020/1492/FUL) – personol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol: Y Cynghorydd R A Williams – Eitem 3 (2020/1492/FUL) – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) – 2022/2796/FUL - Cymeradwywyd (2) – 2023/0220/FUL - Cymeradwywyd (3) - 2020/1492/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod) Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod. #(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2022/2796/FUL - Gwelliannau mynediad i gerbydau, adeiladu
Cyflenwyr Adeiladu gan gynnwys storfa y tu allan ar gyfer deunyddiau a ffensys
perimedr, 2 uned gyrru trwyddo (defnydd Dosbarth A1/A3), unedau B2/B8, ystafell
farchnata ar gyfer cerbydau (defnydd unigryw) a datblygiad cysylltiedig ar dir
y tu ôl i Dyffryn Close, Parc Menter Abertawe, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol manwl. Anerchodd Dave
Daycock (ar ran y gwrthwynebydd) a Matthew Gray (asiant) y pwyllgor. Dosbarthwyd lluniau
o faterion amrywiol yn ymwneud â llifogydd etc. ar y safle cyfagos gan y
gwrthwynebydd i'r Aelodau a oedd yn bresennol ac fe'u dangoswyd ar-lein. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae
ymateb ysgrifenedig pellach wedi ei gyflwyno ar ran y gwrthwynebydd yn codi
materion amrywiol sydd wedi eu crynhoi fel a ganlyn: i)
Mae'r safle mewn perygl
llifogydd sydd wedi'i waethygu gan waith torri coed. Mae'r bwriad yn groes i
TAN15 ac yn peri risg llifogydd i dir ac eiddo trydydd parti. ii)
Mae carthffosydd a draeniau
anhysbys posib o fewn y safle. iii)
Llygredd safle sydd angen
ymchwiliad pellach. iv)
Mae canclwm Japan ar y
safle. Mae'r
materion uchod eisoes wedi cael sylw yn yr adroddiad (Eitem 2) –
Cais Cynllunio 2023/0220/FUL - Codi gât ffin flaen yn 70 Rhyd y Defaid Drive,
Sgeti, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Craig
Davies (ymgeisydd) y Pwyllgor. (Eitem 3) –
Cais Cynllunio 2020/1492/FUL - Newid defnydd hen ddepo bysus (Dosbarth B8) i
ganolfan ailgylchu gwastraff preifat (Dosbarth B2) ar dir gerllaw'r hen ddepo
bysus, New Road, Crofty, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. |