Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

46.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

Cynghorydd A Williams – Eitem 5 - 2023/0013/FUL – personol a rhagfarnus a gadawodd cyn trafodaeth.

 

 

Y Cynghorydd  P M Black, P Downing, A J Jeffrey, M H Jones, S E Keeton, M B Lewis, R D Lewis, P Lloyd, T M White– Eitem 5 - 2023/0013/FUL – personol

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd R A Fogarty – Eitem 1 - 2020/0343/FUL – personol.

 

Y Cynghorydd R A Williams – Eitem 5 - 2023/0013/FUL – personol a rhagfarnol a gadawodd cyn y drafodaeth.

 

Y Cynghorwyr P M Black, P Downing, A J Jeffrey, M H Jones, S E Keeton, M B Lewis, R D Lewis, P Lloyd, T M White - Eitem 5 - 2023/0013/FUL – personol.

 

 

 

47.

Cofnodion. pdf eicon PDF 293 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2023 fel cofnod cywir.

 

48.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

49.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1) – 2020/0343/FUL - Cymeradwywyd

 

(2) –2022/1109/RES - Gohiriedig

 

(3) –2022/2937/FUL - Cymeradwywyd

 

(4) –2022/2862/S73 - Cymeradwywyd

 

(5) –2023/0013/FUL - Cymeradwywyd

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod

i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â’i chyhoeddi ar wefan y cyngor cyn y cyfarfod, roedd y rheini a nodwyd (*) yn ddiweddariadau llafar yn y cyfarfod.)

 

Penderfynwyd

 

1)    cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod.

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2020/0343/FUL - Datblygiad preswyl yn cynnwys 56 uned fforddiadwy (100% o feddiannaeth) gyda mynedfeydd, parcio, gwaith tirlunio cysylltiedig ac isadeiledd ategol a gwaith draenio ar dir i'r gogledd o Chestnut Avenue, West Cross, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Michael Crafar (gwrthwynebydd ar ran preswylwyr lleol a Cymdeithas Gŵyr) a Geraint John (asiant).

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd R Fogarty (Aelod Lleol) ynghylch y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Derbyniwyd 26 llythyr pellach o wrthwynebiad ac 1 llythyr cefnogi.

 

Argymhellwyd newid bach yn y geiriad ar gyfer tai fforddiadwy i gydymffurfio â GAD (dileu neu unrhyw beth cyfwerth yn y dyfodol)

 

Sylwer: Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106.

 

 

 

 

 

(Eitem 3) - Cais Cynllunio 2022/2937/FUL - Dymchwel yr adeiladau presennol ac adeiladu Cyflenwyr Adeiladwyr (Defnydd Unigryw) a gwaith cysylltiedig yn Pendragon Property Holdings, Upper Fforest Way, Parc Menter Abertawe, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

*Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Diwygio amod 12 - dileu '...neu gyflenwadau' o'r amod. 

 

 

(Eitem 4) - Cais Cynllunio 2022/2862/S73 - Cynnig arfaethedig i roi’r gorau i safleoedd tirlenwi a gweithrediadau eraill a alluogir gan ddatblygiad preswyl i ben - tua 300 o anheddau, mannau agored cyhoeddus, priffyrdd cysylltiedig a gwaith ategol (amlinellol) (Amrywiad ar amod 2 o ganiatâd cynllunio 2014/0977 a roddwyd ar 11 Ionawr 2018 i ganiatáu i geisiadau am faterion a gadwyd yn ôl gael eu hymestyn am 2 flynedd arall i 11 Ionawr 2023) (Amrywiad ar amod 2 o ganiatâd cynllunio 2020/2068/S73 a roddwyd ar 1 Medi 2021) i gael estyniad amser o 3 blynedd i gyflwyno'r camau datblygu pellach yn Cwmrhydyceirw Quarry Co Ltd, Great Western Terrace, Cwmrhydyceirw, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan James Scarborough (asiant).

 

Sylwer: Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106 diwygiedig yn cael ei lofnodi o fewn 3 mis, ac os nad yw wedi ei lofnodi, rhoi awdurdod dirprwyedig i Swyddogion wrthod y cais.

 

 

(Eitem 5) - Cais Cynllunio 2023/0013/FUL - Estyniad ochr a chefn unllawr yn Bugeilfa, Bethel Lane, Pen-clawdd, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

2)    gohirio'r cais cynllunio isod.

 

(Eitem 2) Cais Cynllunio 2022/1109/RES - Adeiladu 35 o fflatiau ac 8 o dai trefol a gwaith cysylltiedig, (manylion mynediad, golwg, tirlunio, cynllun, graddfa yn unol ag amodau 6, 8, 9 19 cais cynllunio amlinellol 2015/1584 a roddwyd ar 13 Mai 2016 (oedd yn amrywio o 2008/0996 ac oedd yn amrywio o 2002/1000) ar gyfer datblygiad defnydd cymysg Glannau SA1 Abertawe yn llain D5b, tir i'r de o Fabian Way ac i'r dwyrain o afon Tawe, Abertawe

 

Cyn gohirio:

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Steve Jones (gwrthwynebydd) a Laura Fower (asiant).

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd S Bennett (Aelod Lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Diwygiwyd disgrifiad y datblygiad i gyfeirio at amodau 6, 8, 9 ac 17 (draenio) ac nid 19 fel y nodir.

 

Sylwadau pellach gan Priffyrdd DASA (28 Chwefror 2023) - gweler Atodiad 1 a ddosbarthwyd.

 

Ymateb yr ymgeisydd i sylwadau Priffyrdd DASA a dderbyniwyd ar 6 Mawrth 2023 – gweler Atodiad 2 a ddosbarthwyd.

 

Sylwer: Gohiriwyd y cais er mwyn caniatáu ystyriaethau pellach i faterion priffyrdd ac i'r Aelodau ymweld â'r safle cyn i'r mater gael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

50.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio 2021/22. pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol gan Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried bod yr adroddiad yn ddull pwysig ar gyfer monitro perfformiad awdurdodau cynllunio lleol yn erbyn cyfres allweddol o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn offeryn pwysig ar gyfer meincnodi perfformiad awdurdodau lleol ar draws Cymru. Rhoddwyd manylion yr adroddiad drafft ar gyfer 2021-2022 yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Rhoddwyd manylion y ffigurau perfformiad gwirioneddol, y gwelliannau a gyflawnwyd dros y blynyddoedd diwethaf a’r materion i fynd i’r afael â hwy ymhellach yn yr adroddiad.