Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2023 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) – 2022/1438/S73 - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cais
cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir
ato isod. (Eitem 1) –
Cais Cynllunio 2022/1438/S73 - Adeiladu 20 annedd ar wahân, garejys a gwaith
mynediad a thirlunio cysylltiedig, a dymchwel Rhif 188 St Teilo Street (Amrywiad ar amod 2 caniatâd cynllunio 2018/1014/FUL
a roddwyd ar 5 Mawrth 2019) i ganiatáu ar gyfer newidiadau i Leiniau 11 a 12 a
llwybr newydd i gerbydau a chyffyrdd siâp T estynedig ar dir a adwaenid yn
flaenorol fel The Gardens a’r tu ôl i 188 St Teilo Street, Pontarddulais, Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Cymeradwywyd
y cais yn amodol ar gytundeb A106. |