Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

38.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

39.

Cofnodion. pdf eicon PDF 304 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir.

 

40.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

41.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1 - 2022/2706/PNT - Gwrthodwyd

 

2 - 2022/2147/FUL - Cymeradwywyd

 

3 - 2022/1149/FUL - Cymeradwywyd

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i

Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor cyn y cyfarfod, roedd y rheini a nodwyd â (*) yn ddiweddariadau llafar yn ystod y cyfarfod.) 

 

Penderfynwyd 

1) gwrthod y cais cynllunio isod:

 

#(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2022/2706/PNT - Gosod polyn telathrebu 5G arfaethedig: Polyn stryd H3G 16m a chabinetau offer ychwanegol (cais am Hysbysiad Blaenorol o Ddatblygiad Arfaethedig gan Weithredwyr System Côd Telathrebu) ar gyfer gwaith stryd yn Sgwâr Cwmbwrla, Sgwâr Cwmbwrla, Trefansel, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Mrs Richards (gwrthwynebydd).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd C A Holley (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cynnig.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

         Derbyniwyd llythyr ychwanegol yn gwrthwynebu gan berchennog/feddiannydd 74 Pentregethin Road. Dyma grynodeb o'r sylwadau: Mae'r cynnig yn niweidiol i amwynder gweledol, mae effeithiau andwyol i iechyd a lles preswylwyr, mae'n niweidiol i ddiogelwch priffyrdd ac mae mannau eraill y gellid ei osod.

         Ategwyd y llythyr hefyd gan ddelweddau a chynlluniau, gan gynnwys argraff weledol o sut y gallai'r mast a'r offer ymddangos yn y strydlun.

         Mae'r materion a godwyd yn y llythyr eisoes wedi derbyn sylw rhesymol o fewn yr adroddiad gwreiddiol.

         *Eglurwyd yn y cyfarfod fod y cais yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn cynnwys gosod hysbysiad ar y safle ac ymgynghori'n uniongyrchol ag un eiddo. Roedd hyn yn bodloni'r gofynion cyhoeddusrwydd a nodwyd yn y rheoliadau perthnasol.

 

Sylwer:

Ni dderbyniwyd Argymhelliad y Swyddog.

Prior approval refused contrary to officer recommendation for the following reasons:

Byddai'r datblygiad arfaethedig, oherwydd ei uchder, ei olwg a'i leoliad cyhoeddus amlwg, yn cael effaith weledol niweidiol ar yr ardal leol ac effaith andwyol ar amwynder preswyl deiliaid yr eiddo cyfagos, yn groes i Bolisïau PS 2 ac UE5 o Gynllun Datblygu Lleol Abertawe (2010 - 2025).

 

2) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio a nodir isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a amlinellir isod:

 

*(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2022/2147/FUL – Estyniad un llawr i'r ochr/cefn yn cynnwys garej fewnol ym Maesyrhaf, Tŷy Draw Road, Bôn-y-maen, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Mae gwall teipio bach wedi'i nodi yn yr adroddiad dan yr adran diogelwch priffyrdd. Dylid disodli'r gair 'defnyddio' yn y frawddeg gyntaf â 'cholli' ond nid yw hyn yn newid yr asesiad priffyrdd a'r canlyniad cyffredinol yn sylweddol.

 

 

*(Eitem 3) – Cais Cynllunio 2022/1149/FUL – Adeilad cynhyrchu sy'n gysylltiedig ag adeilad presennol y ganolfan gwasanaethau yn Timet, Titanium Road, Waunarlwydd, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Diwygiad i amod 2 lle mae dyddiad y diwygiad canlyniadau llifogydd yn anghywir.

 

Newid amod 2 fel ei fod yn datgan:

Rhaid ymgymryd â'r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau cymeradwy canlynol: 001 REV 06 - lleoliad safle a chynllun bloc, Adroddiad Ecolegol Rhagarweiniol a baratowyd gan gwmni Bay Ecology, Asesiad Sŵn a baratowyd gan Inacoustic a dderbyniwyd 13 Mai 2022, Asesiad Canlyniadau Llifogydd a dderbyniwyd ar 21 Hydref 2022 ac Adroddiad Ymchwiliad Tir a baratowyd gan Quantum Geotech a dderbyniwyd ar 12 Gorffennaf 2022. HCE-1546-PLA-001 - cynllun rheoli amgylcheddol ar gyfer adeiladu amlinellol ar gyfer cyfleuster cynhyrchu newydd, adroddiad coedyddiaeth a dderbyniwyd ar 18 Mai 2022. 002 REV R06 - trefniant cyffredinol cynlluniau'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf, 003 REV R06 - cynllun to trefniant cyffredinol ac adran A-A, 004 REV R07 - trefniant cyffredinol gweddluniau, 006 R05 - cynllun safle a dderbyniwyd ar 12 Gorffennaf 2022. 002 REV R04 - cynllun dŵr storm, 003 REV R03 -  adrannau dŵr storm A, B, C a Ch, 004 REV R01 - manylion draenio safonol, taflen 1 o 2, 005 REV R01 - manylion draenio safonol, taflen 2 o 2, 006 REV R04 - safonau manylion SDCau, taflen 1 o 2, 007 REV R01 safonau manylion SDCau, taflen 2 o 2 a dderbyniwyd 28 Gorffennaf 2022. PLO2 - Trefniant cyffredinol cyffordd ymadael arfaethedig a dderbyniwyd ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Rheswm: I osgoi amheuaeth a sicrhau cydymffurfiaeth â'r cynlluniau a gymeradwywyd.