Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol:

 

Y Cynghorydd P M Black - Cais Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) &

2021/0944/FUL (Eitem 4) – personol a rhagfarnol a'i adael cyn trafodaeth.

 

Y Cynghorydd P Downing - Cais Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) & 2021/0944/FUL (Eitem 4)  - personol

 

Y Cynghorydd P Lloyd – Cais Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) & 2021/0944/FUL (Eitem 4) – personol

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd P M Black - Ceisiadau Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) a 2021/0944/FUL (Eitem 4) - Personol a Rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth

 

Y Cynghorydd P Downing - Ceisiadau Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) a 2021/0944/FUL (Eitem 4) - Personol

 

Y Cynghorydd P Lloyd - Ceisiadau Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) a 2021/0944/FUL (Eitem 4) - Personol

 

35.

Cofnodion. pdf eicon PDF 310 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

 

36.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim

37.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1)    2022/2017/FUL – Cymeradwywyd

2)    2018/2629/FUL – Cymeradwywyd

3)    2021/1966/FUL – Cymeradwywyd

4)    2021/0944/FUL - Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r ceisiadau cynllunio isod yn unol â’r amodau yn yr adroddiad a/neu fel a nodir isod:

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2022/2017/FUL - Newidiadau mewnol i hwyluso’r newid defnydd o dŷ tafarn (Dosbarth A3) i annedd ar wahân (Dosbarth C3) yn Rock and Fountain, Rhyddwen Road, Craig-cefn-parc, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Tim Buxton (gwrthwynebydd) a Robert Bowen (asiant).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Brigitte Rowlands (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

 

(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2018/2629/FUL - Adeiladu 55 o anheddau ag isadeiledd cysylltiedig ar dir oddi ar Coed Bach Road, Pontarddulais, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Geraint John (asiant).

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Amod ychwanegol wedi'i ychwanegu fel a ganlyn:

 

26. Ni cheir meddiannu unrhyw annedd a gymeradwyir trwy hyn hyd nes y bydd Cynllun Gweithredu'r Gymraeg sy’n cynnwys y mesurau arfaethedig canlynol wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo’n ysgrifenedig ganddo: 

-          Marchnata eiddo’n ddwyieithog;

-          Cynhyrchu pecyn croeso i bob cartref sy'n nodi'r ddarpariaeth Gymraeg yn yr ardal;

-          Sicrhau bod enwau strydoedd yn Gymraeg er mwyn gwarchod a hyrwyddo cymeriad ieithyddol lleol a hynodrwydd diwylliannol Pontarddulais.

 

Bydd y mesurau/argymhellion a gynhwysir yn y Cynllun Gweithredu'r Gymraeg cymeradwy yn cael eu gweithredu'n llawn wedi hynny.

 

Rheswm:  Er mwyn sicrhau bod effaith y datblygiad ar y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth ddatblygu a marchnata’r cynnig ac o ran enwau lleoedd yno, yn unol â Pholisi HC3 y CDLl.

 

Sylwer: Cymeradwywyd y cais yn unol ag argymhelliad yn amodol ar lofnodi Cytundeb Adran 106 ac ychwaneg amod 26.

 

(Eitem 3) - Cais Cynllunio 2021/1966/FUL - Adnewyddu ac adeiladu estyniadau cefn pedwar llawr ac estyniad bar to ac estyniad teras to i'r gwesty i ddarparu 42 ystafell wely ychwanegol a llety ategol yng Ngwesty'r Grand, Ivey Place, Canol y Ddinas, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

(Eitem 4) - Cais Cynllunio 2021/0944/FUL - Adeiladu 30 o fflatiau preswyl a gwaith cysylltiedig ar dir yn Upper Bank, Nantong Way, Pentrechwyth, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Geraint John (asiant).

 

Sylwer: Cymeradwywyd y cais yn unol â’r argymhelliad ar yr amod na fydd unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol newydd yn cael eu codi cyn 19 Rhagfyr 2022 pan ddaw’r hysbysiad i’r wasg i ben.