Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

31.

Cofnodion. pdf eicon PDF 96 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2022 fel cofnod cywir.

 

32.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

33.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

(1) – 2019/2881/RES - Cymeradwywyd

 

 

(2) – 2022/0904/FUL - Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod.)

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r ceisiadau cynllunio isod yn unol â’r amodau yn yr adroddiad a amlinellir isod:

 

#(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2019/2881/RES - Manylion materion a gadwyd yn ôl yn unol ag amod 2, caniatâd cynllunio amlinellol 2017/1822/OUT a roddwyd ar 9 Hydref 2019 ar gyfer 471 o unedau preswyl Camau 1A a 3A ynghyd â Cham 0 - Spine Street ar dir i'r gorllewin o Llangyfelach Road, Tirdeunaw, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Mark Tribe (Aelod Lleol) a gofynnodd gyfres o gwestiynau ynghylch y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Caiff y testun canlynol ei gynnwys o fewn adran "Amodau'r Caniatâd Amlinellol" yn yr adroddiad. Hepgorwyd hyn oherwydd camgymeriad fformatio:

 

Amod 28 - cynllun pibelli dŵr yfed

 

Cyflwynwyd y manylion canlynol:

- Cynllun prif bibell ddŵr arfaethedig Cam 1A a 3A - Trosolwg o Ddyluniad Drafft y Safle (Darlun rhif 001 Rhifyn 02), a dderbyniwyd ar 28 Gorffennaf 2022.

 

- Cyflwynwyd yr amserlen ar gyfer y bibell dŵr yfed trwy e-bost ar 19 Awst 2022.

 

Mewn ymgynghoriad â Dŵr Cymru, ystyriwyd bod yr wybodaeth uchod yn dderbyniol i fodloni gofynion amod 28 i'r graddau y mae'n berthnasol i gamau 0, 1A a 3A.

 

Amod 30 - Asesiad effaith coedyddiaeth a chynllun amddiffyn coed sy'n benodol i'r cam

 

Cyflwynwyd y manylion canlynol:

 

Edp2708_r014e (Datganiad Dull Coedyddiaeth) a baratowyd gan EDP, dyddiedig mis Medi 2022, a dderbyniwyd ar 21 Medi 2022

 

Mewn ymgynghoriad ag Is-adran Tirlunio'r cyngor, ystyriwyd bod yr wybodaeth uchod yn dderbyniol i fodloni gofynion amod 30 i'r graddau y mae'n berthnasol i gamau 0, 1A a 3A.

 

Amod 31 - Mesurau amddiffyn coed

 

Cyflwynwyd y manylion canlynol:

 

Edp2708_r014e (Datganiad Dull Coedyddiaeth) a baratowyd gan EDP, dyddiedig mis Medi 2022, a dderbyniwyd ar 21 Medi 2022

 

Mewn ymgynghoriad ag Is-adran Tirlunio'r cyngor, ystyriwyd bod yr wybodaeth uchod yn dderbyniol i fodloni gofynion amod 31 i'r graddau y mae'n berthnasol i gamau 0, 1A a 3A.

 

Amod 46 - Strategaeth celf gyhoeddus sy'n benodol i'r cam

 

Cyflwynwyd y manylion canlynol:

 

Strategaeth Celf Gyhoeddus Pentref Rhostir, a baratowyd gan Studio Response, dyddiedig mis Mehefin 2022

 

Mewn ymgynghoriad ag Is-adran Gwasanaethau Diwylliannol y cyngor, ystyriwyd bod yr wybodaeth uchod yn dderbyniol i fodloni gofynion amod 46 i'r graddau y mae'n berthnasol i gamau 0, 1A a 3A.

 

Amod 47 – Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecoleg sy'n benodol i'r cam

 

Cyflwynwyd y manylion canlynol:

 

edp2708_r012c (Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecoleg) a baratowyd gan EDP, dyddiedig mis Awst 2022, a dderbyniwyd ar 22 Awst 2022.

           

Mewn ymgynghoriad ag ecolegydd y cyngor, ystyriwyd bod yr wybodaeth uchod yn dderbyniol i fodloni gofynion amod 30 i'r graddau y mae'n berthnasol i gamau 0, 1A a 3A.

 

Caiff yr amod canlynol ei ychwanegu at y rhestr o amodau a argymhellwyd a chafodd ei hepgor o'r adroddiad ar ddamwain:

 

Amod 12:

 

Ac eithrio darpariaethau Dosbarthiadau A, B, C, Ch, D a Dd Rhan 1 Atodlen 2, Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y'i diwygiwyd ar gyfer Cymru) (neu unrhyw orchymyn sy'n ddirymu ac yn ailfabwysiadu'r gorchymyn hwnnw gydag addasiadau neu hebddynt), ni chaniateir cwblhau estyniadau, estyniadau i'r to, cynteddau, adeiladau, lloriau caled neu newidiadau eraill heb awdurdod penodol y caniatâd hwn.

           

Rheswm: Er mwyn atal datblygiad anaddas ar y safle a all effeithio ar y cwrs dŵr a chreu neu waethygu unrhyw berygl llifogydd presennol ac er budd amwynder gweledol ac amwynderau meddianwyr cyfagos yn unol â Pholisïau PS2, RP4 ac RP5 y CDLl.

 

 

#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2022/0904/FUL – oergell barod yng nghefn y storfa bresennol yn Ystad Ddiwydiannol y Morfa, Unilift South Wales Ltd, Alamein Road, Glandŵr, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Caiff yr amod canlynol ei ychwanegu at y rhestr o amodau a argymhellwyd a chafodd ei hepgor o'r adroddiad ar ddamwain:

 

Amod 5

 

Cyn dechrau'r datblygiad, dylid cyflwyno Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd (fel a amlinellwyd ym mharagraffau 9.8, 9.9 a 9.10 yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd i gefnogi'r cais) i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig. Yna dylid cyflawni'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi'i gymeradwyo yn unol â'r manylion a gymeradwywyd cyn y defnydd buddiol cyntaf o'r datblygiad a gymeradwywyd trwy hyn.

 

Rheswm: Er mwyn lliniaru effaith unrhyw ddigwyddiadau llifogydd yn unol â'r Asesiad Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd.