Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

            Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

26.

Cofnodion. pdf eicon PDF 313 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022 fel cofnod cywir.

 

27.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

28.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

2022/0794/S73 - Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad:

 

#(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2022/0794/S73 - Ailddatblygu canolfan siopa sydd eisoes yn bodoli sy'n cynnwys archfarchnad Tesco newydd (arwynebedd llawr gros 10,100 metr sgwâr), gorsaf betrol ac 8 o unedau manwerthu cysylltiedig (arwynebedd llawr gros 11,670 metr sgwâr) gyda buarthau gwasanaeth cysylltiedig a lleoedd parcio i staff, newidiadau i fynediad presennol oddi ar Pontarddulais Road, cau mynediad presennol oddi ar Carmarthen Road, adeiladu dau fynediad newydd oddi ar Ffordd Cynore, gwaith priffyrdd oddi ar y safle i Ffordd Cynore a chyffordd Pontarddulais Road, darparu maes parcio i gwsmeriaid â 1,275 o leoedd, gwaith tirlunio ar y safle a gwaith llety - Amrywiaeth ar amod 9 caniatâd cynllunio A00/0366 a roddwyd ar 1 Awst 2000 er mwyn caniatáu newid yr oriau gweithredu ar gyfer y gatiau, o gael eu cloi rhwng 21:00 a 08:00 i gael eu cloi rhwng 22:00 a 07:00 er mwyn caniatáu ar gyfer dosbarthu nwyddau i unedau 12 ac 13 (Aldi), ar y ffordd fynediad gwasanaeth o Ffordd Cynore i'r ardal ddosbarthu y tu ôl i unedau manwerthu 12 ac 13 yn Uned 13 Parc Fforest-fach, Cadle, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Adroddwyd am lythyr o wrthwynebiad a dderbyniwyd yn hwyr.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Chris Jennings (asiant) a siaradodd o blaid y cais.

 

29.

Cais Cynllunio 2022/1230/FUL - Trehafod, Waunarlwydd Road, y Cocyd, Abertawe. pdf eicon PDF 818 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthodwyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio adroddiad a oedd yn amlinellu bod y cais wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ar 6 Medi 2022 gyda'r argymhelliad y dylid cymeradwyo'r cais cynllunio yn destun amodau. Nid oedd y Pwyllgor Cynllunio wedi derbyn yr argymhelliad ond penderfynwyd gohirio'r cais dan y broses bleidleisio dau gam er mwyn gallu darparu cyngor pellach ar y rhesymau dros wrthod.

 

Ychwanegwyd nad oedd y cais wedi'i wrthod hyd nes y byddai'r rhesymau dros wrthod wedi eu cofnodi a'u cymeradwyo gan y Pwyllgor.

 

Manylwyd ar adroddiad wedi’i ddiweddaru a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd a rhesymau posib dros wrthod a darparwyd copi o'r adroddiad gwreiddiol i'r Pwyllgor Cynllunio ar 6 Medi 2022 yn Atodiad A.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Helen Jones, Liz McWilliams, Alan Cunningham a Dewi Perkins (gwrthwynebwyr).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Chris Jennings ar ran yr ymgeisydd, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a Phil Baxter (asiant). Dangoswyd adnoddau gweledol i gefnogi eu hanerchiad.

 

Bu'r Cynghorydd Michael Locke (Aelod Lleol) yn annerch y pwyllgor ac yn siarad yn erbyn y cais.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Elliott King (Aelod Lleol) ar ei ran ef ei hun a'i gydweithwyr yn ward 2 y Cocyd a siaradodd yn erbyn y cais.

 

Eto, ni dderbyniwyd yr argymhelliad i gymeradwyo.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais am y rhesymau canlynol;

 

  1. Bydd y datblygiad arfaethedig, oherwydd ei gyferbyniad annerbyniol a’r gwrthdaro posib rhwng y defnydd arfaethedig ac eiddo preswyl cyfagos yn cael effaith andwyol ar yr amwynderau preswyl a gweledol presennol yn y strydlun oherwydd y byddai'r goleuadau arfaethedig a'r dulliau amgáu yn mynd yn groes i ofynion Polisi PS2 Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe (2010 - 2025).

 

  1. Mae gan y Ganolfan Breswyl i Fenywod arfaethedig (Dosbarth C2A) ar y cyd â'r gwaith cysylltiedig y potensial i gyflwyno'r ofn o drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i'r ardal breswyl ac ystyrir byddai hynny'n cael effaith andwyol ar ddiogelwch cymunedol a nod lles cymunedol cydlynol sy'n mynd yn erbyn Polisi SI8 y CDLl a Pholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11 - Chwefror 2021).