Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

65.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

66.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

67.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1) –2020/0434/FUL - Cymeradwywyd

 

 

(2) –2021/3008/FUL - Cymeradwywyd

 

.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio y cyfeirir atynt isod yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2020/0434/FUL - Adeiladu 9 annedd newydd gyda mynediad, garejys, parcio a mannau agored cysylltiedig, addasu The Poplars yn 2 uned breswyl, addasu adeilad stabl yn 1 uned breswyl, dymchwel adeilad porthdy a gwaith cysylltiedig yn The Poplars, Pontlliw, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd Luke Grattarola (asiant) y Pwyllgor.

 

Nid oedd y Cynghorydd D G Sullivan (Aelod Lleol) yn gallu bod yn bresennol, felly darllenodd y Cadeirydd ddatganiad ar ei ran yn amlinellu ei bryderon, yn enwedig mewn perthynas â thraffig a phroblemau o ran mynediad.

 

(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2021/3008/FUL - Newid defnydd o uned fasnachu (Dosbarth A1) i fod yn glinig osteopathi (Dosbarth D1) yn 73 St Teilo Street, Pontarddulais, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.