Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

54.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol:

Y Cynghorydd M H Jones – Cais Cynllunio 2021/2996/FUL (Eitem 4) – Personol a Rhagfarnol a'i adael cyn trafodaeth.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd M H Jones - Cais Cynllunio 2021/2996/FUL (Eitem 4) – Personol a rhagfarnol, a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

55.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim

56.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1 - 2021/1790/FUL -  Cymeradwywyd

2 - 2021/2001/FUL -  Cymeradwywyd

3 - 2021/2770/FUL -  Cymeradwywyd

4 - 2021/2996/FUL - Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod)

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2021/1790/FUL - Adeiladu 3 annedd ar wahân a gwaith mynediad cysylltiedig ar dir y tu ôl i 68-94 Lone Road, a'r tu ôl i 3-21 Waungron Road, Clydach, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Mae 1 llythyr ychwanegol wedi’i gyflwyno’n ail-ddweud pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd o ystyried y tir sy'n disgyn yn sylweddol i lawr i'r afon ger y fynedfa/lledu'r safle.

 

(Eitem 2) Cais Cynllunio 2021/2001/FUL - Newid defnydd o hen feithrinfa gofal dydd i blant (D1) i annedd breswyl (C3) ynghyd ag estyniadau blaen/ochr deulawr, estyniad ochr unllawr, gosod grisiau troellog yn lle’r allanfa dân gefn, creu dau ddrws mynediad newydd gyda grisiau a chynteddau (gweddluniau blaen a'r ochr dde), gosod llwybr dihangfa dân yn lle’r balconi uwchben to gwastad y llawr cyntaf yn y cefn a gwneud newidiadau cysylltiedig i ffenestri a tho’r hen Feithrinfa Ddydd Tree Tops, Comin Clun, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

(Eitem 3) - Cais Cynllunio 2021/2770/FUL - Addasu’r adeilad presennol a’i adnewyddu’n allanol (gan gynnwys llenfuriau gwydrog), a chodi estyniad deulawr ar yr 2il a’r 3ydd llawr, gan greu 4 uned fanwerthu/masnachol ar y llawr gwaelod (Dosbarth A1/A3) gyda 3 llawr o swyddfeydd uwchben (Dosbarth B1) gan gynnwys teras ar y to, 3 phod cyfarfod ar y to ac isadeiledd gwyrdd yn 18-20 Princess Way, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Derbyniwyd 1 llythyr cefnogi. Bydd yr adeilad diolwg sydd wedi'i esgeuluso’n cael ei wella a'i adnewyddu. Bydd yn dod â busnes y mae mawr ei angen i'r ffordd a gobeithio y bydd yn arwain at adfywiad Princess House, sydd wedi'i esgeuluso'n fawr.

 

(Eitem 4) - Cais Cynllunio 2021/2996/FUL – Addasu’r llawr gwaelod, y llawr cyntaf a’r ail lawr (Dosbarth A1/A3) i greu Hwb Cymunedol gan ddarparu llyfrgell, archifau, caffi, gwasanaethau cymunedol, swyddfa staff a lle cydweithio hyblyg (Defnydd Unigryw) gyda addasiadau allanol yn cynnwys llenfuriau gwydrog/sgrîn law, isadeiledd gwyrdd a phaneli solar ar y to yn 277-278 Stryd Rhydychen, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.