Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

32.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

 

Y Cynghorydd P Lloyd – Cofnod Rhif 34 - Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (2021/1331/FUL) – Personol a Chofnod Rhif 38 – Mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol: Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer AoHNE Gŵyr - Personol

Cofnodion:

Y Cynghorydd P Lloyd – Cofnod Rhif 34 - Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (2021/1331/FUL) – Personol a Chofnod Rhif 38 – Mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol: Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer AoHNE Gŵyr - Personol

33.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Dim.

34.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1) – 2021/1331/FUL – Cymeradwywyd

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

1) Cymeradwyo'r cais cynllunio a nodir isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: 

 

#(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2021/1331/FUL – Cae dan do, estyniadau newydd i adeiladau presennol y ganolfan hamdden ynghyd ag ad-drefnu mewnol i ganiatáu ar gyfer darparu campfa a chyfleusterau newid gwell, ystafell gymunedol, derbynfa a chaffi, adnewyddu'r stiwdio ffitrwydd bresennol i alluogi defnydd buddiol gan yr ysgol, adnewyddu'r cyrtiau tenis presennol gyda ffensys a goleuadau cysylltiedig, cysylltu llwybrau cerddwyr rhwng yr ysgol a'r ardaloedd hamdden a chysylltiadau allanol presennol o amgylch y safle, maes parcio newydd gyda mynediad newydd oddi ar Cefn Hengoed Road yng Nghanolfan Hamdden Cefn Hengoed, Caldicot Road, Bôn-y-maen, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddiad a gwybodaeth ychwanegol i gynnwys cyfeiriad at Bolisi'r CDLl RP6 (Halogi Tir).

 

Dileu brawddeg olaf yr adran 'Sefydlogrwydd Tir' (mewn perthynas â nwy daear).

 

Ychwanegu'r adran newydd ganlynol ar ôl yr adran 'Sefydlogrwydd Tir':

 

Halogi Tir

 

Oherwydd gweithgareddau'r gorffennol yn y safle ac o'i gwmpas, mae potensial ar gyfer halogi tir ar y safle. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae Asesiad Geoamgylcheddol a Geodechnegol, a baratowyd gan Earth Science Partnership, yn cyd-fynd â'r cais. Mae'r asesiad yn tynnu sylw at y gofyniad posib am fesurau adfer er mwyn mynd i'r afael â halogi tir hanesyddol gan gynnwys y potensial ar gyfer mesurau diogelu nwy. Darparwyd strategaeth adfer yn seiliedig ar yr ymchwiliadau safle cyfyngedig a gynhaliwyd hyd yma, fodd bynnag, bydd angen rhagor o waith ymchwilio i'r safle er mwyn llywio'r strategaeth arfarnu ac opsiynau adfer terfynol. O ystyried yr wybodaeth a ddarperir yn yr Asesiad Geoamgylcheddol a Geodechnegol, ac o ystyried y gofynion ym Mholisi'r CDLl RP6, argymhellir bod amodau'n cael eu gosod i fynd i'r afael â'r risgiau gweddilliol sy'n deillio o halogi tir ar y safle, pe bai caniatâd cynllunio'n cael ei roi. Mewn perthynas â'r risgiau i ddyfroedd a reolir, nid yw CNC wedi codi unrhyw bryderon mewn perthynas â'r mater hwn. Mae'r Asesiad Geoamgylcheddol a Geodechnegol yn ystyried bod y risgiau i ddyfroedd a reolir o ddatblygiad y safle yn debygol o fod yn isel ac nid yw'n ystyried bod angen unrhyw asesiad pellach. Derbynnir y casgliad hwn. 

 

Ychwanegu'r amodau newydd canlynol:

 

17. Cyn dechrau unrhyw ddatblygiad, caiff yr elfennau canlynol i gynllun sy'n ymdrin â'r risgiau sy'n gysylltiedig â halogi'r safle, gan gynnwys nwy daear, eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig:

1. Cynllun ymchwilio pellach i'r safle, yn seiliedig ar yr argymhellion yn yr Asesiad Geoamgylcheddol a Geodechnegol a baratowyd gan Earth Science Partnership (ESP7263mte.3241).

2. Yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd yn 1. strategaeth arfarnu ac opsiynau adfer sy'n rhoi manylion llawn y mesurau adfer sydd eu hangen a sut y cânt eu cyflawni ynghyd ag amserlen ar gyfer eu gweithredu.   

Bydd y cynllun yn cael ei weithredu'n llym yn unol â'r manylion a'r amserlenni a gymeradwywyd ar gyfer eu gweithredu.

                

Rheswm: Er budd iechyd a diogelwch ac i warchod yr amgylchedd.

 

18. Ar ôl cwblhau'r gwaith adfer, a chyn i'r datblygiad ddod i'r safle drwy hyn, caiff adroddiad dilysu ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig i ddangos bod y gwaith adfer wedi'i wneud i safon foddhaol a bod targedau adfer wedi'u cyflawni.

 

Rheswm: Er budd iechyd a diogelwch.

 

35.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio (Ebr) - 2019-20 a 2020-21. pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol gan Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas er gwybodaeth. Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried bod yr adroddiad yn ddull pwysig ar gyfer monitro perfformiad awdurdodau cynllunio lleol yn erbyn cyfres allweddol o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru, oherwydd pandemig COVID, wedi nodi nad oedd angen paratoi'r adroddiad y llynedd nac eleni, ond bod yr awdurdod wedi llunio'r adroddiad hwn er gwaethaf y ffaith hon.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn offeryn pwysig ar gyfer meincnodi perfformiad awdurdodau lleol ar draws Cymru. Rhoddwyd manylion yr adroddiad drafft ar gyfer y cyfnod Ebrill 2019 i Fawrth 2021 yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

Rhoddwyd manylion y ffigurau perfformiad gwirioneddol, y gwelliannau sylweddol a gyflawnwyd dros y blynyddoedd diwethaf a'r materion i'w datrys yn yr adroddiad, yn ogystal â chyfres o benderfyniadau apêl yn deillio o geisiadau roedd penderfyniadau wedi'u gwneud arnynt, yn groes i argymhellion swyddogion.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau am faterion amrywiol yn ymwneud â'r adroddiad gan gynnwys camau gorfodi ac ôl-groniad, a hysbysu aelodau lleol ynghylch gorfodi yn eu wardiau; nododd y swyddog y byddai'n adrodd yn ôl ymhellach ar faterion gorfodi ac yn ceisio diweddaru a gwella'r wybodaeth a drosglwyddir i aelodau lleol.

 

 

36.

Mabwysiadu Ail Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2020-21 (AMB 2) pdf eicon PDF 692 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r Aelodau am ganfyddiadau'r 2il Adroddiad Monitro Blynyddol CDLl (AMB) ar gyfer y cyfnod 2020-21, a cheisiodd gymeradwyaeth i'w gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd fod yr adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau rhan allweddol o broses y cynllun datblygu statudol, ac yn nodi sut y mae nodau, amcanion a pholisïau Cynllun Datblygu Lleol Abertawe wedi'u rhoi ar waith ar gyfer y cyfnod Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

 

Darparwyd cyflwyniad gweledol manwl yn ymwneud â'r prif feysydd a amlinellwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Penderfynwyd:  

1)    Y bydd canfyddiadau'r 2il AMB, fel a grynhoir yn yr adroddiad hwn ac a nodir yn llawn yn y ddogfen AMB (Atodiad A i'r adroddiad) yn cael eu nodi;

2)    Y cymeradwyir y fersiwn derfynol yr 2il AMB i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru yn unol â gofynion statudol;

3)    Y bydd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol sy'n weddill i'r 2il AMB cyn iddo gael ei gyflwyno a'i gyhoeddi.

 

37.

Mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol: Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl; Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Mewnlenwi a Thir Cefn; a Chanllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Deiliaid Tai. pdf eicon PDF 470 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn hysbysu'r Aelodau o'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Canllawiau Creu Lleoedd drafft ar gyfer gwahanol raddfeydd o ddatblygiad preswyl, a thynnodd sylw at ymatebion swyddogion i'r rhain, a cheisiodd gymeradwyaeth i fabwysiadu'r fersiynau diwygiedig fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA).

 

Amlinellwyd cefndir a chyd-destun yr adroddiad, yn ogystal â’r ymgynghoriad a gynhaliwyd â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, yr ymatebion a gafwyd a'r prif faterion sy'n codi o'r ymarfer.

 

Darparwyd cyflwyniad gweledol manwl yn ymwneud â'r prif feysydd a amlinellwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Y bydd y materion a godwyd yn y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori, ac ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (fel y'u hamlinellir yn Atodiad A, B ac C i'r adroddiad hwn) yn cael eu nodi;

2)    Bod fersiynau terfynol y tri CCA ar gyfer Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl, Datblygiadau Mewnlenwi a Thir Cefn a Datblygiadau Deiliaid Tai (a amlinellir yn Atodiadau D, E ac F i'r adroddiad) yn cael eu cymeradwyo a'u mabwysiadu;

3)    Bod Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r fersiynau terfynol a fabwysiadwyd o'r CCA cyn iddynt gael eu cyhoeddi'n derfynol.

 

38.

Mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol: Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer AoHNE Gwyr. pdf eicon PDF 401 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn hysbysu'r Aelodau o’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Ganllawiau Creu Lleoedd drafft ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Gŵyr, a thynnodd sylw at ymatebion swyddogion i'r rhain, a cheisiodd gymeradwyaeth i fabwysiadu'r fersiwn ddiwygiedig yn ffurfiol fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA).

 

Amlinellwyd cefndir a chyd-destun yr adroddiad, yn ogystal â’r ymgynghoriad a gynhaliwyd â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, yr ymatebion a gafwyd a'r prif faterion sy'n codi o'r ymarfer.

 

Darparwyd cyflwyniad gweledol manwl yn ymwneud â'r prif feysydd a amlinellwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Y bydd y materion a godwyd yn y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori, ac ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (a amlinellir yn Atodiad A a B i'r adroddiad hwn) yn cael eu nodi.

2)    Bod y fersiwn derfynol y CCA (sydd wedi'i atodi yn Atodiad C a D i'r adroddiad) yn cael ei chymeradwyo a'i mabwysiadu;

3)    Y bydd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r fersiwn derfynol a fabwysiadwyd o'r CCA cyn iddynt gael eu cyhoeddi'n derfynol.

 

39.

Mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol: Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd. pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Aelodau o’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiynau drafft o'r ddogfen Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd, a thynnodd sylw at ymatebion swyddogion i'r rhain, a gofynnodd am gymeradwyaeth i fabwysiadu'r fersiwn ddiwygiedig yn ffurfiol fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA).

 

Amlinellwyd cefndir a chyd-destun yr adroddiad, yn ogystal â’r ymgynghoriad a gynhaliwyd â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, yr ymatebion a gafwyd a'r prif faterion sy'n codi o'r ymarfer.

 

Darparwyd cyflwyniad gweledol manwl yn ymwneud â'r prif feysydd a amlinellwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Penderfynwyd:

1)    Y bydd y materion a godwyd yn y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori, ac ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (a amlinellir yn Atodiad A a B i'r adroddiad hwn) yn cael eu nodi;

2)    Y bydd fersiwn derfynol y CCA (a atodir yn Atodiad A i'r adroddiad hwn) yn cael ei chymeradwyo a'i mabwysiadu gan y cyngor;

Y bydd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r fersiwn derfynol o'r CCA cyn iddynt gael eu cyhoeddi'n derfynol