Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

61.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

62.

Cofnodion. pdf eicon PDF 328 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022 fel cofnod cywir.

 

63.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

2020/0434/FUL - Gohiriedig

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Datblygu nad arddangoswyd hysbysiadau safle priodol mewn perthynas ag Eitem 1 (2020/0434/FUL) ac argymhellwyd bod y pwyllgor yn gohirio'r mater er mwyn i'r cyhoedd gael y cyfle i fod yn bresennol a chyflwyno'u barn am y cais.

 

Penderfynwyd gohirio'r cais isod er mwyn caniatáu i'r hysbysiadau safle priodol gael eu harddangos.

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2020/0434/FUL - Adeiladu 9 annedd newydd gyda mynediad, garejys, parcio a mannau agored cysylltiedig, addasu The Poplars yn 2 uned breswyl, addasu adeilad stabl yn 1 uned breswyl, dymchwel adeilad porthdy a gwaith cysylltiedig yn The Poplars, Pontlliw, Abertawe

 

64.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

2021/2822/RES - Cymeradwywyd

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd cais cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2021/2822/RES - cynnig i roi terfyn ar dirlenwi a gweithrediadau eraill, gan alluogi datblygiad preswyl o oddeutu 300 annedd, man cyhoeddus agored, a gwaith priffordd ac ategol arall (Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer diwygiadau i leiniau 139, 144-151, 154 a 156-158. Darparu anheddau ar leiniau 152 a 153 a diwygio’r pen troi o fewn cam 3 gan gynnwys manylion mynediad o fewn ac o amgylch y datblygiad, golwg, cynllun, gmaint a thirlunio yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol 2014/0977 a roddwyd ar apêl ar 11 Ionawr 2018 ac a amrywiwyd gan 2020/2068/S73 a roddwyd ar 1 Medi 2021) yn Cwmrhydyceirw Quarry Co Ltd, Teras Great Western Terrace, Cwmrhydyceirw, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.