Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol: Y Cynghorydd M H Jones – Cais Cynllunio 2021/2996/FUL (Eitem 4) – Personol (Ni adawodd y cyfarfod gan y gohiriwyd yr eitem). Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd M H
Jones – Cais Cynllunio 2021/2996/FUL (Eitem 4) – Personol (Ni adawodd y
cyfarfod gan y gohiriwyd yr eitem). |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Gohiriwyd y pedwar cais tan y cyfarfod ar 18 Ionawr 2022 Cofnodion: Amlinellodd y
Rheolwr Datblygu oherwydd absenoldeb salwch staff, nad oedd y llythyrau hawliau
siarad ar gyfer y pwyllgor wedi'u hanfon at ymgeiswyr, asiantiaid
na thrydydd parti. O ganlyniad,
ceisiodd swyddogion gymeradwyaeth yr Aelodau i ohirio ystyriaeth y ceisiadau am
wythnos er mwyn caniatáu i'r llythyrau hyn gael eu hanfon ac i roi cyfle i
bartïon â diddordeb annerch y Pwyllgor. Penderfynwyd gohirio'r pedwar cais cynllunio y
bwriadwyd eu hystyried yn y cyfarfod tan gyfarfod arbennig i'w gynnal am 2pm
ddydd Mawrth 18 Ionawr 2022. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: gweler uchod Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitemau i gyfarfod Arbennig y Cabinet ar 18 Ionawr 2022. |