Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

43.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

44.

Cofnodion. pdf eicon PDF 325 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo Cofnodion y Pwyllgorau Cynllunio a gynhaliwyd ar 22 Hydref a 2 Tachwedd 2021 a'u llofnodi fel cofnodion cywir.

 

45.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

46.

Cofrestru Tir Comin - Cais i gywiro'r Gofrestr Tiroedd Comin (Cais rhif. 002/19) pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Cymeradwywyd

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Cyfreithiwr Arweiniol ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn nodi bod cais wedi'i dderbyn i ddiwygio'r Gofrestr Tir Comin i gywiro camgymeriad honedig lle mae'r hawliau sy'n gysylltiedig â Fferm Tyle Coch yn ymarferadwy dros uned gofrestr CL74 ond eu bod wedi'u cofnodi fel rhai sy'n ymarferadwy dros CL45.

 

Amlinellwyd manylion cefndir a hanes y mater a manylwyd arnynt yn yr adroddiad gan Swyddogion.

 

Amlinellwyd y rhestr o gyrff yr ymgynghorwyd â hwy ynglŷn â'r cais a manylwyd arnynt yn yr adroddiad, yn ogystal â'r ymatebion a gafwyd.

 

Adroddodd y Cadeirydd nad oedd y Cynghorydd B J Rowlands (Aelod Lleol) yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond ei fod wedi cyflwyno e-bost yn cefnogi'r cais.

 

Penderfynwyd derbyn y cais a bod y diwygiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i'r Gofrestr Tir Comin i gofnodi'r hawliau fel rhai sy'n ymarferadwy dros uned gofrestr CL74.

 

47.

Y Diweddaraf am TAN 15.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r pwyllgor am benderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i ohirio TAN 15 tan fis Mehefin 2023.

 

Amlinellodd y byddai unrhyw geisiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwnnw’n cael eu trin o dan weithdrefnau TAN presennol. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhoi i'r pwyllgor pan gânt eu derbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau, byddai copïau o'r mapiau llifogydd TAN newydd arfaethedig a'u goblygiadau ar y safleoedd datblygu lleol a'r safleoedd strategol yn arbennig yn cael eu dosbarthu i aelodau'r pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

48.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1) 2021/0787/FUL -  Cymeradwywyd

 

 

(2) –2021/2490/RES - Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2021/0787/FUL - Dymchwel uned fanwerthu bresennol ac adeiladu archfarchnad, lle parcio ceir, tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Poundstretcher, Gorseinon Road,  Penlle'r-gaer , Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Wendy Fitzgerald (Aelod Lleol) o blaid y cais.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106.

 

(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2021/2490/RES - Cynnig i roi'r gorau i weithrediadau  tirlenwi a gweithrediadau eraill a alluogir gan ddatblygiad preswyl â thua 300 o anheddau, man agored cyhoeddus, priffordd gysylltiedig a gwaith ategol (Manylion tirlunio’n unol â chaniatâd cynllunio amlinellol 2014/0977 a roddwyd ar apêl ar 11 Ionawr 2018) ar gyfer camau 3 (73 annedd) a 4 (36 annedd) ym Mharc Ceirw, Great Western Terrace, Cwmrhydyceirw, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

49.

Tir yn New Cut Road/Morfa Road, Abertawe - 2007/2826. pdf eicon PDF 379 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn gofyn am ystyriaeth i amrywio Rhwymedigaeth Gynllunio Adran 106 ar gyfer y "Cyfraniad Ardal Chwarae i Blant" i'w defnyddio tuag at ddarparu neu wella cyfleusterau presennol oddi ar y safle mewn mannau eraill yn yr ardal leol.

 

Amlinellwyd cefndir a chyd-destun yr adroddiad, yn ogystal â'r hanes cynllunio manwl ar y safle, yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r polisïau cynllunio perthnasol sy'n berthnasol i'r mater hwn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Bev Hopkins (Aelod Lleol) o blaid y cynigion.

 

Penderfynwyd diwygio Rhwymedigaeth Gynllunio Adran 106 drwy Weithred Amrywio i ddatgan y dylid defnyddio'r cyfraniad tuag at ddarparu neu wella cyfleusterau oddi ar y safle presennol mewn mannau eraill yn yr ardal leol yn unol â Pholisi SI 6 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2010-2025.