Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

32.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

33.

Cofnodion. pdf eicon PDF 329 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2019 fel cofnod cywir.

 

34.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Eitem 6 yr Agenda - Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

 

(Eitem 1) - Cais cynllunio 2019/1905/FUL - Newid defnydd y siop gwerthwr tai ar y llawr gwaelod (Dosbarth A2) i fod yn gaffi/bar gwin (Dosbarth A3) yn 448 Heol Gŵyr, Cilâ, Abertawe - Tynnwyd y cais yn ôl gan yr ymgeisydd.

 

 

35.

Dargyfeiriadau a Chreu Llwybrau Troed a Llwybrau Ceffyl Cymuned Pennard. pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

35          Dargyfeiriadau a Chreu Llwybrau Troed a Llwybrau Ceffyl - Cymuned Pennard

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio addasu llwybrau cyfreithlon y llwybrau ar draws cwrs golff Pennard Burrows i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r llwybrau y mae'r cyhoedd wedi'u defnyddio ers o leiaf 25 mlynedd.

 

Amlinellwyd y manylion a'r wybodaeth gefndir ynghylch y cynigion yn fanwl yn yr adroddiad.

 

Derbyniwyd un gwrthwynebiad i'r cynigion a manylwyd ar hwn yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Cynghorydd Lynda James (aelod lleol) yn gallu dod i'r cyfarfod ond ei bod wedi dweud wrtho ei bod yn cefnogi'r cynigion.

 

Penderfynwyd gweithredu'r gorchmynion i greu neu ddiddymu llwybr cyhoeddus er mwyn symud llwybrau cyfreithlon y llwybrau i'r llwybrau a ddefnyddir, ac os ceir gwrthwynebiadau, caiff y gorchmynion a'r gwrthwynebiadau eu cyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio.

 

36.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

                                      

Penderfynwyd  

 

(1)          cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad:

 

#(Eitem 2) - Cais cynllunio 2019/1307/S73 - Datblygu 61 o anheddau gyda mannau agored cysylltiedig, tirlunio, trefniadau mynediad, gwaith isadeiledd a pheirianneg cysylltiedig (amrywiad ar amodau 1 (cynlluniau), 14 (cael gwared ar goed a gwrychoedd), 15 (tirlunio meddal), 16 (gwaith tirlunio), 18 (rheoli gwrychoedd), 19 (arwynebau allanol) o gynnig cynllunio 2019/0450/S73, a gymeradwywyd ar 9 Mai 2019 i gael gwared ar wrych a rhoi planhigion addas yn ei le) ar dir oddi ar Lôn Summerland, Newton, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr arall gan Gyngor Cymuned y Mwmbwls.

 

Derbyniwyd hefyd gynllun diwygiedig.

 

Gwnaed newidiadau i'r argymhelliad fel a ganlyn:

Dileu '399.01 Rev E - Cynllun Plannu a Rheoli Gwrychoedd, a dderbyniwyd ar 8 Hydref 2019' o amodau 1, 14, 15, 16, 18 a 19 a nodi'r canlynol: '399.01 REV E - Cynllun Plannu a Rheoli Gwrychoedd, a dderbyniwyd ar 4 Tachwedd 2019'

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Geraint John (asiant).

 

37.

2019/1906/106 - Tir i'r de o Heol Glebe - Addasu Cytundeb A106. pdf eicon PDF 484 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio awdurdod i ddiwygio gofynion arfaethedig cytundeb Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) mewn perthynas â'r caniatâd cynllunio amlinellol (2013/0617) a gymeradwywyd ar gyfer y datblygiad preswyl ar y safle.

 

Amlinellwyd y materion cefndir a'r hanes ynghylch y cais a gymeradwywyd ym mis Hydref 2017 a manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Mae'r ymgeisydd wedi gofyn i gynnwys Cymal Meddiant gan y Morgeisai sy'n ymwneud â'r unedau rhentu cymdeithasol y cyfeirir atynt yng nghytundeb Adran 106, oherwydd y byddai hyn yn rhoi opsiynau gwell i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) i ariannu datblygiadau. Amlinellwyd y rhesymau dros gyflwyno'r cais.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Cynghorydd Robert Smith (aelod lleol) yn gallu dod i'r cyfarfod ond ei fod wedi dweud wrtho ei fod yn cefnogi'r cynigion.

 

Penderfynwyd cymeradwyo newid y cytundeb Adran 106 (rhwymedigaeth gynllunio) i ddarparu Cymal Meddiant gan y Morgeisai er mwyn darparu'r tai fforddiadwy yn y datblygiad arfaethedig.

 

38.

Cymeradwyo Atodiad Adolygiad Ardal Gadwraeth y Mwmbwls ar Gyfer Ymgynghori â'r Cyhoedd a Rhanddeiliaid. pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o atodiad i'r Adolygiad Drafft o Ardal Gadwraeth y Mwmbwls a cheisiodd ganiatâd i gynnal ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid.

 

Amlinellwyd manylion yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus cychwynnol a gynhaliwyd yn 2018. Daeth materion ynghylch ehangu'r ardal gadwraeth i gynnwys yr ardaloedd ychwanegol a amlinellir ar y map yn yr adroddiad ac ychwanegu eiddo ychwanegol ar lan y môr, fel a gynigiwyd yn yr adroddiad i'r amlwg yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw.

 

Penderfynwyd

 

1)    cymeradwyo'r ddogfen atodol i Adolygiad Ardal Gadwraeth y Mwmbwls ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a rhanddeiliaid;

 

2)    adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio am atodlen o ymatebion i'r sylwadau a dderbyniwyd er mwyn iddo ei ystyried a rhoi cymeradwyaeth derfynol iddo fel Canllawiau Cynllunio Atodol.