8. |
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac
Adfywio'r Ddinas.
Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)
Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn amodol ar yr
amodau yn yr adroddiad a/neu'r hyn a nodir isod (#):
#(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2019/0980/S73 - Cais cynllunio amlinellol (gyda'r holl
faterion wedi'u cadw'n ôl) i'r gwaith adnewyddu, addasu a/neu ddymchwel yr holl
adeiladau/adeileddau presennol ar y safle (ac eithrio Eglwys y Santes Fair ac Eglwys Dewi Sant) ac ailddatblygu'r safle gyda
mynediad/cynllun dangosol a pharamedrau graddfa ar yr ochr ogleddol o uchafswm
o 1 i 7 llawr ac uchafswm arwynebedd llawr newydd o 84,050 metr sgwâr at
ddefnydd manwerthu/masnachol/swyddfa (Dosbarthiadau A1/A2/A3/B1), preswyl
(Dosbarth C3), sefydliad dibreswyl (Dosbarth D1) a hamdden (Dosbarth D2), maes
parcio aml-lawr ac ailddatblygu safle deheuol hyd uchafswm arwynebedd llawr o
40,700 metr sgwâr yn cynnwys arena newydd (Dosbarth D2), gwesty/adeilad preswyl
hyd at 13 llawr (Dosbarth C1/C3), bwyd a diod (Dosbarth A3), maes parcio oddi
tano, canolfan ynni bosibl. Ar draws y ddau safle, darparu mannau agored cyhoeddus/tir cyhoeddus
a thirweddu cysylltiedig newydd, mynediad newydd i gerddwyr a cherbydau a
threfniadau gwasanaethu (gan gynnwys pont gyswllt i gerddwyr ar draws Heol
Ystumllwynarth), darparu safleoedd bysiau newydd ar Heol Ystumllwynarth,
mynediad newydd i gerddwyr drwy bwâu presennol ar hyd Cei Victoria, adleoli
cerflun Syr H Hussey Vivian,
gwaith cloddio a phlannu - Cais Is-adran 73 i gynnwys mân ddiwygiadau
perthnasol i eiriad Amod 1 (cynlluniau ac adrannau paramedrau cymeradwy, a
dogfennau ategol) o ganiatâd cynllunio 2017/0648/OUT a roddwyd ar 13 Mehefin
2017 yn Hen Ganolfan Dewi Sant A Thir Arall i'r Gogledd ac i'r De O'r Heol
Ystumllwynarth, Abertawe
Anerchodd Spencer
Winter (Rivington Land Developers) y pwyllgor a siaradodd o blaid y cais.
Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol.
Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn:
Adroddwyd ar yr ymatebion
ymgynghori hwyr canlynol i'r pwyllgor:
CADW - Ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd
gyda'r cais cynllunio hwn yn ofalus, nid oes gennym unrhyw wrthwynebiadau i effaith
y datblygiad arfaethedig ar yr henebion cofrestredig na pharciau a gerddi
hanesyddol cofrestredig.
Asesiad
Rhoddwyd caniatâd cynllunio
amlinellol (2017/0648/OUT) ar gyfer adnewyddu, addasu a/neu ddymchwel yr holl
adeiladau/adeileddau presennol ar y safle (ac eithrio Eglwys y Santes Fair ac Eglwys Dewi Sant) ac ailddatblygu Canolfan Dewi
Sant yn 2017. Rhoddir y cyngor hwn mewn ymateb i gais is-adran 73 i gynnwys
mân ddiwygiadau perthnasol i eiriad Amod 1 (cynlluniau ac adrannau paramedr
cymeradwy, a dogfennau ategol) wedi'i atodi i'r caniatâd.
Mewn ymateb i'r cais
cynllunio gwreiddiol, gwnaethom benderfynu y byddai'r datblygiad arfaethedig
yn cael effaith ar osod y gofeb gofrestredig GM012 Castell Abertawe yn unig
ac y byddai hyn yn fach iawn ac nid yn sylweddol. Ni fydd y newidiadau
arfaethedig sy'n destun y cais hwn yn newid yr effaith hon.
|
Dŵr Cymru Welsh Water - O ran ein hymateb
diweddaraf i'r ymgynghoriad (Cyf: PLA0036308), mewn perthynas â chymeradwyo
cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer Cam 1 (2018/1648/RES), cyfeiriwn at ein
sylwadau helaeth hyd yn hyn a chroesawn y cyfle i gyflwyno sylwadau pellach
ar yr ymarfer ymgynghori diweddaraf hwn ar gyfer adfywio Abertawe Ganolog.
Rydym yn cydnabod bod y cais
diweddaraf hwn yn ceisio amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio amlinellol
2017/0648/OUT, er mwyn galluogi diwygiadau i baramedrau ailddatblygiad
Abertawe Ganolog ynghyd ag addasiadau i'r dyluniad, mynediad a mannau
cyhoeddus, fel y disgrifir yn y llythyr eglurhaol cysylltiedig dyddiedig 25
Ebrill wedi'i baratoi gan Savills. Fel rhan o'r
cais hwn, rydym hefyd yn cydnabod bod y 'Datganiad Draenio ’(9 Mai 2019) a
gyflwynwyd yn ddiweddar yn cynghori nad oes unrhyw newidiadau i'r strategaeth
ddraenio arfaethedig ac yn rhagweld effaith lai ar y garthffos 1,650mm yn
Rhes Albert. Mewn egwyddor, felly, nid ydym yn
cynnig unrhyw wrthwynebiad i amrywio amod 1 ar ganiatâd 2017/0648/OUT; fodd
bynnag, gofynnwn yn garedig i amodau 17 - 22 gael eu cadw ar unrhyw ganiatâd
newydd a roddir ar gyfer y datblygiad, yn enwedig amod 22 sy'n cyfeirio at y
garthffos a enwyd uchod yn Rhes Albert:
22) Cyn dechrau'r gwaith o
ddatblygu o fewn Parth Datblygu DZ3, rhaid cyflwyno cynllun yn ysgrifenedig
i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, i ddiogelu'r
garthffos gyfunol gyhoeddus 1,650mm diamedr islaw Rhes Albert. Rhaid i'r cynllun gynnwys mesurau lliniaru os
bydd angen mynediad i'r garthffos yn y dyfodol ar gyfer materion cynnal a
chadw neu weithredol. Rhaid adeiladu'r datblygiad yn unol â'r cynllun
cymeradwy.
|
Rheswm: Er mwyn diogelu
cadernid y garthffos gyfunol gyhoeddus 1,650mm diamedr ac i ganiatáu mynediad
ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol os oes angen.
Sylwadau'r Awdurdod
Priffyrdd - Cyflwynwyd Datganiad
Trafnidiaeth ochr yn ochr â chais is-adran 73, mae hwn wedi cael ei adolygu
yng nghyd-destun yr Asesiad Trafnidiaeth a gyflwynwyd gyda'r cais cynllunio a
gymeradwywyd nawr.
Mae'r prif newidiadau sy'n
cael eu ceisio i ganiatâd gwreiddiol yr Arena'n ymwneud â chael gwared ar y gilfach
coetsis hir ar hyd y ffordd gerbydau tua'r gorllewin o Heol Ystumllwynarth ac
adolygu mynediad i'r arena a mynediad i ardal wasanaeth y gwesty. Bydd y
cynllun diwygiedig yn creu mynedfa ddiwygiedig i iard wasanaeth, gan ddarparu
mynediad i ddau gilfach casglu a gollwng coetsis a'r ardal wasanaeth yn yr
arena. Bydd y ddau le i goetsis yn cael eu rhannu rhwng yr arena arfaethedig,
y gwesty ac adeilad presennol LC2. Bydd yr ardal hefyd yn darparu safle
gollwng i dacsis ar gyfer yr arena/y gwesty.
Mae'r Datganiad Trafnidiaeth
yn nodi, yn ychwanegol at y cilfachau casglu a gollwng coetsis sydd wedi'u
mewnoli, bod y cynllun diwygiedig hefyd yn cynnig darparu dwy gilfach
ychwanegol ar hyd y llwybr bws gyferbyn â maes parcio Stryd Paxton. Bydd dau
gilfach coetsis hefyd wedi'u hadeiladu ar Stryd Wellington fel rhan o'r
gwaith gwella cysylltiedig.
Felly, yn gyffredinol, ni
fyddai'r cynnig diwygiedig yn arwain at golli cilfachau coetsis o'i gymharu
â'r cynllun a gymeradwywyd, er ei fod yn fwy ar wahân na'r hyn a gynigiwyd yn flaenorol ac o fewn pellter cerdded byr.
Cadarnheir o fewn y Datganiad Trafnidiaeth y bydd yn ofynnol i goetsis aros
yn y cyfleusterau Parcio a Theithio neu ym Mae Bracelet,
fel y cytunwyd yn flaenorol.
|
Bydd mynedfa yr iard
wasanaeth yn cadw'r drefn o adael cerbydau i mewn ac allan ar y chwith ar hyd
y ffordd gerbydau tua'r gorllewin o Heol Ystumllwynarth. Bydd hyn yn
lleihau'r effaith ar draffig gan ddefnyddio'r bylchau yn y traffig a grëwyd
gan y goleuadau traffig. Mae'r dadansoddiad o symudiad a llwybr a gyflwynwyd
yn dangos bod symudiadau troi wedi'u cynllunio i ganiatáu i gerbydau mawr
symud, er ei bod yn ymddangos nad oes llawer o gyfleoedd am gamgymeriadau.
Mae'r allanfa arfaethedig i Heol Ystumllwynarth yn ei gwneud yn ofynnol i gerbydau
HGV a PSV i groesi i mewn i lôn ganol y ffordd. Mae hyn yn codi pryder a bydd
angen mynd i'r afael ag ef o fewn y camau dylunio manwl er mwyn iddynt gael
eu derbyn ac er mwyn cael mynediad yn ddiogel.
Mae'r diwygiadau hefyd yn
cynnwys diwygiadau arfaethedig i'r maes parcio aml-lawr i'r gogledd sy'n
cynnwys y canlynol:
diwygio cynllun/arwynebedd y
maes parcio aml-lawr yn arwain at fwy o ddefnydd o faes parcio GIA o hyd at
17,600 metr sgwâr i hyd at 20,000 metr sgwâr;
diwygio lleoliad
mynedfa/allanfa maes parcio ar Rhes Albert;
gwella lled ffyrdd y
cerbydau ar Rhes Albert;
cilfach wasanaeth (Rhes Albert);
gwell llwybrau i gerddwyr ar
hyd ddwy ochr Rhes Albert;
ardal i gerddwyr a cherbydau
a rennir sy'n caniatáu mynediad uniongyrchol i gerbydau gwasanaethau,
trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau brys o ben dwyreiniol Stryd Wellington i
Rhes Albert
Bydd yr arwynebedd llawr
diwygiedig ar gyfer cynllun y maes parcio yn arwain at gynnydd yn y
ddarpariaeth barcio o 588 o leoedd i 606 o leoedd. Mae'r Datganiad
Trafnidiaeth yn cynghori y bydd newid cynllun mewnol y maes parcio yn cynnwys
37 (6%) o leoedd i bobl anabl, 15 lle gyda phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau
trydan a 24 o leoedd mwy eu maint.
|
|
Asesodd y Datganiad
Trafnidiaeth ddarpariaeth parcio arfaethedig 588 o leoedd yn y maes parcio
aml-lawr i'r gogledd, sydd 18 yn llai na'r hyn a gynigir
yn awr. Mae nifer o fesurau eisoes wedi'u cytuno i'w gweithredu i helpu i
reoli'r ddarpariaeth parcio yn yr ardal hon o'r ddinas. Ystyrir na fydd y
cynnydd bach hwn yn y ddarpariaeth parcio yn newid casgliadau'r Datganiad
Trafnidiaeth yn sylweddol. Felly mae'r cynnydd arfaethedig mewn parcio yn
dderbyniol.
Bydd lleoliad mynediad
diwygiedig y maes parcio aml-lawr yn arwain at y fynedfa a'r allanfa yn cael eu
symud ymhellach i'r gogledd-orllewin ar hyd Rhes Albert.
Bwriedir ehangu lled y lôn
ar Rhes Albert er mwyn darparu dwy lôn ddeheuol ar
wahân ar gyfer traffig sy'n troi i'r chwith ac i'r dde o'r maes parcio
aml-lawr i gyffordd Rhes Albert a Heol
Ystumllwynarth. Mae'r Datganiad Trafnidiaeth yn cynnwys asesiadau o symudiad
a llwybr sy'n dangos bod y cynllun arfaethedig yn ddigonol. Mae adleoli'r
fynedfa a'r allanfa yn creu mwy o le ar gyfer ciwio ar Heol Albert wrth y gyffordd â goleuadau traffig â Heol
Ystumllwynarth.
Mae'r bwriad i ddarparu
cilfach gwasanaethau ychwanegol ar Rhes Albert
gyferbyn â'r maes parcio aml-lawr arfaethedig, at ddefnydd cerbydau
gwasanaeth sy'n teithio i'r de, yn dderbyniol. Mae'r asesiadau symudiad a
llwybr yn dangos y gellir cael mynediad digonol i hon. Dangosir symudiadau
cerbydau sbwriel gan ddefnyddio'r lle a rennir ac ardal y ramp i droi, er y
gallai'r math hwn o gerbyd gael mynediad i'r gilfan
wasanaeth os oes angen.
Mae'r diwygiadau arfaethedig
ar hyd Rhes Albert yn cynnwys gwelliannau i
gyfleusterau cerddwyr ar hyd dwy ochr y ffordd gerbydau. Yn ogystal â hyn,
cynigir lle a rennir a fydd yn cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer newid
gweledol yn yr amgylchedd a bydd yn rhan o reolaeth cerbydau preifat.
|
|
Bydd yr arwyneb a rennir yn
caniatáu mynediad i gerbydau brys drwy'r adran hon, yn caniatáu i gerbydau
dosbarthu, coetsis a bysus deithio i'r de o Heol Wellington ond yn gwahardd
mynediad i gerbydau preifat. Bydd y lle hwn a rennir sydd ag ychydig o draffig
yn unig, yn annog symudiadau cerddwyr ac yn ffurfio croesfan naturiol.
Ystyriaeth flaenorol ar
gyfer y newidiadau arfaethedig i'r cynllun, oedd sicrhau y gallai cerbydau
dosbarthu masnachol barhau i gael eu cyflawni, yn y lleoliad hwn y pryder
mwyaf oedd ardal gwasanaeth Tesco. Mae'r asesiadau symudiad a llwybr yn
cadarnhau y byddai'r newidiadau arfaethedig yn caniatáu i Tesco ddosbarthu
nwyddau i Heol Ystumllwynarth a Rhes Albert ac oddi
yno. Dangosir y cerbyd dosbarthu hefyd yn cael mynediad i Rhes Albert trwy Stryd Wellington, yr arwyneb a rennir. Fodd
bynnag, ymddengys nad oes asesiad sy'n dangos mynedfa i iard wasanaeth Tesco
o'r troad hwn i gyfeiriad y de ac allanfa yn ôl i Res Albert.
Rhaid dangos hyn a rhaid ei gyflwyno i'w archwilio.
Casgliadau:
Mae'r Awdurdod Priffyrdd yn
argymell na chodir unrhyw wrthwynebiad i gais Is-adran 73, yn amodol ar
fireinio'r cynllun yn ystod y cam dylunio manwl, i gynnwys ardal droi well ar
gyfer cerbydau HGV a PSV ar Heol Ystumllwynarth o'r ardal wasanaeth a sicrhau
y gellir gweithredu o iard wasanaeth Tesco o Heol Wellington.
Bydd yr argymhelliad uchod
yn gofyn bod yr amodau blaenorol sy'n gysylltiedig â'n hymateb i'r
ymgynghoriad cynllunio yn cael eu cadw.
Cymeradwywyd y cais yn unol â'r argymhelliad yn amodol
ar y diwygiadau canlynol i amodau:
Bydd y datblygiad
arfaethedig yn cael ei weithredu'n sylweddol yn unol â Chynlluniau ac
Adrannau Paramedr cymeradwy, Dogfen Cymharu Is-Adran Pensaernïol 73 ac
Strategaeth Adendwm Mannau Cyhoeddus sy'n nodi'r weledigaeth, amcanion,
egwyddorion dylunio trefol, strategaeth ddatblygu, prif gynllun, hygyrchedd a
symudiad, graddfa, cwantwm datblygiad, cysyniad adeiladu, isadeiledd,
cynaliadwyedd amgylcheddol ac egwyddorion tirlunio strwythurol y datblygiad.
Rheswm: Sicrhau bod y safle
wedi'i ddatblygu'n gynhwysfawr i safon uchel o ddyluniad trefol cynaliadwy yn
unol â chyngor a chanllawiau Polisi Cynllunio Lleol a Chenedlaethol.
Bydd Cam 1 y datblygiad sy'n
ymwneud â'r safle deheuol yn cael ei weithredu yn unol â'r Asesiad Risg Gosod
Pyst a gymeradwywyd dan ryddhad amodol cyf: 2019/0583/DOC.
Ni chaniateir gwaith gosod
pyst nac unrhyw ddyluniadau sylfaen eraill sy'n defnyddio dulliau treiddiol
ar gamau eraill y datblygiad, ac eithrio gyda chaniatâd penodol yr Awdurdod
Cynllunio Lleol, y gellir ei roi ar gyfer y rhannau hynny o'r safle lle
dangoswyd nad oes risg annerbyniol o ganlyniad i ddŵr daear.
Rheswm: Mae yna botensial
cynyddol i lygru dyfroedd a reolir gan ddulliau amhriodol o osod pyst.
|
#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2019/0536/S73 - Datblygiad preswyl gydag
adeiladu mynedfa newydd i gerbydau oddi ar Nantong Way (amlinellol) (2006/1902) fel yr amrywiwyd gan ganiatâd
cynllunio Is-adran 73 2014/1189 a 2018/1204/S73. Amrywiad
ar amod 7 caniatâd cynllunio 2018/1204/S73 a roddwyd ar 3 Hydref 2018 i
ddisodli'r cyfeiriad at y ffordd fynediad dros dro a gymeradwywyd dan
2018/1790/FUL gyda'r cyfeiriad at fynediad dros dro ar hyd gyfliniad
y ffordd fynediad barhaol a gymeradwywyd dan 2017/0026/FUL ar dir yn Upper
Bank, Ffordd Nantong, Pentrechwyth,
Abertawe
Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol.
|