Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

49.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd D W W Thomas – Personol – Cofnod Rhif 53 – Eitem 2 – 2018/2368/FUL – mae ei chwaer yn breswyliwr yn Campion Gardens.

 

 

50.

Cofnodion. pdf eicon PDF 116 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.

 

51.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

52.

Cadarnhad o Dir GCC653 yn: Clôs Coed Collings a Ffordd yr Olchfa. pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio adroddiad a oedd yn gofyn i aelodau ystyried y GCC 653 dros dro i'w gadarnhau'n orchymyn llawn ar dir yng Nghlos Coed Collings a Ffordd yr Olchfa, Sgeti.

 

Amlinellwyd a manylwyd ar gefndir gwneud y gorchymyn dros dro a'r sylwadau a dderbyniwyd ynghylch y cynigion yn yr adroddiad.

 

Amlinellwyd yr amserlenni mewn perthynas â'r gorchymyn dros dro i'r pwyllgor.

 

Siaradodd Paul Jones yn erbyn y cynigion i roi'r gorchymyn mewn perthynas â choeden yn ei ardd gefn.

 

Penderfynwyd cadarnhau'r GCC 653 ar dir yng Nghlos Coed Collins a Ffordd yr Olchfa (2018), gan newid lleoliad C5 yn Atodlen Un i "o flaen 70 Ffordd yr Olchfa”, gan hepgor coed C9 a C10.

 

53.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd: -

 

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod (#):

 

#(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2017/2709/FUL - Codi 41 o anheddau (100% tai fforddiadwy) - yn cynnwys 31 o dai, 2 bâr o fyngalos pâr ac 8 fflat gyda thirlunio, mynediad, parcio a gwaith cysylltiedig. (Cynlluniau diwygiedig a gwybodaeth ychwanegol) ar dir oddi ar Ffordd George Manning, Tre-gŵyr, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Jon Hurley (asiant), Alex Williams (preswyliwr lleol), a Shelley Adams (gwrthwynebydd).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd S M Jones (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Mae ail baragraff tudalen 65 yn dweud ar gam "Rhagwelir y bydd hyn yn disgyn i 54 o leoedd erbyn 2014."

Dylai hyn ddarllen "Rhagwelir y bydd hyn yn disgyn i 54 o leoedd erbyn 2024."

 

Adroddwyd am un llythyr gwrthwynebu hwyr.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gwblhau Adran 106 y Rhwymedigaeth Gynllunio.

 

 

#(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2018/2368/FUL - dau fyngalo byw â chymorth yng Nghartref Nyrsio a Phreswyl Campion Gardens, Heol Mayals, Comin Clun, Mayals, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Rhaid ychwanegu amod ychwanegol at yr argymhelliad fel a ganlyn:

Bydd y ddau fyngalo a gymeradwyir trwy hyn yn cael eu defnyddio fel byngalos byw â chymorth ar y cyd â chyfadeilad Nyrsio a Phreswyl Campion Gardens.

 

Rheswm: Diffinio cwmpas y caniatâd cynllunio hwn yn glir a sicrhau na ddefnyddir y byngalos fel tai marchnad anghyfyngedig yn y lleoliad hwn mewn cefn gwlad agored.

 

 

(Eitem 3) – Caniatâd Cynllunio 2018/2705/FUL - Newid defnydd o fflat 2 ystafell wely a HMO 5 ystafell wely (Dosbarth C3/C4) i HMO 8 ystafell wely yn rhif 9 Cilgant Brynmill, Brynmill, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Matthew Gray (asiant).

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.21pm