Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd R D Lewis - Personol - Cofnod rhif 30 - Eitem 3 - Cais cynllunio 2018/1743/S73 - rwy'n adnabod y perchennog.

 

Y Cynghorydd P Lloyd - Personol - Cofnod rhif 30 - Eitem 4 - Cais cynllunio 2018/1204/S73 - Rwy'n adnabod yr ymgeisydd.

 

 

28.

Cofnodion: pdf eicon PDF 128 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 Medi 2018 fel cofnod cywir.

 

29.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

30.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

 

Penderfynwyd  -

 

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod(#):

 

#(Eitem 1) Cais cynllunio 2018/1648/RES - Cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl  (mynediad, golwg, tirlunio, cynllun a graddfa) ar gyfer Cam 1 Abertawe Ganolog, gan gynnwys: Ardaloedd Datblygu 3, 4a a 4b a rhan o Ardaloedd Datblygu 4c a 5 caniatâd cynllunio amlinellol 2017/0648/OUT, yn unol ag Amod 3, sy'n cynnwys manylion: ehangu uchder yr arena (Dosbarthiadau Defnydd D2/A3) i 30m a'r maes parcio cysylltiol ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf, a'r ardaloedd gwasanaethu; Parc cyhoeddus â chiosg (Dosbarthiadau Defnydd A1/A3) ar lefel y podiwm; gosod pont newydd dros Heol Ystumllwynarth; bloc defnydd cymysg 28.5m sy'n cynnwys maes parcio aml-lawr, arwynebedd llawr masnachol newydd (Dosbarth Defnydd A3/B1/D1) a fflatiau preswyl (Dosbarthiadau Defnydd C3) i'r gogledd o Heol Ystumllwynarth; a gwelliannau cysylltiedig i fannau cyhoeddus llawr gwaelod; cymeradwyo'r manylion yn unol ag amod 6 (strategaeth tirweddu), amod 8 (lefelau), amod 9 (gorffeniadau allanol), amod 11 (lliniaru gwynt), amod 21 (draenio dŵr arwyneb) ac amod 36 (mesurau gwella ecolegol) a Cham 1 Abertawe Ganolog (hen Ganolfan Dewi Sant  a thir i'r gogledd a'r de o Heol Ystumllwynarth) sy'n cynnwys: Maes parcio'r LC a'r mannau cyhoeddus cyfagos, hen wal gynnal GWR, Heol Ystumllwynarth, Rhes Albert a rhan o faes parcio awyr agored y Santes Fair

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Cyfarchodd Glenn Morley (pensaer) y pwyllgor.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Gwall argraffu ar dudalen 66 - dylai'r trydydd paragraff ddarllen: Nid oes unrhyw Orchmynion Cadw Coed.

 

Amodau 2, 3, 5 a 6 i'w diwygio fel a ganlyn:

Amod 2:

Er y manylion a nodwyd yn y cais, rhaid cyflwyno samplau o'r holl orffeniadau allanol ar gyfer pob cam o ddatblygiad materion a gadwyd yn ôl Cam 1 a mannau cyhoeddus ynghyd â'u hunion batrwm a'u dosbarthiad ar draws y datblygiad, i'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ysgrifenedig a chael cymeradwyaeth ganddo cyn datblygu gwaith uwchstrwythurol.

 Bydd paneli sampl cyfansawdd yn cael eu codi ar y safle a bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau

 yn unol â'r cynllun cymeradwy.

Rheswm: At ddibenion amwynder gweledol.

 

Amod 3:

Cyn dechrau unrhyw waith uwchstrwythurol ar gyfer pob cam o ddatblygiad materion a gadwyd yn ôl Cam 1, mae'n rhaid cyflwyno graddfa addas o fanylion graddfa fawr elfennau pensaernïol ar gyfer pob adeilad yn ysgrifenedig a chael cymeradwyaeth gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 Bydd y gwaith datblygu'n cael ei gynnal yn unol â'r manylion cytunedig.

Rheswm: At ddibenion amwynder gweledol.

Amod 5:

Er manylion y cais, mae'n rhaid cyflwyno manylion gorchudd digidol LED yr arena

 er mwyn cadarnhau lleoliad terfynol y goleuadau a'u gweithrediad yn ysgrifenedig a chael cymeradwyaeth cyn dechrau'r gwaith uwchstrwythurol. Mae'n rhaid cwblhau'r datblygiad yn unol â'r cynllun cymeradwy.

Rheswm: At ddibenion amwynder gweledol.

 

Amod 6:

Er y manylion a ddangosir yn y cynllun tirlunio, ni fydd unrhyw waith yn dechrau ar weithredu'r cam tirlunio tan fod union fanylion y cynllun o ran y tirlunio meddal a chaled/mannau cyhoeddus/celf gyhoeddus/cyfeirbwyntio/goleuo a dehongliad treftadaeth y safle'n cael eu cyflwyno'n ysgrifenedig i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn cael cymeradwyaeth ganddo. Mae'n rhaid cynnal y cynllun tirlunio fel rhan annatod o'r datblygiad.

 Bydd coed a phrysglwyni sy'n cael eu plannu'n unol â'r amod hwn sy'n cael eu symud, yn marw neu'n mynd yn ddifrifol afiach o fewn dwy flynedd i'w plannu'n cael eu disodli gan goed neu brysglwyni o faint a rhywogaeth debyg i'r rhai y bu'n ofynnol i'w plannu'n wreiddiol.

Rheswm: Er mwyn sicrhau bod y safle wedi'i dirlunio'n foddhaol mewn perthynas â'i leoliad a natur y datblygiad arfaethedig, ac yn unol ag Adran 197 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

# (Eitem 3) Cais cynllunio 2018/1743/S73 - Dymchwel adeiladau presennol ar y safle ac adeiladu llety pwrpasol i fyfyrwyr rhwng 6, 8 ac 17 llawr (780 o ystafelloedd gwely sy'n cynnwys 170 o fflatiau stiwdio a 610 o unedau preswyl) gyda chyfleusterau/gwasanaethau cymunedol ategol, 3 uned fasnachol llawr gwaelod (Dosbarthiadau A1 (Manwerthu), A2 (Ariannol/Proffesiynol), A3 (Bwyd a Diod), B1 (Busnes), D1 (Sefydliad Dibreswyl), a D2 (Ymgynnull/Hamdden), maes parcio/ardal wasanaethu, gwaith peirianneg cysylltiedig, draeniad, isadeiledd a thirlunio - cais Adran 73 i amrywio Amod 2 (Cynlluniau), Amod 5 (Gorffeniadau Allanol), Amod 6 (Manylion), Amod 10 (Gwaith Uwchstrwythurol), 13 (Tirlunio), 14 (Archaeoleg), 20 (Draenio) caniatâd cynllunio 2016/0556 a roddwyd ar 5 Mai 2017 ym maes parcio Stryd Mariner, 2-3 Stryd Mariner, 59-60 a 63-64 Stryd Fawr, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd Michael Lampard (pensaer) y pwyllgor.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd R Francis-Davies (Aelod y Cabinet

dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth) a siaradodd i gefnogi'r cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am ohebiaeth hwyr gan Gomisiwn Dylunio Cymru.

 

# (Eitem 4) Cais cynllunio 2018/1204/S73 - Datblygiad preswyl a chreu mynediad newydd i gerbydau oddi ar Ffordd Nantong (amlinellol) heb gydymffurfio ag amod 15 (mynediad newydd oddi ar Ffordd Nantong) Adran 73 cais cynllunio 2014/1889 a gymeradwywyd ar 22 Hydref 2015 (i ymestyn y trothwy i greu'r mynediad ar gyfer Ffordd Nantong cyn defnyddio'r 111fed anhedd-dy) ar dir yn Upper Bank, Ffordd Nantong, Pentrechwyth, Abertawe

 

Cymeradwywyd y cais yn unol â'r argymhelliad, yn amodol ar yr ymgeisydd yn cael ei hysbysu, er y penderfyniad ar y cais hwn, fod angen cyflwyno cais am Weithred Amrywio o ran y cytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau y cydymffurfir â gofynion cy ytundeb gwreiddiol o dan Adran 106.

 

# (Eitem 5) Cais cynllunio 2018/1771/FUL - Newid defnydd o anhedd-dy (Dosbarthiad C3) i fod yn HMO ar gyfer 4 person (Dosbarthiad C4) ac estyniad cefn unllawr yn 35 Stryd Balaclava, St Thomas, Abertawe

 

Anerchwyd y cyfarfod gan Dave Gill (asiant).

 

Darllenodd y Cadeirydd e-bost gan y Cynghorydd Joe Hale (Aelod Lleol) am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, gan amlinellu ei wrthwynebiadau i'r cais.

 

2) Cyfeirio'r cais cynllunio a grybwyllir isod i Lywodraeth Cymru gydag argymhelliad i'w gymeradwyo am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad (#):

 

# (Eitem 2) Cais cynllunio 2018/1823/LBC - Gwaith i wal gynnal restredig gradd II GWR gan gynnwys gwaredu arglawdd presennol ac adeiladu wal gynnal adeileddol newydd a gwneud gwaith i'r twneli mewn cydweithrediad â datblygiad Cam 1 Abertawe Ganolog o fewn cwrtil y safle (cais am ganiatâd adeilad rhestredig) ar gyfer hen wal gynnal GWR ar hyd ffin ddeheuol Cam 1 Abertawe Ganolog

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Cyfarchodd Glenn Morley (pensaer) y pwyllgor.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr.

 

31.

Abergelli Power Limited (APL) - Gorsaf Ber Nwy (Cyfeirnod: 2018/1289/DCO) pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd, yn unol â pharagraff 100B(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ei farn y dylid ystyried adroddiad Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas am Abergelli Power Limited (APL) - Gorsaf Bŵer Nwy yn y cyfarfod hwn fel mater o frys.

 

Rheswm dros y cynnig brys

 

Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn datgan bod gan y Pwyllgor Cynllunio awdurdod dirprwyedig i gyflwyno Adroddiad Effaith Leol, cytuno ar Ddatganiad o Dir Cyffredin a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar gyfer cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO). Rhoddwyd gwybod i'r cyngor am amserlen y gorchymyn caniatâd datblygu'n ddiweddar ar gyfer cyflwyno'r dogfennau uchod y gofynnwyd amdanynt yn flaenorol erbyn 31 Hydref 2018, sef cyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Tachwedd. Gan nad yw'r cyflwyniadau wedi'u cwblhau, ni fyddai gan y swyddogion yr awdurdod dirprwyedig perthnasol er mwyn bodloni'r amserlenni hyn. Mae angen gwneud penderfyniad ar frys er mwyn galluogi'r cyngor i ymateb yn ffurfiol o fewn yr amserlenni perthnasol os nad yw'r Awdurdod Archwilio'n ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r dogfennau hyn.

 

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn darparu'r diweddaraf am gais APL am Orchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer gorsaf bŵer nwy yn Felindre.

 

Amlinellwyd y manylion cefndirol a'r cynigion ar gyfer y cynllun yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd  

1) Rhoi pwerau dirprwyedig i swyddogion i gyflwyno Adroddiad Effaith Leol a Datganiad o Dir Cyffredin.

 

2) Peidio â darparu mwy o sylwadau ysgrifenedig ar y cynnig hwn.