Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, L S Gibbard, M H Jones, M B Lewis, P Lloyd, P B Smith, A H Stevens, D W W Thomas a T M White – Personol – Cofnod Rhif 25 – Eitem 3 – Cais Cynllunio 2018/1429/FUL – mae'r ymgeisydd yn gyd-gynghorydd.

 

 

23.

Cofnodion: pdf eicon PDF 119 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

Cywir.

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Awst 2018 fel cofnod cywir

 

24.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

25.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd: -

 

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod(#):

 

# (Eitem 1) Cais Cynllunio 2018/1515/ADV - 3 arwydd uchel wedi'u goleuo'n fewnol, un atalfa 4m o uchder wedi'i oleuo'n fewnol  - cantilifer ar y dde, 2 arwydd gwerthwr allweddi wedi'u goleuo'n fewnol, un arwydd bwydlen ddwbl wedi'i oleuo'n fewnol, un arwydd ffrâm baner ac amrywiaeth o arwyddion cyfeiriad ar dir yn Fferm Heol Ddu, Gellifedw, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Estelle Bubear (gwrthwynebydd).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr M Sykes a P M Matthews (aelodau lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr.

 

(Eitem 2) Cais Cynllunio 2018/0930/RES - Materion a Gadwyd yn Ôl - manylion mynediad - yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol 2013/0617 a roddwyd ar 30 Hydref 2017 ar gyfer datblygiad preswyl sy'n cynnwys hyd at 92 o anheddau â mynediad, draeniad  a man agored cyhoeddus cysylltiedig, ar dir i'r de o Heol Glebe, Casllwchwr, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Bethan Jones (ar ran Capel Moriah) a Cai Parry (asiant).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd  R V Smith (Aelod Lleol) a siaradodd o blaid y sylwadau gan Gapel Moriah ynghylch yr angen i ddarparu mannau parcio ar gyfer ymwelwyr â'r capel.

 

Cymeradwywyd y cais. Cytunwyd y byddai Swyddogion Priffyrdd yn cysylltu â'r Aelod Lleol - pan fydd arian A106 sy'n ymwneud â'r caniatâd cynllunio amlinellol yn cael ei dderbyn -  er mwyn trafod yr opsiynau amrywiol sydd ar gael ar gyfer gwario arian A106 i'w darparu ar gyfer gwella diogelwch priffyrdd lleol.

 

(Eitem 3) Cais Cynllunio 2018/1429/FUL - Cadw a chwblhau tŷ allan ar wahân yn 4 Gerddi Badminton, Ravenhill, Abertawe

 

(Eitem 4) Cais Cynllunio 2018/1467/FUL - Newid o ddefnydd  preswyl (Dosbarth C3) i HMO ystafell wely i 5 person (Dosbarth C4) gyda dormer newydd yn y cefn a chwalu corn simnai yn 45 Stryd Westbury, Abertawe

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorwyr N J Davies, I E Mann a P N May (aelodau lleol), a siaradodd yn erbyn y cais.

 

Diwygiwyd Amod 3 i nodi fel a ganlyn:

Bydd yr ardal storio biniau a'r sied feiciau fel y'u hamlinellir yn y lluniau ADEILADHMO/04 ystlyslun chwith arfaethedig, ADEILADHMO//06 ystlyslun dde arfaethedig, ADEILADHMO/14 cynllun safle arfaethedig a dderbyniwyd ar 16 August 2018, ar gael at ddefnydd y preswylwyr cyn y defnydd buddiol o'r datblygiad ac felly cânt eu cadw ac ar ôl hynny, ni chânt eu defnyddio at unrhyw ddiben arall.

 

(Eitem 5) Cais Cynllunio 2018/1512/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 6 ystafell wely i 6 pherson (Dosbarth C4) yn 123 Teras Rhyddings, Brynmill, Abertawe

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Elizabeth Borland (gwrthwynebydd).

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorwyr N J Davies, I E Mann a P N May (aelodau lleol), a siaradodd yn erbyn y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr.

 

(Eitem 6) Cais Cynllunio 2018/1562/FUL - Newid o ddefnydd preswyl i HMO 7 ystafell wely i 7 person yn 47 Cilgant Gwydr, Uplands, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Matthew Gray (asiant).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr I E Mann a P N May (aelodau lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr.

 

(Eitem 8) Cais Cynllunio 2018/1723/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO i 5 person (Dosbarth C4) yn St Stephens Court, Ardal Forol, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: adroddwyd am 13 llythyr gwrthwynebiad a anfonwyd yn hwyr.

 

2) Gwrthod y cais cynllunio a grybwyllir isod am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad:

 

(Eitem 7) Cais Cynllunio 2018/1665/FUL - Newid defnydd o 2 fflat hunangynhwysol (Dosbarth C3) i HMO 9 ystafell wely (Sui Generis) i 9 person gyda newidiadau ffenestriad cysylltiedig yn 45 Stryd yr Ysgol, Port Tennant, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Julian Hoskins (gwrthwynebydd) a Robert Hughes (asiant).

 

26.

Apelio Penderfyniad - 199 St Helens Avenue, Brynmill, Abertawe, SA1 4NE. pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad "er gwybodaeth" am ganlyniad yr apêl cynllunio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar 6 Mawrth 2018 i wrthod cais am newid o ddefnydd preswyl i HMO 6 ystafell wely.

 

Amlinellwyd manylion cefndir y cais a phenderfyniad yr Arolygydd Cynllunio yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.