Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd M H
Jones – Cofnod Rhif 14 - Cais Cynllunio 2018/1047/S73 (Eitem 6) - Personol a Rhagfarnol
gan fod rhai o'r gwrthwynebwyr/cefnogwyr yn ffrindiau personol agos - gwnaeth
ddatganiad dan baragraff 14(2) y côd, a gadawodd cyn y drafodaeth. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi Cofnodion y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2018 fel cofnod cywir, yn amodol ar ddileu
rhan o Gofnod Rhif 8 (tudalen 2 o'r cofnodion) sy'n ymwneud ag Eitem 2 Cais
Cynllunio 2018/0659/FUL. Mae hyn yn ddyblygiad ac fe'i cofnodir yn gywir eisoes
ar dudalen 3. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod(#): (Eitem 1) Cais
Cynllunio 2018/0802/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO
(Dosbarth C4) i 3 pherson yn 78 Stryd yr Ysgol, Port Tennant,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. (Eitem 2) Cais
Cynllunio 2018/0730/FUL - Newid defnydd o eiddo preswyl 5 ystafell wely
(Dosbarth C3) i HMO 5 ystafell wely i 5 person (Dosbarth C4) ac estyniad i'r to
yn y cefn gyda balconi Juliet yn 63 Stryd Westbury,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd I E Mann (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. (Eitem 3) Cais
Cynllunio 2018/0951/S73 - Adeiladu llety pwrpasol i fyfyrwyr rhwng 7 a 9
llawr (500 o welyau) gyda chyfleusterau/gwasanaethau cymunedol ategol, 1 uned
llawr gwaelod Dosbarth A3, lle parcio i geir a beiciau, ardal wasanaethu, storfa
sbwriel, gwaith peirianneg, draenio ac isadeiledd cysylltiedig a mannau
cyhoeddus wedi'u tirlunio - Cais Adran 73 i amrywio Amod 2 (Cynlluniau -
diwygio arwynebedd/amlen yr adeilad) caniatâd cynllunio 2016/1511 a roddwyd
ar 29/06/2017 yn Llain A1, Heol y Brenin, Dociau Abertawe, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Cymeradwywyd y
cais yn amodol ar Ymgymeriad Unochrog/Weithred Amrywio Adran 106. (Eitem 5)
Cais Cynllunio 2018/1054/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 4 ystafell
wely i hyd at 6 pherson (Dosbarth C4) yn 20 Parêd Phillips, Brynmill,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd I E Mann (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. (Eitem 5)
Cais Cynllunio 2018/1047/S73 - Amrywiad ar Amod 2 Caniatâd Cynllunio 2014/1038
a roddwyd ar 15 Medi 2014 i ganiatáu i'r fangre gael
ei defnyddio tan 00:30 (nos Wener a nos Sadwrn) a hanner nos (nos Sul i nos
Iau) ac er mwyn caniatáu i gwsmeriaid brynu bwyd i'w fwyta oddi ar y fangre hyd at yr un amser. (Disgrifiad Diwygiedig) yn 3 The
Precinct, Cilâ, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Gwnaed datganiad
gan y Cynghorydd M H Jones dan baragraff 14(2) y côd
a gadawodd cyn y drafodaeth. Anerchwyd y
pwyllgor gan Emma Kamio (ymgeisydd). Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd J W Jones (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am
lythyr gwrthwynebu hwyr. Dylai trydedd a
phedwaredd linell yr ail baragraff ar dudalen 77 ddarllen "...mae gan
Rif 438 Heol Gŵyr fflat ar y llawr cyntaf..." 2) Gwrthod
y cais cynllunio isod am y rhesymau a amlinellir isod: (Eitem 4)
Cais Cynllunio 2018/0954/FUL - Newid o ddefnydd preswyl 4 ystafell wely
(Dosbarth C3) i HMO 5 ystafell wely i 5 person (Dosbarth C4) yn 30 Heol St Albans, Brynmill, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd I E Mann (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. Gwrthodwyd y cais
yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol: Bydd y cynnig, ar y
cyd â'r nifer a'r ganran uchel o Dai Amlfeddiannaeth (HMO) sydd yn Heol St Albans ar hyn o
bryd (27 eiddo o 46, sef 59%) yn arwain at gynnydd yn nifer yr HMO a
chrynhoad niweidiol ohonynt yn y stryd a'r ardal ehangach (28 o 46 eiddo, sef
61%). Bydd yr effaith gronnus, o ran nifer y deiliaid yn yr heol a natur y
defnydd ar gyfer hyd at 6 o ddeiliaid unigol fel defnydd D4, yn arwain at
niweidio cymeriad yr ardal a chydlyniant
cymdeithasol, gyda mwy o breswylwyr dros dro a llai o aelwydydd a theuluoedd
sefydledig tymor hir. Byddai'r fath effaith, yn y tymor hir, yn arwain at
gymuned ehangach nad yw'n yn gytbwys nac yn hunangynhaliol. O ganlyniad, mae'r
cynnig yn groes i faen prawf (ii) Polisi HC5 Cynllun
Datblygu Unedol Dinas a Sir Abertawe (2008) a nodau'r polisi cenedlaethol a
bennwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 9, Ionawr 2016), sef creu cymunedau
cymysg, cynaliadwy a chynhwysol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Arweinydd y Tîm Dylunio Trefol a Chadwraeth a oedd yn rhoi'r
diweddaraf i'r pwyllgor am y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar
y Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) arfaethedig mewn perthynas ag eiddo a ffiniau dethol
yn Ardal Gadwraeth Ffynone ac Uplands
ac i gadarnhau'r Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) terfynol. Amlinellwyd y
cefndir i'r broses adolygu, yr ardaloedd/lleoliadau dan sylw, y broses
ymgynghori a gynhaliwyd a'r ymatebion a dderbyniwyd yn yr adroddiad. Penderfynwyd ar y canlynol 1)
Nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbyniwyd fel y'u
hamlinellwyd yn atodiad A (i'r adroddiad). 2)
Cadarnhau'r Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) terfynol fel y'i
hamlinellir yn atodiad B (i'r adroddiad. 3)
Dirprwyo Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas i
ysgrifennu i bob eiddo yr effeithir arno, gan gadarnhau'r Cyfarwyddyd Erthygl
4(2) terfynol. |