Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 Y Cynghorydd  P Lloyd – Eitem 5 (1) - 2023/1680/FUL - Personol

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd P Lloyd – Eitem 5 (1) - 2023/1680/FUL - Personol

 

 

21.

Cofnodion. pdf eicon PDF 309 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Medi 2023 fel cofnod cywir.

 

22.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

23.

Cais i ychwanegu Llwybrau Troed at Fap Diffiniol, Cwm Level Road, Glandwr. pdf eicon PDF 8 MB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad adroddiad a oedd yn gofyn i'r Aelodau ystyried a ddylid derbyn neu wrthod cais a wnaed i'r awdurdod hwn i wneud Gorchymyn Addasu i ychwanegu llwybr troed yn mynd o Cwm Level Road i Dinas Street, a'i gofnodi felly ar Fap Diffiniol Hawliau Tramwy Cyhoeddus y cyngor.

 

Amlinellwyd a manylwyd ar fanylion cefndir y cais a'r dystiolaeth a gyflwynwyd ynghyd â'r ymchwiliadau a gynhaliwyd gan Swyddogion.

 

Amlinellodd, er mwyn i'r cyngor gyflwyno'r llwybrau troed i'r cyhoedd, fod yn rhai i'r sawl a ymgeisiodd am y gorchymyn addasu dynnu ei gais yn ôl.  Mae'r ymgeisydd wedi cytuno i wneud hyn ar yr amod bod y cyngor yn cyflwyno'r llwybrau troed i'r cyhoedd.

 

Penderfynwyd bod y cyngor yn cyflwyno'r ddau lwybr troed ar ei dir fel llwybrau traed cyhoeddus, fel a ddangosir ar y map a amlinellir yn 2.1 i'r adroddiad

 

24.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     2023/1680/FUL – Cymeradwywyd

 

2.     2023/0744/FUL - Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.    

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod. 

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd diweddariadau i'r adroddiad y cyfeirir ato isod i

Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i gyhoeddi ar wefan y cyngor cyn y cyfarfod.

 

(Eitem 1) Cais Cynllunio 2023/1680FUL - Newid defnydd o annedd breswyl (Dosbarth C3) i HMO 4 ystafell wely (Dosbarth C4) 65 Windmill Terrace, St Thomas, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Roedd Aelodau'r pwyllgor wedi ymweld â safle'r cais ar fore'r cyfarfod.

 

Siaradodd y Cynghorydd Hayley Gwilliam (Aelod Lleol) yn erbyn y cais.

 

 

#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2023/0744/FUL - Newid defnydd o 3 fflat i HMO i hyd at 9 person (Dosbarth Defnydd Unigryw) yn 42 Bryn Road, Brynmill, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Siaradodd Derek a Nicola Bruce (gwrthwynebwyr) yn erbyn y cais. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Peter May (Aelod Lleol) yn erbyn y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Dylai'r amod ychwanegol canlynol (Amod 5) gael ei gynnwys yn yr argymhelliad.

 

Dylai'r defnydd o'r eiddo fel HMO gael ei gyfyngu i uchafswm o 9 person ar unrhyw adeg yn byw yn yr eiddo, yn unol â'r cynllun mewnol a ddangosir ar Gynllun Rhif 1.02 H, sef cynllun llawr diwygiedig a dderbyniwyd ar 22 Awst 2023. 

          

Rheswm: Er mwyn cyfyngu ar y defnydd o'r eiddo i'r hyn y gwnaed cais amdano, er mwyn diogelu amwynderau'r deiliaid cyfagos ac amwynderau deiliaid yr HMO yn y dyfodol a darparu ar gyfer lefelau addas o le mewnol ar gyfer y deiliaid ac yn unol â Pholisïau PS2 a H9 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (2010-2025).

 

Mae'r ffin llinell goch ar y Cynllun Lleoliad Safle yn y pecyn agenda yn anghywir ac nid yw'n cynnwys y garej sydd y tu ôl i 44, Bryn Road.

 

Derbyniwyd Cynllun Lleoliad Safle diwygiedig ar 28 Medi 2023, Cynllun Rhif. 0.01B sy'n dangos bod 3 lle parcio i raddfa wedi'u cynnwys, y tu ôl i'r safle a nodir yn y cais.

 

Derbyniwyd 1 llythyr sylwadau hwyr yn codi'r pryderon canlynol:

  • Cael gwared ar arwydd stryd;
  • Mae rhywun eisoes yn byw yn yr eiddo;
  • Ymholiad ynghylch pa mor gywir yw ffigur prawf crynhoad o HMO y cyngor

 

 

 

25.

Cais Cynllunio: 2015/0453 - Penderfyniad Apel. pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn manylu ar ganlyniad apêl yn erbyn penderfyniad y pwyllgor ar 4 Gorffennaf 2023 i wrthod cais cynllunio ar dir yn ac oddi ar The Croft, Castle Street, Abertawe.

 

Amlinellwyd a manylwyd ar resymau'r arolygwyr dros wrthod yr apêl yn yr adroddiad.