Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau

13.

Cofnodion. pdf eicon PDF 297 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir.

 

14.

Canllawiau Cynllunio Atodol Newydd: Addasu adeiladau gwledig traddodiadol (Ymgynghoriad Drafft). pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol adroddiad ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a roddodd grynodeb i'r Pwyllgor o ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Drafft newydd, a cheisiwyd cymeradwyaeth gan Aelodau i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y CCA drafft.

 

I gefnogi'r adroddiad a ddosbarthwyd, darparwyd cyflwyniad PowerPoint i'r pwyllgor a oedd yn amlinellu'r meysydd canlynol ac yn manylu arnynt:

·       Cefndir y ddogfen ddrafft newydd gan gynnwys y ffaith bod angen diweddaru'r CCA presennol, disgwylir arweiniad newydd ar addasu adeiladau gwledig, mae angen adlewyrchu penderfyniadau apêl, fframwaith cynllunio cenedlaethol newydd, aliniad gwell â pholisïau creu lleoedd ar gyfer Penrhyn Gŵyr a fwy o eglurder ar gyfer ymgeiswyr a'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau;

·       Problemau allweddol o fewn y CCA - arweiniad ar yr hyn sy'n draddodiadol a'r hyn y mae angen ei ddiogelu, arweiniad gwell ar ddefnydd busnes a ganiateir, meini prawf ar gyfer addasu a chysylltiadau gwell â'r CDU a CCA eraill;

·       Addasiadau ac adeiladau newydd - y gwahaniaethau rhyngddynt, y gwaith y mae angen ei wneud i'w addasu ac nid i'w dymchwel/ailadeiladu, cyfyngiadau ar ail-lunio o'n CDU a'n polisi cenedlaethol, arweiniad CCA ar drothwy rhesymol ar gyfer adeiladau a ailadeiladwyd;

·       Cynhelir ymgynghoriad a gwaith ymgysylltu yn ystod y cyfnod o chwe wythnos cyn 6 Hydref, ffurflen a thudalennau gwe ar-lein, ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol amrywiol, archwilio sylwadau a diwygio CCA drafft a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor i'r fersiwn terfynol gael ei fabwysiadu ar ddiwedd 2023.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau amrywiol i'r swyddog am yr adroddiad a'r cyflwyniad ac ymatebodd yn unol â hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Addasu Adeiladau Gwledig Traddodiadol drafft, fel yr atodir yn Atodiad A i'r adroddiad, at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus a chynnwys rhanddeiliaid.