Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

5.

Cofnodion. pdf eicon PDF 311 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Mai, 17 Mai ac 18 Mai 2023 fel cofnod cywir yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd P Lloyd at restr yr aelodau a oedd yn bresennol yn ystod cyfarfod 18 Mai 2023.

 

6.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

7.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    2022/1907/FUL - Cymeradwywyd

2.    2023/0357/OUT - Cymeradwywyd

 

           

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod.

 

(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2023/0357/OUT - Adeiladu unedau preswyl a mynediad, parcio, tirlunio a gwaith isadeiledd cysylltiedig (amlinellol) yn Safle B3, Riverside Wharf, Glannau Abertawe, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Phil Baxter (asiant) a siaradodd o blaid y cynllun.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106.

 

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2022/1907/FUL - Fferm ffotofoltäig solar (PV) 3 megawat sydd wedi'i gosod ar y ddaear gan gynnwys cyfarpar ategol, isadeiledd cysylltiedig a rhwydwaith gwifren preifat ar dir yn Safle Tirlenwi Tir John, St Thomas, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.