Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

31.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

32.

Cofnodion: pdf eicon PDF 44 KB

To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

NODWYD na chafwyd cworwm yn y cyfarfod blaenorol.

33.

Ariannu ein Tai Newydd: Problemau a Chyfleoedd.

Cofnodion:

Dywedodd Mike Hawes, Cyfarwyddwr Adnoddau, fod nifer o gymhlethdodau ynghylch ariannu'r rhaglen adeiladu tai newydd.  Mae deddfwriaeth yn Lloegr yn wahanol i'r hyn a geir yng Nghymru felly nid oedd modd i'r 11 awdurdod lleol yng Nghymru addasu a defnyddio unrhyw gyngor cyfreithiol a roddwyd i awdurdodau lleol yn Lloegr (roedd gweddill yr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi trosglwyddo'u stoc tai'n flaenorol).

 

Dywedodd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â chydweithwyr yng Nghyngor Sir Gâr i gael dealltwriaeth o'u cynnydd.  Er y cysylltwyd â'r 10 awdurdod lleol arall yng Nghymru i ganfod eu cynnydd, nid oeddent wedi ymateb o hyd.

 

Fel cefndir, dywedodd fod awdurdodau lleol yn cael eu cyfeirio gan statud ac mae'n rhaid bod ganddynt felly gefnogaeth statudol er mwyn gwneud unrhyw benderfyniadau.  Roedd 'Hyrwyddo Lles' fel a fanylir yn Neddf Awdurdodau Lleol 2000 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol weithredu er budd pennaf trethdalwyr lleol.  Roedd Hyrwyddo Lles hefyd wedi'i gynnwys wrth hybu tai fforddiadwy a chymdeithasol. Roedd dwy ddeddf arall yn berthnasol yn y cyd-destun hwn sef  Deddf Lleoliaeth 2011, a oedd yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer lles trethdalwyr (er nad oedd hyn yn gymwys yng Nghymru, byddai deddfwriaeth wahanol i Gymru'n darparu darpariaeth debyg) a Deddf Awdurdodau Lleol 2013 a oedd yn rhoi'r gallu i awdurdodau lleol ymgymryd â gweithgareddau masnachu (er drwy gwmni 'hyd braich').  Dywedwyd bod cyngor yn cael ei geisio ar hyn o bryd ynghylch a oedd y term 'masnachu' yn cynnwys y gallu i adeiladu tai a cheisio eglurhad ar faterion cyfreithiol cymhleth yn gyffredinol. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y Cyfarwyddwr Adnoddau:

 

a)    Ni fyddai'r awdurdod yn gallu benthyg mwy na £6m at ddibenion adeiladu tai newydd ar yr adeg benodol hon:

b)    Yn dilyn rhoi Safon Ansawdd Tai Cymru ar waith yn 2020, gellid defnyddio'r gwarged o'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) a fyddai'n flaenorol wedi cael ei wario ar atgyweiriadau a chynnal a chadw i dalu dyledion/cyfrannu'n uniongyrchol at adeiladu tai newydd;

c)     Roedd Hyrwyddo Lles (Deddf Awdurdodau Lleol 2000) hefyd yn cynnwys hyrwyddo tai fforddiadwy a chymdeithasol, nid eu darparu.  Prin oedd y cyngor i awgrymu y byddai'r Ddeddf yn caniatáu adeiladu tai ar yr adeg benodol hon;

d)    Roedd Deddf Tai 1985 yn rhoi pwerau arbennig i awdurdodau lleol godi, caffael, helaethu, atgyweirio, newid neu werthu darn o dir at ddibenion tai cymdeithasol.  Roedd yr holl weithgareddau hyn i'w cynnal o fewn y Cyfrif Refeniw Tai neilltuedig.  Nid oedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu i'r awdurdod ddefnyddio cymhorthdal o gyfrifon eraill ac roedd yn anghyfreithlon i'r CRT drosglwyddo arian i gyfrifon gwahanol;

e)    Gall fod yn ddichonadwy i'r awdurdod adeiladu dan CRT â chynllun perchnogaeth rannol.  Yn ogystal, pan adeiladwyd yr adeilad, byddai'n dderbyniad cyfalaf ac efallai byddai elfen o'r derbyniad yn daladwy i Lywodraeth Cymru.  Roedd heriau ar waith ar hyn o bryd o ran y farn gyfreithiol honno;

f)      Mae'n bosib ei fod yn gyfreithiol gwerthu islaw gwerth y farchnad er mwyn darparu tai fforddiadwy i, er enghraifft, brynwyr am y tro cyntaf.  Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r awdurdod gael caniatâd Swyddfa Archwilio Cymru;

g)    Byddai angen i'r awdurdod fod yn glir ynghylch y rhesymeg dros ddefnyddio'r Gronfa Gyffredinol i ariannu perchnogaeth gymysg ac nid yw awdurdodau lleol yng Nghymru'n credu bod ganddynt y pŵer i adeiladu.  Un opsiwn oedd archwilio'r defnydd o gwmnïau tai a fyddai'n ddefnydd 'hyd braich'.  Er hyn, roedd yr ymagwedd hon yn creu mathau gwahanol o faterion rheoli i'r graddau nad oedd modd i'r cyngor reoli'r cwmni, ac nid y cyngor fyddai'n gyfrifol am unrhyw renti/gyfrifoldebau. Roedd hyn yn ei dro yn golygu nad oedd tai'n cael eu dosbarthu'n 'dai cyngor';

h)    Er bod gan yr awdurdod y pŵer i dalu rhent rhywun dan bwerau digartrefedd, mae'n ymddangos nad oes ganddynt y pŵer dan y Gronfa Gyffredinol i adeiladu tai;

i)       Mae rhai materion o ran y potensial i werthu/trosglwyddo tir yr awdurdod lleol (gan gynnwys y Gronfa Gyffredinol) i gwmni o'r fath, yn seiliedig ar werth (byddai angen cymeradwyaeth ar gyfer unrhyw beth dan werth y farchnad, gan gynnwys ystyried treth stamp, treth tir, treth gorfforaeth a gwerthu).

j)      Ar gyfer unrhyw gyfraniad cyfalaf mewn unrhyw ffordd, byddai angen datrys materion ynghylch blaenoriaethu a gallu'r cyngor i reoli dyled; 

k)     Nid yw'r materion hyn yn gysylltiedig â chost adeiladu'n unig, roedd materion hefyd o ran gwerth y tir.  Pe bai'r tir yn dir prydles, byddai'n cael ei ddosbarthu'n ased cyfalaf, er ei fod yn ased gohiriedig;

l)       Gallai tir y Gronfa Gyffredinol gael ei gyfnewid o bosib â thir y CRT; Byddai hynny'n seiliedig ar werth cyfwerth neu addasu tâl;

m)  Mae'n bosib y gallai adeiladu o fewn y CRT at ddibenion ailwerthu wrthdaro ag atal hawl tenantiaid i brynu.

n)    Mae pwerau cyfarwyddeb cyfalafu posib ar gael gan Lywodraeth Cymru, ond nid oes rhai ar gael ar hyn o bryd. Beth bynnag, mae'r pwerau hyn yn rhoi awdurdod i fenthyca ac ni fyddent yn cynnwys taliadau ariannu dyled;

o)    Mae angen archwilio cytundebau Adran 106 sy'n ymwneud â'r ddarpariaeth tai cymdeithasol fel ffynhonnell ariannu posib.

 

Diolchodd y cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Adnoddau am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Y dylai'r Cyfarwyddwr Adnoddau roi'r diweddaraf yn y dyfodol o ran defnyddio'r Gronfa Gyffredinol i ddarparu tai fforddiadwy;

2.     Y dylai'r Cyfarwyddwr Adnoddau ddarparu'r diweddaraf yn y dyfodol o ran cytundebau Adran 106 a chyfraniadau datblygwyr i dai cyngor yn Abertawe. 

3.     Y dylid NODI'R cyflwyniad.

 

34.

Cynllun Gwaith 2016 - 2017. pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2016/2017. 

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Y bydd y pwyllgor yn derbyn cyflwyniad gan Bartneriaethau Lleol (sefydliad a noddir gan Lywodraeth Cymru) yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 9 Chwefror, 2017; a

2.     Galw cyfarfod arbennig ynghyd i ystyried Pecyn Croeso Passiv Haus i denantiaid.