Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

27.

Cofnodion: pdf eicon PDF 69 KB

Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2016 fel cofnod cywir.

28.

Y diweddaraf am Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Ynni. pdf eicon PDF 47 KB

Terri Shaw (Rheolwr Ynni) ac Andrew Shaw (Arweinydd Grŵp).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Ynni a dosbarthodd y fersiwn ddiweddaraf. Cyfeiriodd at y ddogfen a ddiweddarwyd a ddarparwyd gan Swyddogion ac a gynhwyswyd yn y pecyn agenda.

 

Awgrymodd fod Grŵp Tasg a Gorffen yn cael ei sefydlu i archwilio'r gwaith y gofynnwyd i'r Pwyllgor ei wneud ar argymhelliad y Cyfarwyddwr Lleoedd sy'n ymwneud â Strategaeth Ynni'r Cyngor.

 

Nododd yr aelodau nad oedd cefnogaeth gan Swyddog dynodedig wedi'i glustnodi i gefnogi Grwpiau Tasg a Gorffen Pwyllgor Cynghori'r Cabinet.

 

Nododd yr aelodau y byddai'n rhaid adrodd yn ôl am argymhellion y Grwpiau Tasg a Gorffen i'r Pwyllgor ar yr adeg briodol.  Byddai defnyddio'r Grwpiau Tasg a Gorffen yn sicrhau y gallai'r aelodau roi sylw llawn i'r pynciau hyn, fel maent yn ei haeddu.  Byddai hefyd yn ei wneud hi'n haws i gyfethol arbenigedd yn anffurfiol a sicrhau bod y rheiny sy'n cyfranogi wedi dewis rhoi rhywfaint o flaenoriaeth i'r gwaith hwn.

 

Gellid is-rannu'r Grwpiau Tasg a Gorffen i fwy nag un Grŵp os bernir y byddai hyn yn ddefnyddiol ar ryw adeg yn y dyfodol.

 

Dywedodd ei fod yn credu bod Aelod y Cabinet a'r Swyddogion allweddol yn hapus gyda'r ymagwedd hon.

 

Nododd yr aelodau y gallai'r pynciau y gofynnwyd i'r Pwyllgor eu harchwilio gael eu croesgyfeirio i "Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Ynni".  Rhoddodd y Cadeirydd yr argymhellion canlynol:

 

1.         SY 1.7:  er bod y gyllideb y cyfeiriwyd ati yn hollol ymroddedig ar gyfer y flwyddyn 16/17, gallai fod ar gael i'w defnyddio i gyflawni rhai o'r syniadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor.  Amcangyfrifwyd mai'r swm presennol yw oddeutu £60 mil, sy'n fach ond nid yn ddibwys.

 

2.         SY 2.1: Pa rôl allai ynni solar, gwynt a hydrogen a mathau o ynni adnewyddadwy eraill chwarae yn y strategaeth gyffredinol?  (Gweler SY 3.5a hefyd)

 

3.         SY 2.1a: Byddai'r Pwyllgor yn archwilio ac yn trafod "storio" fel elfen allweddol o'r strategaeth gyffredinol.

 

4.         SY 2.2: Gwahoddwyd y Pwyllgor i fynd i'r afael â'r cwestiwn o fiomas a'r potensial o osod yr ynni hwn yn eiddo'r cyngor.

 

5.         SY 3.2: Mae hwn yn ymwneud â rhinwedd cynlluniau gwresogi ardal; a bydd swyddogion yn esbonio un prosiect arbennig.

 

6.         SY 3.5a: Roedd hyn yn her enfawr i'r Pwyllgor a gellir dadlau mai hon oedd yr elfen bwysicaf yn ei waith. I weld "Gallu Cynhyrchu'r Morglawdd", gweler "Morlyn Llanw".  Byddai angen arbenigrwydd allanol i gynorthwyo'r Pwyllgor.

 

7.         SY 4.1: Roedd yn anodd gweld sut gallai'r elfennau amrywiol yr oedd y Pwyllgor yn ymchwilio iddynt gael eu gwahanu o brif fater y Cwmni Ynni, ac roedd yn fater yr oedd y Pwyllgor yn sicr o fynd i'r afael ag ef wrth i'n gwaith fynd rhagddo.

 

8.         SY 5.4 a 5: Gellid ystyried y rhain yn gwestiynau sylfaenol y dylid eu hystyried ar y cyd â'r holl waith arall. Gyda phob parch at linellau amser (yr aed heibio iddynt eisoes), roedd perygl o ddyfalu yn ddamcaniaethol heb ystyried tystiolaeth dichonoldeb.

 

Roedd trafodaethau'r aelodau'n cynnwys y canlynol: datblygu biomas; dal nwy methan yn Nhir John; cynlluniau gwresogi ardal; datblygu cynllun busnes mewn perthynas â gwastraff bwyd; yr angen am gytundebau tenantiaeth a hyfforddi tenantiaeth mewn perthynas â byw mewn tŷ goddefol; gorsafoedd pŵer symudol ac eglurhad ynglŷn â'r diffiniad o "ddinas hunangynhaliol o ran ynni".

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Rheolwr Ynni y byddai'n ceisio cael eglurhad ynghylch y £60 mil a nodwyd yn SY1.7 ac a fyddai'n bosib gwario'r arian hwn ar gael arbenigedd technegol a phroffesiynol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.         GOHIRIO'R materion sy'n ymwneud ag eitem SY2.3a (sy'n ymwneud â methan a chynnyrch posib eraill tirlenwi ac a gyfeirir yn benodol i safle Tir Jon) tan ddyddiad hwyrach oherwydd bod datblygu gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol cyfagos yn parhau i fynd rhagddo;

2.         CYNNWYS SY2.4b (archwilio cyfleoedd yn y dyfodol fesul achos gan ddibynnu ar isadeiledd a chymorthdaliadau'r llywodraeth) ar y cynllun gwaith i gael y diweddaraf ar gynnydd yn dyfodol oherwydd roedd swyddogion wrthi'n gweithio ar y mater hwn;

3.         Y dylai'r Rheolwr Ynni sicrhau bod swyddog ar gael i gynorthwyo'r Grŵp Tasg a Gorffen;

4.         Bod Keith Ross (CYMGA) yn llunio nodyn mewn perthynas â'r dewisiadau sydd ar gael o ran cael gwared ar danwydd ffosil yn yr awdurdod erbyn 2025;

5.         Bod y Rheolwr Yni yn cadarnhau a allai'r £60 mil a nodwyd yn SY1.7 gael ei ddefnyddio i gael arbenigedd technegol a phroffesiynol; a

6.         Bod aelodau'r pwyllgor yn rhoi gwybod i Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd os ydynt am fod yn rhan o'r Grŵp Tasg a Gorffen.

29.

Dogfen JRF 'Gallwn drechu tlodi yn y DU'.

Trafodaeth aelodau.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y cadeirydd at drafodaethau mewn cyfarfodydd blaenorol ac ailadroddodd yr angen i osgoi dyblygu wrth archwilio materion yr oedd cyrff cynghorau eraill yn eu harchwilio.

 

Cafodd fersiwn Gymraeg y ddogfen "Ffyniant heb Dlodi: Fframwaith Gweithredu yng Nghymru" gan Sefydliad Joseph Rowntree (JRF) ei chylchredeg ymysg aelodau.

 

Croesawodd y cadeirydd y Cynghorydd S E Crouch, Cadeirydd y Panel Craffu Trechu Tlodi, i'r cyfarfod a dywedodd fod y Panel Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi wedi cael y dasg o archwilio Strategaeth Trechu Tlodi y cyngor. 

 

Er mwyn osgoi dyblygu, argymhellodd y Rheolwr Trosolwg a Craffu fod y Pwyllgor yn archwilio argymhellion y Panel Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi yn dilyn ystyriaeth y Cabinet.  Byddai hyn yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor fonitro'r camau gweithredu sy'n codi o'r argymhellion.

 

Cytunodd y Cynghorydd S E Crouch i'r camau gweithredu a gynigiwyd a nododd y byddai canfyddiadau'r Panel yn debygol o gael eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Ionawr 2017. Nododd fod y Panel wedi archwilio'r strategaeth bresennol i bennu a oedd y strategaeth yn addas at y diben.  Nododd aelodau fod llawer o dystiolaeth wedi'i chyflwyni i'r Panel ac roeddent yn penderfynu sut y gallai hyn lywio'r strategaeth yn y dyfodol.

 

Dyma sylwadau'r aelodau mewn perthynas â ddogfen y JRF, "Ffyniant heb Dlodi: Fframwaith Gweithredu yng Nghymru":

 

1.         Roedd y ddogfen yn cynnwys argymhellion nad oeddent o fewn pŵer yr awdurdod lleol;

2.         Roedd yr astudiaeth achos a oedd yn ymwneud â Chyngor Dinas Leeds yn werth ei hystyried;

3.         Roedd y cyngor yn chwarae rôl allweddol mewn perthynas â thai fforddiadwy;

4.         Roedd angen adlewyrchu'r newid diweddar mewn cyfeiriad gan Lywodraeth Cymru gyda thlodi wedi'i ymgorffori mewn tri tharged o ran cyflogaeth, blynyddoedd cynnar a grymuso, yn ogystal â'r newidiadau i Gymunedau'n gyntaf yn y ddogfen;

5.         Roedd y ddogfen bresennol yn edrych fel strategaeth ar gyfer y Tîm Tlodi a'i Atal yn hytrach na'r cyngor. Roedd y cyngor yn gyffredinol yn cyflawni llawer o waith atal tlodi o ran y cynllun adnewyddadwy yn Sandfields; NEET; a phrentisiaethau.  Felly, dylai dogfen Trechu Tlodi'r cyngor adlewyrchu'r holl waith a oedd yn mynd yn ei flaen;

6.         Byddai'n rhaid archwilio gweithio mewn partneriaeth fel rhan o strategaeth tlodi ehangach;

7.         Roedd y ddogfen yn rhoi pwyslais mawr ar gyflogaeth, ond yn sôn am greu cyflogaeth (h.y. roedd llawer o rwystrau rhag sefydlu busnesau bach a dylai cyngor fod ar gael mewn perthynas â deddfwriaeth y llywodraeth, materion adnoddau dynol, etc.);

8.         Dylid ystyried goblygiadau "cyflog dinasyddion" er mwyn pellhau oddi wrth y system fudd-daliadau (er y derbyniwyd y byddai hyn yn fater i Lywodraeth y DU);

9.         Dylai'r cyngor sicrhau ei fod yn "gyflogwr cyflog byw" ac roedd angen profi hyn wrth gontractio gwasanaethau allanol i ddarparwyr y sector preifat. Fodd bynnag, byddai angen cydbwyso'r costau sy'n gysylltiedig â'r cyflog byw yn erbyn cyfyngiadau cyllidebol presennol.

                

PENDERFYNWYD:

 

1.         Y dylid cynnwys yr argymhellion sy'n codi o'r Panel Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi yn y cynllun gwaith yn dilyn ystyriaeth gan y Cabinet; ac

2.         Y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Wrthdlodi a Thai, gan roi manylion am farn y Pwyllgor ynglŷn â dogfen y JRF.

 

 

30.

Cynllun Gwaith 2016 - 2017. pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Gofynnod y Cadeirydd bod y canlynol yn cael eu trafod: Ymweliad safle ag Opsiynau Tai a chontractau gosodiadau ar gyfer tai newydd y cyngor yn y cyfarfod ar 8 Rhagfyr, 2016.