Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

21.

Cofnodion: pdf eicon PDF 77 KB

To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Medi 2016 fel cofnod cywir.

 

22.

Menter Bwyd.

Jane Whitmore, Amanda Owen a chynrychiolydd o'r Gwasanaethau Masnachol.

Cofnodion:

Rhoddodd Amanda Owen (Tlodi a'i Atal), gyda chymorth Gemma Lelliott (Gwasanaethau Masnachol), gyflwyniad ar Adfywio o Dlodi Bwyd - Menter Fwyd Abertawe.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:

 

·       Sut gwnaethom gyrraedd yma?

·       Can Cook;

·       Cyflenwad bwyd Can Cook;

·       Economi gylchol Can Cook;

·       Y sefyllfa bresennol;

·       Gweithgaredd/Llinell Amser; a

·       Y cam nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol:

 

·       Mae'r prosiect wedi'i ariannu tan fis Mawrth 2018;

·       Mae posibilrwydd y gellir cyflwyno’r prosiect mewn ardaloedd eraill o'r cyngor (h.y. gallai gweithwyr gofal cartref hefyd hyrwyddo/gynorthwyo gyda darparu'r gwasanaeth);

·       Caiff y prosiect ei estyn i grwpiau eraill heblaw'r rhai hynny mewn llety lloches;

·       Mae cyfleoedd am hyfforddeiaethau a chynnyrch 'tyfu eich hun';

·       Mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu a'i reoli fel busnes ac mae brwdfrydedd i archwilio'r holl feysydd lle gallai'r prosiect gael ei ddatblygu ymhellach;

·       Mae rôl banciau bwyd yn hanfodol o hyd.  Fodd bynnag, bwriedir eu cadw fel mesur dros dro yn hytrach nag ateb tymor hir;

·       Gallai partneriaid posib gynnwys unrhyw un, y trydydd sector a busnesau;

·       Nid oes unrhyw ffigurau'n bodoli, hyd yn oed ar lefel genedlaethol, o ran nifer y bobl nad oes ganddynt ddigon o fwyd; ac

·       Mae'r gyllideb bresennol yn £140k, fodd bynnag, bydd y ffigur hwn yn lleihau £70k pan fydd y prosiect yn creu incwm.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)    NODI'R cyflwyniad; ac

b)    Y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at aelodau er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r Fenter Fwyd.

 

23.

Materion Gwrthdlodi.

Bydd Jane Whitmore ac Anthony Richards yn arwain trafodaeth ar flaenoriaethu'r meysydd dilynol o waith: Tyfu Cymunedol; Strategaeth Adeiladau'r Gymuned; Addewid gwirfoddoli ar gyfer y staff; Ymchwil Mynd i'r Afael â Thlodi gan Awdurdodau eraill; Dogfen JRF ‘We can solve poverty in the UK’.

 

Cofnodion:

Arweiniodd Jane Whitmore, Rheolwr Partneriaeth, Perfformiad a Chomisiynu, Tlodi a'i Atal, drafodaeth ar flaenoriaethu materion gwrthdlodi.

 

Nododd na fyddai unrhyw waith yn ofynnol gan y pwyllgor o ran y canlynol:

 

·       Tyfu Cymunedol;

·       Strategaeth Adeiladau Cymunedol;

·       Addewid Gwirfoddoli ar gyfer y Staff.

 

Nododd fod y gwaith ymchwil i drechu tlodi gydag awdurdodau eraill yn bwnc i banel ymchwilio craffu. 

 

Yna rhoddodd gyflwyniad ar ddogfen Sefydliad Joseph Rowntree (JRF) o'r enw, 'Gallwn Ddatrys Tlodi yn y DU' a hysbysodd fod hwn yn ddarn ychwanegol o waith a fyddai'n ychwanegu gwerth at y gwaith sy'n cael ei wneud mewn meysydd eraill.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:

 

·       Diffiniad JRF o dlodi;

·       JRF - Safon Incwm Gofynnol (MIS);

·       Manylion yr MIS;

·       MIS fel arwydd o dlodi;

·       Anaml y mae tlodi o ganlyniad i un ffactor yn unig;

·       Ein gweledigaeth ar gyfer y DU heb dlodi;

·       Gweithio gyda'n gilydd;

·       Beth i'w wneud - pum cam gweithredu allweddol;

·       Yr hyn y mae llywodraethau lleol yn ei wneud;

·       Rhoi hwb i incwm/lleihau costau;

·       Gwella'r system fudd-daliadau; a

·       Gwella addysg a sgiliau.

 

Nododd y Rheolwr Partneriaeth, Perfformiad a Chomisiynu y byddai fersiwn Gymraeg o'r ddogfen yn cael ei chyhoeddi ar 8 Tachwedd, 2016.  Fodd bynnag, nid oedd yn hysbys a oedd y fersiwn Gymraeg yn syml yn golygu y byddai'r ddogfen yn cael ei chyhoeddi yn Gymraeg neu a fyddai'n trafod tlodi o safbwynt Cymreig.

 

Mynegodd aelodau bryder gan fod y ddogfen eisoes wedi cael ei thrafod mewn Panel Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi ar 26 Medi, 2016, pan geisiwyd barn gan sefydliadau trydydd sector.  Roedd yn amlwg bod cyrff tebyg yn archwilio'r adroddiad, er gyda phwyslais ychydig yn wahanol, ond mae'n ymddangos bod llawer o bethau'n gyffredin.  Er bod y ddogfen yn ymdrin â materion a oedd yn bolisi cenedlaethol, roedd rhai materion o fewn cylch gwaith yr awdurdod lleol (h.y. sicrhau nad yw'r awdurdod yn dyfarnu contractau i gwmnïau preifat nad ydynt yn talu'r cyflog byw).

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     NODI'R cyflwyniad;

2.     Dosbarthu copïau caled o ddogfen bresennol y JRF i aelodau'r pwyllgor;

3.     Y dylai aelodau archwilio'r ddogfen a thrafod y materion sy'n benodol i Abertawe;

4.     Dosbarthu copi caled o'r fersiwn Gymraeg ar ôl iddi gael ei chyhoeddi ar 8 Tachwedd 2016.

 

24.

Strategaeth Ynni. pdf eicon PDF 47 KB

Bydd Martin Nicholls, Terri Shaw ac Andrew Shaw.  

Cofnodion:

PENDERFYNWYD GOHIRIO'R eitem.

 

25.

Cynllun Gwaith 2016 - 2017. pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD NODI'R cynllun gwaith ar gyfer 2016-2017.