Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd T J
Hennegan – Personol – Cofnod Rhif 19 – Strategaeth Rhagor o Gartrefi – Rwy'n un
o denantiaid sicr y cyngor. Y Cynghorydd G H Tanner – Personol – Cofnod Rhif 19 – Strategaeth Rhagor o Gartrefi – Rwy'n un o denantiaid sicr y cyngor ers 48 mlynedd. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel
cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2016 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Gwaith 2016 - 2017. PDF 52 KB Cofnodion: Nododd y cadeirydd
mai ei fwriad oedd cydbwyso'r cynllun gwaith gyda rhaniad 50% rhwng materion
Gwrthdlodi a Chymunedau a Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf. Nododd fod yr
agenda ar gyfer cyfarfod mis Hydref yn cynnwys Mentrau Bwyd (Chris Sivers a
Chris Williams yn bresennol) a'r camau gweithredu dros ben a ddeilliodd o'r
cyflwyniad ar y Strategaeth Ynni (12 Mai, 2016). Nododd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf fod Mentrau Bwyd yn fater
trawsbynciol a oedd yn cynnwys y ddau bortffolio. Cyfeiriodd y
cadeirydd at faterion dros ben o ran y penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2016: a)
Mae cydweithwyr
o Is-adran yr Uned Trechu Tlodi'n gweithio gydag aelodau o Benderi
i ddatblygu cyflwyniad ar y gwaith datblygu cymunedol maent wedi ymgymryd ag ef
a chyflwyno'r canfyddiadau i bob aelod fel rhan o raglen hyfforddi; b)
Mae'r
pwyllgor yn archwilio'r strategaeth at ddefnydd adeiladau cymunedol; c)
Mae'r
pwyllgor yn darparu arsylwadau ar addewid y gweithiwr ynghylch gwirfoddoli yn
ystod y broses ymgynghori; ch) Bydd y pwyllgor hefyd yn ymchwilio i
weithgareddau trechu tlodi mewn awdurdodau lleol
eraill ac yn rhannu'r rhain â'r Cyng. Evans; d)
Bydd
Pennaeth Tlodi a'i Atal yn ymdrin â materion sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb
canlyniadau ac yn rhoi gwybodaeth i Bwyllgor Cynghori'r Cabinet yn y dyfodol. Nododd fod
cyn-Bennaeth Tlodi a'i Atal wedi awgrymu y dylai'r pwyllgor archwilio'r pynciau
a grybwyllwyd uchod. Fodd bynnag, byddai Jane Whitmore yn bresennol yn y
cyfarfod ar 20 Hydref, 2016 i gynghori a oedd angen archwilio'r materion uchod
o hyd. Gofynnir i Ms Whitmore hefyd a
oes swyddog ar gael i gefnogi'r pwyllgor mewn perthynas â'r
materion uchod. Teimlai'r cadeirydd
fod prinder Swyddogion Gwrth-dlodi ar gael i fynd i'r cyfarfod a chefnogi'r
pwyllgor. Cyfeiriodd at ddigwyddiad pan oedd swyddog wedi mynd i gyfarfod y
pwyllgor ar ôl cyfaddef nad oedd wedi darllen y papur ac nad oedd wedi paratoi
ar gyfer y cyfarfod. Yn ogystal, roedd cyfarfod wedi cael ei ganslo ym mis Awst
gan nad oedd Swyddog Gwrthdlodi ar gael. Nododd fod y
Strategaeth Trechu Tlodi (a fu'n eitem a awgrymwyd ar gyfer y pwyllgor) wedi
cael ei throsglwyddo i Banel Ymchwiliad Craffu.
Roedd hyn wedi arwain at y rhestr o eitemau a awgrymwyd gan gyn-Bennaeth
Tlodi a'i Atal yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2016. Er ei fod yn
anfodlon ar y canlyniad hwn, roedd wedi cytuno, gyda chefnogaeth y pwyllgor, i
dderbyn yr eitemau a awgrymwyd gan gyn-Bennaeth Tlodi a'i Atal. Dosbarthodd y
cadeirydd gopïau o e-bost gan Aelod y Cabinet dros Wrthdlodi a Chymunedau. Cynigiodd yr e-bost y dylai'r pwyllgor
ymgymryd â darn brys o waith mewn perthynas â dogfen gan Sefydliad Joseph
Rowntree o'r enw ‘We can Solve Poverty
in the UK’.
Roedd Aelod y Cabinet wedi gofyn i'r pwyllgor gyflwyno argymhellion ar
ôl dadansoddi'r ddogfen. Awgrymodd y
cadeirydd y dylid trafod dogfen Sefydliad Joseph Rowntree pan ddaw Ms Whitmore
i'r cyfarfod ar 20 Hydref, 2016 ac y dylai geisio
arweiniad gan Aelod y Cabinet ynglŷn â natur frys y darn o waith. Cyfeiriodd y
cadeirydd at faterion dros ben y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod ar 12 Mai, 2016: a)
Dylid sefydlu Grwpiau Tasg a Gorffen i archwilio biomas,
ffermydd gwynt, cwmnïau ynni, mesuryddion trydan deallus a storio; b)
Bod aelodaeth y grwpiau tasg a gorffen yn cynnwys Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori'r
Cabinet ar Gymunedau, Aelodau a Swyddogion perthnasol; c)
Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn dosbarthu manylion cwmnïau
ynni i aelodau'r pwyllgor; ch) Bydd y
Cyfarwyddwr Lleoedd yn gwneud unrhyw gysylltiadau perthnasol â Phwyllgorau Cynghori'r Cabinet
eraill, gan adrodd yn ôl i'r pwyllgor; d)
Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn
ailddiffinio'r cynllun gweithredu o ran materion y'u hystyriwyd yn rhai
'blaenoriaeth isel’. O ran y grwpiau tasg a gorffen arfaethedig y cyfeiriwyd atynt uchod yn
(a), nododd y cadeirydd yr hoffai wahodd Keith Ross, Frack-Free
Wales, i gymryd rhan. Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf ei bod yn
croesawu cyfraniad aelodau cyffredin. PENDERFYNWYD y dylid NODI materion
y cynllun gwaith. |
|
Strategaeth Mwy o Gartrefi. PDF 681 KB Presentation by Dave Evans, Service Manager
(Policy) & Carol Morgan, More Homes Development Manager. Cofnodion: Cyflwynwyd y
Strategaeth Rhagor o Gartrefi gan David Evans (Rheolwr Busnes Tai), gyda
chymorth Carol Morgan, Swyddog Datblygu Rhagor o Gartrefi. Nododd y
cyflwyniad: ·
Ddiben
y strategaeth; ·
Nod
darparu rhagor o gartrefi cyngor; ·
Y
cyd-destun ariannol; ·
Anghenion
tai; ·
Y
cyflenwad tir; ·
Nod
cefnogi cartrefi a chymunedau cynaliadwy; ·
Y
cynlluniau peilot; ·
Yr
opsiynau datblygu; a'r ·
Camau
nesaf. Nododd Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf nad oedd canlyniadau'r cynllun peilot, a
fu'n archwilio costau'r Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol (GAEC),
wedi cael eu derbyn. Roedd cyflwyno'r Cynllun Hawl i Brynu ym 1996 wedi lleihau
stoc tai'r cyngor o 3,891 a byddai'n cymryd peth amser i adfer y nifer
hwnnw. Byddai'n haws i'r GAEC ymwneud â
safle â chartrefi a oedd yn dai cyngor i gyd ac mae'n bwysig asesu a oes gan y
GAEC y gallu i adeiladu tai ar gyfer daliadaethau defnydd cymysg. Byddai angen rheoli'r cynllun mewn modd
creadigol ac eglur. Nododd y cadeirydd
fod methu adeiladu tai fforddiadwy wedi bod yn bryder cynyddol ers peth amser a
bod angen canolbwyntio ar hyn yn y dyfodol. Gellid ystyried opsiynau eraill os
nad oedd y GAEC mewn sefyllfa (oherwydd Safon Ansawdd Tai Cymru hyd at 2020) i
ymrwymo i gynlluniau. Roedd y fath opsiynau'n cynnwys defnyddio sefydliadau
sy'n adeiladu cartrefi a chartrefi marchnad i'w gwerthu ond nad ydynt yn cael
eu hystyried yn ddatblygwyr. Mewn ymateb i gwestiynau
gan aelodau, nododd y Rheolwr Busnes Tai'r canlynol: ·
Byddai
unrhyw dai cyngor newydd yn gorfod cydymffurfio â'r
un polisi rhent a chytundebau tenantiaeth â'r stoc
presennol; ·
Roedd
yr ymchwiliad i ‘gwmnïau hyd braich’ wedi'i chynnwys yn y strategaeth. Er y gallai fod cyfleoedd ariannu trwy
ddefnyddio'r cwmnïau hyn, byddai angen ystyried unrhyw gyfyngiadau bwlch
benthyca CRT. ·
Byddai'r
gofyniad i fwyafu canran y cartrefi i'w hadeiladu at
ddefnydd y cyngor yn hanfodol; ·
Roedd
y strategaeth yn cyd-fynd â strategaethau eraill y cyngor. Roedd y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymryd
rhan mewn trafodaethau cynnar a byddwn yn ymgynghori â nhw ymhellach ynghylch y
cynllun datblygu manwl; ·
Roedd
y term ‘tai fforddiadwy’ yn disgrifio tai sy'n cael eu gosod neu eu gwerthu yn
is na rhent neu werth y farchnad. Fodd
bynnag, mae costau adeiladu'n debyg beth bynnag y ddaliadaeth yn y pen draw ac,
oherwydd safonau'r llywodraeth, gallai costau fod yn uwch am dai fforddiadwy. Felly, i fod yn gynllun dichonadwy, mae angen cymorthdalu cynlluniau tai fforddiadwy a allai fod ar ffurf gwerthoedd tir is a/neu gymhorthdal gan
y llywodraeth i helpu i dalu am rai o'r costau; ·
Mae
rhagolygon y Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer cyfnod o 30 mlynedd; ·
Yr
amcan fydd mwyafu manteision i'r gymuned a sicrhau y
cydymffurfir â chynllun ‘Y Tu Hwnt i Frics a Morter’ y cyngor, ni waeth pwy
sy'n ymgymryd â'r datblygiad; ·
Mae
cyflwyno polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo rhenti tai cymdeithasol yn
darparu elfen o gysondeb i landlordiaid tai cymdeithasol, gan gynnwys cynghorau
a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig; ·
Mae'r
terfyn ar fenthyca'n derfyn ar gyfer Cymru gyfan a bennir gan y Trysorlys. Bydd
Llywodraeth Cymru'n ceisio cynyddu'r terfyn; ·
Mae'r
strategaeth yn cyfrifo y gellid darparu £6m i'w wario erbyn 2020 ond gallai fod
angen diwygio rhagdybiaethau yn y Cynllun Busnes CRT os oes newid yn y polisi
rhentu a/neu mae effaith diwygiadau lles yn fwy difrifol. Mae cyd-drafod unrhyw gyfraniad gan
ddatblygwr at dai fforddiadwy yn fater polisi cynllunio; ac ·
Mae
risgiau masnachol yn gysylltiedig â datblygiadau adeiladu sydd i'w gwerthu y
mae angen eu hystyried ac os yw hyn yn cynnwys gwerthu eiddo wedi'u hadeiladu
trwy ddefnyddio cyllid CRT, byddai angen adennill cost lawn y cynllun ynghyd â
gwerth y tir oherwydd bod clustnodi'n golygu na all y cyfrif gymorthdalu'r pris
prynu. Nododd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf, fod tir yn cael ei ystyried ym
mhob ardal er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu'n gyflym ac yn
effeithlon wrth ystyried anghenion y gymuned ar yr un pryd. Byddai pob safle'n
cael ei ystyried yn ei rinwedd ei hun a nod y cyngor fyddai caffael
nwyddau/gwasanaethau'n lleol. Ailadroddodd yr angen i ddatblygu cynllun
gweithredu ac amserlenni. Diolchodd y
cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. PENDERFYNWYD: 1.
y
dylid nodi'r cyflwyniad; ac y dylai'r cadeirydd ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlygu: canran y tai fforddiadwy sy'n angenrheidiol ar gyfer cynlluniau'r dyfodol; yr effaith ddymbel (pwysau ar y ddwy ochr) sy'n gysylltiedig â darparu llety addas (fflatiau un neu ddwy ystafell wely); y dylid rhoi grantiau tai cymdeithasol i awdurdodau lleol; y dylid datblygu cynllun gweithredu ac amserlenni i olrhain cynnydd; y dylid ailystyried cynlluniau cyfraniad datblygwyr a'r angen i fod yn uchelgeisiol wrth gyflwyno'r strategaeth ynni a thlodi tanwydd i'r sector preifat trwy'r cynllun. |