Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J E Burtonshaw a G J Tanner.

7.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Swyddog - S Woon - Cofnod Rhif 9 - Personol – Adolygu’r Strategaeth Trechu Tlodi - Rwy'n wirfoddolwraig gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Abertawe.

 

8.

Cofnodion: pdf eicon PDF 72 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Ebrill, 12 Mai a 19 Mai 2016 fel cofnodion cywir.

 

[Cyfeiriodd yr Aelodau at drafodaethau blaenorol ar dyfu cymunedol.  Rhoddodd Bennaeth Tlodi a’i Atal diweddaraf ar y sefyllfa bresennol, gan fod tyfu cymunedol yn cynnwys nifer o feysydd gwasanaeth a byddai angen iddo gyd-fynd â'r Polisi Rhandiroedd.  Dywedodd y cadeirydd y byddai’n ystyried hyn fel rhan o'r cynllun gwaith ar gyfer 2016-2017 gyda’r Cynghorydd U Clay yn cadeirio grŵp tasg a gorffen.]

9.

Adolygu Strategaeth Trechu Tlodi. pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Bennaeth Tlodi a’i Atal drosolwg o'r Cynllun Gweithredu Strategaeth Trechu Tlodi a’r broses o’i waith.

 

Trafododd yr aelodau'r Adolygiad Trechu Tlodi arfaethedig i'w gyflawni gan swyddogion Craffu.  Gan fod Aelodau yn awyddus i osgoi dyblygiad, awgrymodd Aelod y Cabinet dros Dlodi ac Atal Tlodi fod y pwyllgor yn canolbwyntio ar gefnogaeth Aelodau'r Cynllun Gweithredu i gyflawni'r gweithredoedd, a fyddai'n rôl ar wahân i'r hyn a gyflawnir gan swyddogion Craffu. 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Tlodi a’i Atal at y Cynllun Gweithredu. Dywedodd fod y cynllun yn cwmpasu 5, 10, 15 mlynedd ac yn cael ei ddiweddaru bob yn ail fis. Gan fod y Strategaeth Trechu Tlodi'n strategaeth ar gyfer y cyngor cyfan, bwriadwyd i’r Cynllun Gweithredu fod yn drawsbynciol ac roedd angen mewnbwn o feysydd gwasanaeth eraill.

 

Ceisiodd y Pennaeth Tlodi a’i Atal gymorth gan y pwyllgor ar y materion isod a gynhwysir yn y Strategaeth Tlodi, y Cynllun Gweithredu a’r Llyfr Cofnodion Cynnydd:

 

a)    Grymuso Pobl Leol, rhif 5 - Llunio Rhaglen Dysgu Gweithredol Gymunedol ar gyfer pobl leol,

b)    Grymuso pobl leol rhif 6 - (Creu cynlluniau gweithredu i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol ar draws gwasanaethau'r cyngor),

c)     Grymuso Pobl Leol rhif 7 - gosod datblygiad cymunedol mewn rolau aelodau ward

ch) Grymuso Pobl Leol, rhif 9 - Strategaeth ar gyfer defnyddio adeiladau cymunedol,

d)    Newid Diwylliannau - rhif 12 - Addewid Gweithwyr ar Wirfoddoli,

dd) Newid Diwylliannau - rhif 15 - Addysg ar gyfer Arweinwyr y Cyngor

 

Trafododd yr aelodau eitemau 5, 6 a 7 a oedd yn drawsbynciol. Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr hyfforddiant datblygu cymunedol blaenorol a chasgliad y pwyllgor bod angen i hyfforddiant fod yn fwy penodol i ardaloedd daearyddol. Roedd y gwaith a wnaed gan y Cynghorydd TJ Hennegan a'i gydweithwyr yn ward Penderi yn cynnig cyfle i lunio hyfforddiant penodol ar gyfer Aelodau, gyda'r posibilrwydd y byddai’r dull a ddefnyddir ym Mhenderi yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o’r Ddinas.

 

Teimlai aelodau y byddent yn gallu rhoi mewnbwn i’r strategaeth ar gyfer: defnydd o adeiladau cymunedol; addewid gweithwyr ar wirfoddoli ac addysg ar gyfer arweinwyr y cyngor.

 

Dilynwyd hyn gan drafodaeth ar ddisgwyliad oes yn Abertawe.  Dywedodd Bennaeth Tlodi a’i Atal fod map wedi cael ei greu a oedd yn olrhain gwahaniaethau o ran canlyniadau i breswylwyr yn Abertawe.  Roedd yr wybodaeth yn gasgliad o faterion amgylcheddol a chymdeithasol ac roedd yn gymhleth iawn. 

 

Trafododd yr aelodau'r gwahanol ffyrdd o ddileu tlodi.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)    Y dylai cydweithwyr o Is-adran yr Uned Trechu Tlodi weithio gydag Aelodau Penderi i baratoi cyflwyniad ar y gwaith datblygu cymunedol y maent wedi ei wneud a chyflwyno'r canfyddiadau i bob Aelod fel rhan o raglen hyfforddiant;

2)    Y dylai'r pwyllgor archwilio'r strategaeth defnyddio adeiladau cymunedol;

3)    Y dylai'r pwyllgor gyflwyno sylwadau ar addewid y gweithwyr ar wirfoddoli yn ystod y broses ymghynghori;

4)    Y dylai'r pwyllgor ymchwilio i weithgareddau trechu tlodi mewn Awdurdodau Lleol eraill, a'u rhannu gyda’r Cyng. Evans; ac

5)    Y dylai Pennaeth Tlodi a’i Atal ystyried materion anghydraddoldeb canlyniadau a darparu gwybodaeth i'r PCC yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd Bennaeth Tlodi a’i Atal am ei hadroddiad llawn gwybodaeth.

10.

Cynllun Gwaith 2016-2017.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n cyfarfod ag Aelodau'r Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf a Thlodi a Chymunedau i drafod pynciau y gellid eu cynnwys yng Nghynllun Gwaith 2016/17. 

 

 

PENDERFYNWYD bod eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf yn cynnwys:

 

a)    Adroddiad ar y Cwmni Budd Cymunedol Tlodi Bwyd; a

b)    Mater tai.