Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Gohirio Rheol 12 Gweithdrefn y Cyngor "Cadeirydd Cyfarfodydd" er mwyn caniatáu i'r Aelod Llywyddol lywyddu dros eitemau'r agenda sy'n dilyn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefn 12 i ganiatáu i gadeirydd y cyngor lywyddu dros y cyfarfod hwn.

 

(BU'R CYNGHORYDD D W W THOMAS YN LLYWYDDU)

 

2.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016-2017.

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd R A Clay yn gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

 

(BU'R CYNGHORYDD R A CLAY YN LLYWYDDU)

 

3.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016-2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd T J Hennegan yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

 

4.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyn ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G J Tanner.

 

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni chyhoeddwyd unrhyw fuddion.