Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J E Burtonshaw, D W Cole ac N J Davies. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau. |
|
Cyflwyniad gan Martin Nichols (Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro) a Terri Shaw (Rheolwr Ynni). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Martin
Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro, wedi cyflwyno Strategaeth Ynni Dinas a
Sir Abertawe gyda chymorth Terri Shaw, Rheolwr Ynni. Roedd y cyflwyniad
yn cynnwys: ·
Pam y mae angen Strategaeth Ynni? ·
Pam cael Strategaeth Ynni? ·
Pam roi Strategaeth Ynni ar yr agenda heddiw? ·
Gweledigaeth a Blaenoriaethau Corfforaethol ·
Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol - Cyfrifoldebau'r Sector Cyhoeddus ·
Amcanion y Strategaeth Ynni ·
Hierarchaeth Ynni · Elfennau Allweddol y
Strategaeth ·
Beth ydym eisoes yn ei wneud ar bob lefel o'r hierarchaeth? ·
Beth yw'r cam nesaf? ·
O ba lefel ydym yn dechrau symud ymlaen i lefel dyfodol yr hierarchaeth? ·
Heriau
wrth gyflwyno'r Strategaeth Ynni ·
Cwestiynau cychwynnol i Aelodau'r Cabinet ·
Mewnbwn Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ·
Myfyrdodau Terfynol Nododd y
Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro fod y cynigion yn ffurfio strategaeth yn hytrach
na pholisi, ac yn cynnwys cynllun gweithredu nad oedd yn gyflawn. Er bod elfennau sy'n cael eu cyflawni ar hyn
o bryd (Safon Ansawdd Tai Cymru) roedd rhai elfennau'n fwy anodd eu cyflawni
gan eu bod yn gofyn am fewnbwn gan sefydliadau eraill. Felly, byddai'r
strategaeth yn cael ei thrin ar sail dameidiog yn hytrach na chael ei hystyried
yn ei chyfanrwydd. Meddai Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf fod cerrig milltir mewn rhai
ardaloedd a oedd yn benodol iawn, e.e. y gofyniad i atal defnyddio safleoedd
tirlenwi ar ôl 2020. Yn ychwanegol, gwnaed ymrwymiad gan yr Awdurdod i beidio â
defnyddio unrhyw danwyddau ffosil erbyn 2025. Meddai fod meysydd
megis biomas yn haeddu archwiliad pellach, ac awgrymodd y dylai grŵp tasg
a gorffen cael ei gynnull er mwyn archwilio'r mater hwn. Roedd materion
allweddol a gododd o'r trafodaethau'n cynnwys: ·
Y materion
sy'n gysylltiedig â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio i wrthod cais blaenorol
am waith Biomas yn Abertawe. ·
Manteision
archwilio strategaethau 'gwyrdd' a chwmnïau ynni cynghorau eraill; ·
Pwysigrwydd
cwblhau adrannau o'r cynllun gweithredu yn hytrach na cheisio cwblhau'r holl
agweddau gyda'i gilydd; ·
Y
cysylltiad rhwng y Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu yn y Gymuned
Cynghorwyr; ·
Manteision
defnyddio grwpiau tasg a gorffen i archwilio ffermydd gwynt; ·
Gan
fod y Strategaeth yn drawsbynciol, byddai'n rhaid i bwyllgorau cynghori'r
cabinet eraill archwilio meysydd sy'n benodol i'w portffolios; ·
Roedd
mewnbwn gan aelodau ynglŷn â llunio'r strategaeth yn hanfodol, ac roedd yn
bwysig bod yr holl faterion yn cael eu harchwilio, er ar sail dros dro (megis biomas
y mae ei ddisgwyliad oes yn 20-25 mlynedd). Roedd materion eraill yn cynnwys
Solar, Morlyn Llanw a Storio; ·
Rôl y
Swyddogion Cynllunio wrth ddatblygu'r CDLl, a
fyddai'n cefnogi'r strategaeth; ·
Sicrhau nad oedd y strategaeth yn dod yn wleidyddol ac yn
cael ei datblygu gyda chefnogaeth trawsbleidiol; ·
Roedd
angen datblygu'r fenter 'tyfu eich bwyd eich hun' yn fwy, a'i chysylltu â
strategaethau eraill o fewn yr awdurdod; ·
Roedd materion a nodwyd yn rhai â 'blaenoriaeth isel' o
fewn y cynllun gweithredu yn aml yn faterion mwy heriol i'w cyflwyno yn hytrach
na'n faterion dibwys; ·
Roedd
angen mwy o drafodaethau gyda'r Association of
British Ports ynglŷn â'r
tir o amgylch o dociau; ·
Y
rhwystredigaethau sy'n gysylltiedig â dinas-ranbarthau a'r angen i ymdrin â
materion mewn perthynas â chanol y ddinas; ac ·
Archwilio'r
amserlen am drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a sut caiff hyn ei fwydo i'r
strategaeth. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. PENDERFYNWYD ar y canlynol: a)
Dylid
sefydlu Grwpiau Tasg a Gorffen i archwilio biomas, ffermydd gwynt, cwmnïau
ynni, mesuryddion trydan deallus a storio; b)
Bod
aelodaeth y grwpiau tas a gorffen yn cynnwys Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r
Genhedlaeth Nesaf, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau, Aelodau
a Swyddogion perthnasol; c)
Bydd
y Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro'n cylchlythyru manylion cwmnïau ynni i Aelodau'r
Pwyllgor; d)
Bydd
y Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro'n gwneud unrhyw gysylltiadau perthnasol â
Phwyllgorau Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau eraill, gan adrodd yn ôl i'r
Pwyllgor; e) Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro'n ailddiffinio'r cynllun gweithredu o ran materion y'u hystyriwyd yn rhai 'blaenoriaeth isel'; ac Y dylid cofnodi'r cyflwyniad. |