Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

66.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

67.

Cofnodion: pdf eicon PDF 55 KB

To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2016 yn gofnod cywir.

 

Nodwyd bod y Cadeirydd wedi siarad â Swyddog Adran 151 i bennu ffordd i fesur cost oedi gyda Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ac y byddant yn trafod ymhellach.

 

68.

Mynediad BME i ddarpariaeth Cymunedau'n Gyntaf. (Pennaeth Tlodi ac Atal) pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Pennaeth Tlodi a'i Atal, Anthony Richards, cyflwynodd y Swyddog Partneriaethau Trechu Tlodi nodyn briffio ar fynediad Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du i'r rhaglen Cymunedau'n Gyntaf yn Abertawe.

 

Amlinellwyd bod Dinas a Sir Abertawe wedi derbyn cyllid gan Gymunedau'n Gyntaf ers 2001. £2,844,812 oedd dyraniad cyllidebol 2015/16 a oedd yn cynnwys gostyngiad 5% ar y flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn ariannu 3 aelod canolog o staff a 5 Tîm Cyflwyno Clwstwr. Roedd rhif staffio cyfunol o 47.5 oedd â chyfrifoldeb am gyflwyno 5 Cynllun Cyflwyno Clwstwr. Roedd y Cynlluniau Cyflwyno Clwstwr yn amlinellu prosiectau a oedd yn cyflwyno canlyniadau ar gyfer preswylwyr Cymunedau'n Gyntaf ym mhrif ardaloedd dysgu, iechyd a ffyniant.

 

Er mwyn cynnwys pobl ar y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf ym mhob un o ardaloedd y clwstwr, bu'r timau'n gweithio i ddeall cynhwysiad a chyfranogaeth gymunedol yn ogystal ag amrywiaeth preswylwyr yn yr ardaloedd.  Roedd gan Raglen Cymunedau'n Gyntaf Abertawe ddiffiniad a rennir o Gyfranogaeth Gymunedol:

 

"Y broses o greu cyfleoedd i bawb gael:

·         yr hyder i gymryd rhan yn eu cymuned a'u cymdeithas,

·         mynegi eu barn ar sut y caiff gwasanaethau lleol eu cynllunio a'u cyflwyno, a'r

·         gallu, y cryfder a'r lles i gyfrannu at gymunedau a chymdeithasau mwy cynaliadwy a chydlynol."

 

Ychwanegwyd bod Cynllun Cyfranogaeth Gymunedol (CCG) yn galluogi'r tîm Cymunedau'n Gyntaf i ddeall yn llwyr fod y gymuned angen cynyddu cyfranogaeth preswylwyr anodd eu cyrraedd. Roedd yn rhaid gwerthuso Cyfranogaeth Gymunedol yn barhaus i nodi effeithiolrwydd a pherthnasedd y cynllun.

 

Roedd pob Cynllun Cyfranogaeth Gymunedol yn cefnogi Strategaeth Trechu Tlodi Abertawe a oedd yn nodi bod gan gymunedau gwydn gyfranogaeth gymunedol gref. Roedd y Rhaglen Cymunedau'n Gyntaf, drwy'r CCG, yn nodi ac yn targedu aelodau mwyaf ffiniol ein cymunedau mwyaf difreintiedig ac yn cynnwys pobl leol yn fwy wrth wneud penderfyniadau.

 

Er nad oedd pob aelod o'r gymuned/preswylydd yn ymateb i dechnegau cynnwys a'r wybodaeth a ddarparwyd yn yr un ffordd, mae nifer o ddulliau ar gael i gynyddu Cyfranogaeth Gymunedol:

 

Roedd 'sbardunau' lleol i ennyn pobl i gymryd rhan. Hoffai preswylwyr dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau a gweithgareddau drwy daflenni neu'r cylchlythyr lleol. Roedd hysbysfyrddau gwybodaeth cymunedol yn darparu gwybodaeth leol.  Dyma rai o'r dulliau eraill a ddefnyddiwyd i gynnwys y gymuned:

 

·         Ymgynghori o ddrws i ddrws;

·         Cylchlythyr, taflenni;

·         Hysbysfyrddau gwybodaeth;

·         Rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol;

·         Cyfieithu gwybodaeth;

·         Grwpiau/sefydliadau gwirfoddol;

·         Cyfarfodydd Cymunedol;

 

Darparwyd manylion sut roedd y boblogaeth Lleiafrifoedd Ethnig a Du (BME) yn edrych ar draws ardal glwstwr Cymunedau'n Gyntaf, nifer y bobl BME a oedd yn cael mynediad i'r rhaglen Cymunedau'n Gyntaf yn 2015/16 a'r hyn yr oedd cymunedau BME yn cael mynediad iddo ac yn cymryd rhan ynddo.

 

Ychwanegwyd bod cynlluniau bron wedi’u cwblhau ar gyfer cyflwyno rhaglen Cymunedau am Waith Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Roedd y rhaglen hon yn rhaglen Blaenoriaeth 1 a 3 a oedd yn gweithio'n benodol yn ardaloedd clwstwr Cymunedau'n Gyntaf i gefnogi pobl ddi-waith yn y tymor hir i ddod o hyd i swydd.

 

Rhoddwyd brîff o'r newidiadau allweddol i Raglen Cymunedau'n Gyntaf 2016/17 -

 

Roedd y newidiadau allweddol i'r strwythur a'r model cyflwyno fel a ganlyn:

 

·         Symud o 5 Tîm Cyflwyno'r Clwstwr a reolir gan 5 Rheolwr Clwstwr i 3 thîm â thema yn cyflwyno ar draws 5 ardal glwstwr Abertawe.

·         Cyflwyno Cynllun Cyflawni unigol ar gyfer y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf yn Abertawe yn hytrach na 5 cynllun ar wahân.

·         Cydlynu prosiectau, mesurau perfformiad a chanlyniadau yn well.

·         Datblygu comisiynu gwasanaethau arbenigol ar draws y rhaglen.

·         Adnodd gwell ar gyfer cynnwys pobl mewn modd mwy penodol yn y rhaglen.

·         Datblygu ymagwedd yn seiliedig ar asedau at gefnogi pobl.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.  Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: -

 

·         Poblogaeth BME Abertawe;

·         Yr hyn y mae cymunedau BME wedi cael mynediad iddo a chymryd rhan ynddo;

·         Dysgu fel teulu, prosiectau coginio a chyfathrebu â'r gymuned;

·         Rhieni'n meithrin cyfeillgarwch wrth gatiau'r ysgol pan fyddant yn casglu plant o'r ysgol;

·         Chwalu rhwystrau cyfathrebu;

·         Rhaglen newid sylweddol;

·         Gwasanaethau cyfieithu ar gael i'r gymuned;

·         Defnydd o fanciau bwyd gan y gymuned BME.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys yr adroddiadnoted.

69.

Blaenoriaethau ar gyfer PCC Cymunedau yn y Flwyddyn Ddinesig 2016-2017. (Cadeirydd)

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod y pwyllgor angen cytuno ar ei flaenoriaethau ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017. Cynigwyd y dylai'r pwyllgor lunio rhestr o bynciau posib i'w trafod.  Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf y byddai'n fodlon cytuno ar y cyd ar y pynciau i'w cynnwys yng nghynllun gwaith 2016/17.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r pwyllgor gytuno ar restr o bynciau ar gyfer cynllun gwaith 2016/17 ac i drafodaethau gael eu cynnal ag Aelodau’r Cabinet.

 

70.

Cynllun Gwaith 2015 - 2016. pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2015/2016. 

 

Cynigwyd y dylai'r cyfarfod a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer 12 Mai 2016, a oedd wedi cael ei ganslo'n ddiweddarach, gael ei gynnal yn ôl y drefn wreiddiol. 

 

Nododd y Cadeirydd mai diben y cyfarfod oedd derbyn yr Adroddiad Polisi Ynni Drafft a gyflwynwyd gan y Rheolwr Ynni.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad.

2)    Y dylid trefnu cyfarfod arall ar gyfer y pwyllgor am 2pm ddydd Iau, 12 Mai 2016.