Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

96.

Ethol Cadeirydd Dros Dro.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd M C Child yn Gadeirydd Dros Dro.

 

Bu'r Cynghorydd M C Child (Cadeirydd Dros Dro) yn llywyddu.

97.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw gysylltiad personol â Chofnod 99 "Cais Cyfalaf Dechrau'n Deg 2019/20" fel Llywodraethwr Ysgol Gynradd Portmead;

 

datganodd E J King gysylltiad personol â Chofnod 99 "Cais Cyfalaf Dechrau'n Deg 2019/20" fel Llywodraethwr Ysgol Gynradd y Gors.

98.

Cofnodion: pdf eicon PDF 100 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

99.

Cais Cyfalaf Dechrau'n Deg 2019/2020. pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Achos Busnes Prosiect Ysgol adroddiad i amlinellu'r cynnig cyfalaf a gynhwyswyd yn y cais cyllid cyfalaf a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ynghylch Rhaglen Dechrau'n Deg 2019/20.

 

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol am gais am gyllid drwy gyfalaf ychwanegol i helpu cynnal safonau darpariaeth mewn lleoliadau Dechrau'n Deg presennol.  Maent wedi nodi nad yw'r cais hwn yn cynrychioli ymrwymiad fod y gyllideb ar gael yn y flwyddyn ariannol hon, ac nid oes gwahoddiad i awdurdodau i gyflwyno ceisiadau i gynyddu neu ehangu darpariaeth Dechrau'n Deg ar hyn o bryd.  Prif ffocws y gyllideb yw mynd i'r afael â pharhad busnes a materion iechyd a diogelwch.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd (Is-gadeirydd) fu'n llywyddu.

 

Penderfynwyd y dylid cynnwys y cynnig fel y nodwyd, ynghyd â'r goblygiadau ariannol, yn y rhaglen gyfalaf, gan ragweld y bydd Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r cynnig.

100.

Grant i gefnogi lleihau'r angen i blant fynd i mewn i ofal yn 2018-19. pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes adroddiad i roi gwybod i'r panel am y gyllideb mewn perthynas â'r Grant i gefnogi lleihau'r angen i blant sy'n mynd i ofal yn 2018-19.

 

Dyrannodd Llywodraeth Cymru'r grant hwn yn uniongyrchol ac nid oedd rhaid i'r cyngor gyflwyno cais.  Cynigiwyd dyraniadau i holl gynghorau Cymru i gydnabod y pwysau ariannol y mae'r cynghorau yn eu hwynebu wrth iddynt geisio rheoli'r galw cynyddol am Wasanaethau Plant a Theuluoedd statudol. £76,620 yw gwerth y cynnig hwn i'r cyngor sydd i'w dalu o fewn blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi'r goblygiadau sydd yn yr adroddiad ac, yn dilyn hynny, yn cymeradwyo derbyn y grant.