Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu
Allanol a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020 yn gofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Eiddo adroddiad i roi manylion am Gronfa Gyfalaf Economi Cylchol
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflwyno
gweithio ystwyth yn Neuadd y Ddinas, Abertawe. Penderfynwyd rhoi cymeradwyaeth i dderbyn unrhyw gynnig
grant yn sgîl cyflwyno cais ariannu i Gronfa Gyfalaf
Economi Gylchol Llywodraeth Cymru 2019-20 i gefnogi'r gwaith o gyflwyno
gweithio ystwyth yn Neuadd y Ddinas, Abertawe. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem
fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd
Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Ceisiadau Cronfa Isadeiledd Gwyrdd Llywodraeth Cymru a Chyfle am Arian Grant Cyfalaf Tasglu'r Cymoedd. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Economaidd adroddiad a oedd yn rhoi manylion
y ceisiadau ariannu a gyflwynwyd i Gronfa Isadeiledd Gwyrdd Llywodraeth Cymru (LlC). Yn dilyn trafodaethau, gofynnodd y Cadeirydd am adroddiad, i'w gyflwyno yn
un o gyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol, a oedd yn amlinellu manylion y ceisiadau
prosiect Isadeiledd Gwyrdd llwyddiannus. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cefnogir y saith o gynigion a wnaed i Gronfa Isadeiledd
Gwyrdd LlC; 2)
Mae'r panel yn bwriadu cynnal trafodaethau ynghylch
cronfa arian grant cyfalaf ar gyfer ardaloedd Tasglu Cymoedd De-orllewin Cymru. |