Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd A S Lewis yn Gadeirydd
Dros Dro. Y Cynghorydd A S Lewis (Cadeirydd Dros Dro) fu'n llywyddu. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2020 yn gofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn darparu
manylion am Gronfa Gyfalaf Economi Gylchol Llywodraeth Cymru 2019-2020 i
gefnogi sefydlu Canolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu Pren. Penderfynwyd y dylai'r Panel Ariannu Allanol gymeradwyo unrhyw gynnig grant yn dilyn cyflwyno cais ariannu i Gronfa Gyfalaf Economi Gylchol Llywodraeth Cymru 2019-2020 i gefnogi'r gwaith o sefydlu Canolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu Pren. |